Canlyniadau triniaeth iechyd meddwl yn aneglur serch gwariant : Plaid Cymru

Mae canlyniadau gwasanaethau iechyd meddwl yn aneglur er fod 11% o holl gyllideb GIG Cymru yn cael ei gwario ar y gwasanaethau hynny, yn ôl adroddiad newydd gan Blaid Cymru.

Mae’r adroddiad, Meddwl am iechyd meddwl, yn cymharu gwasanaethau GIG Cymru gyda gwledydd eraill megis yr Iseldiroedd, Sweden, a mannau eraill yn yr Ynysoedd Prydeinig.

Mae’r adroddiad hefyd yn tynnu sylw at y ffaith fod gan Gymru llai o welyau mewnglaf iechyd meddwl na gwledydd eraill, gweithlu arbenigol gymharol llai, a rhybudd o effaith y ‘canol coll’ ar ofal iechyd meddwl plant a’r glasoed.

Dywedir yn yr adroddiad:

‘…byddai persbectif sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau yn cydnabod bod canlyniadau’r gwasanaeth yn well yn iaith y defnyddiwr gwasanaethau, ac y byddai’n well ganddyn nhw dderbyn y gwasanaethau yn eu dewis iaith. Mae’n hanfodol fod gan y byrddau iechyd lleol weithlu wedi’u hyfforddi sy’n gallu darparu’r gwasanaeth sy’n adlewyrchu’r iaith ddewisol.’

Darllen rhagor : Plaid Cymru




Angen gwella gwasanaeth iechyd meddwl plant : BBC Cymru Fyw

Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru wedi nodi bod angen gwella agweddau o wasanaeth iechyd meddwl plant a’r glasoed.

Diffyg gwelyau ar gyfer pobl ifanc sydd â phroblemau iechyd meddwl “risg uchel” oedd un o brif bryderon eu hadroddiad diweddar.

Tair uned arbenigol i gleifion sydd yng Nghymru, gyda lle i 51 o bobl.

Mae’r adolygiad wedi canolbwyntio ar y canlynol:

  • Gwasanaethau iechyd meddwl plant a’r glasoed (CAMHS);
  • Gwasanaethau gofal iechyd cyffredinol i bobl ifanc;
  • Cefnogi pobl ifanc sydd â chyflyrau sy’n cyfyngu ar fywyd a gofal lliniarol;
  • Trosglwyddo o wasanaethau gofal iechyd plant i wasanaethau gofal iechyd oedolion.

Dywed yr adolygiad fod pobl ifanc at ei gilydd yn cael profiadau da o ofal yn y gwasanaethau, ond mae yna bryderon am allu unedau cleifion mewnol CAMHS yng Nghymru i letya pobl risg uchel.

Golyga hyn, yn ôl yr adroddiad, nad yw pobl ifanc bob amser yn gallu cael gofal amserol yn agos at eu cartrefi a bod yn rhaid i rai ohonyn nhw gael eu lleoli y tu allan i’w hardaloedd.

Darllen rhagor : BBC Cymru Fyw




Mind Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu effeithiolrwydd deddfwriaeth iechyd meddwl

Wrth i argymhellion adolygiad annibynnol o’r Ddeddf Iechyd Meddwl gael eu cyhoeddi, mae Mind Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i edrych ar sut mae’r Ddeddf yn cael ei chymhwyso yng Nghymru.

Wrth ymateb i gyhoeddi’r adolygiad, dywedodd Simon Jones, Pennaeth Polisi a Dylanwadu Mind Cymru:

“Er bod y Ddeddf Iechyd Meddwl yn berthnasol i Gymru, mae gwasanaethau iechyd meddwl wedi’u datganoli ac yn gweithredu o dan fframwaith gwahanol. Mae rhai o argymhellion yr adolygiad eisoes yn rhwymedigaethau statudol yng Nghymru o dan y Mesur Iechyd Meddwl.

Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu effeithiolrwydd deddfwriaeth, polisi ac ymarfer iechyd meddwl yng Nghymru. Byddem yn dymuno gweld yr adolygiad hwn ymgysylltu’n uniongyrchol â phobl sydd â phrofiad o ddefnyddio gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru, ac yn ystyried effeithiolrwydd y Mesur Iechyd Meddwl, argymhellion yr Adolygiad o’r Ddeddf Iechyd Meddwl a sut mae’r ddau ddarn o ddeddfwriaeth yn rhyngweithio mewn cyd-destun Cymreig.”  [cyfieithiad]

Testun gwreiddiol : Mind





Cyhoeddi adroddiad ar atal hunanladdiad yng Nghymru

Cyhoeddwyd ‘Busnes Pawb – Adroddiad ar atal hunanladdiad yng Nghymru’ gan Bwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon y Cynulliad ar 5 Rhagfyr.

Prif neges yr adroddiad yw bod atal pobl ifanc rhag cymryd eu bywydau eu hunain yn fusnes i bawb ac ni all siarad â rhywun sy’n ystyried hunan-laddiad fyth wneud pethau’n waeth.

Mae’r Pwyllgor yn gwneud cyfres o argymhellion sy’n canolbwyntio ar well cydraddoldeb rhwng gwasanaethau iechyd meddwl a chorfforol, gofal dilynol gwell i’r rheini sy’n cael eu rhyddhau o’r ysbyty a chyflwyno fframwaith hyfforddi cenedlaethol ar gyfer atal hunanladdiad.

Dywedodd Dr Dai Lloyd AC, Cadeirydd y Pwyllgor:

“Y neges allweddol rydym wedi’i chlywed yw bod hunanladdiad yn fusnes i bawb; dyna’r neges y mae angen i bawb ohonom ei chofio a’i rhannu. Gall effeithio ar unrhyw un ac nid oes cymuned yng Nghymru lle nad yw hunanladdiad wedi effeithio ar ei phobl.

Mae gan bob un ohonom ein rhan i’w chwarae o ran cynnig cymorth i bobl sydd mewn angen. Rydym ni’n gwybod y gall cymorth gan rywun arall wneud gwahaniaeth mawr i rywun sy’n meddwl am hunanladdiad.

Ni ddylem ddibynnu ar weithwyr proffesiynol meddygol neu’r gwasanaethau brys i ddarparu’r cymorth hwn – gallwn ni i gyd helpu drwy gynnig cyfle i siarad.

Mae angen i ni godi ymwybyddiaeth o’r pethau bach y gallwn ni i gyd eu gwneud a lledaenu’r neges na fydd siarad â rhywun sydd mewn gofid yn gwneud y sefyllfa’n waeth.”

Wrth groesawu’r adroddiad, dywedodd Sara Moseley, Cyfarwyddwr Mind Cymru:

“Mae’r adroddiad yn esbonio’n glir nad yw gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru yn cael eu blaenoriaethu yn yr un modd â gwasanaethau iechyd corfforol a bod y ddarpariaeth yn aml yn anghyson ac yn annigonol. Rhaid rhoi blaenoriaeth i wella mynediad a rhoi adnoddau digonol i wasanaethau gofal ymyrraeth gynnar ac ymatal.

Mae’r adroddiad hwn yn gam pwysig at wella atal hunanladdiad yng Nghymru, a sicrhau bod unrhyw un sy’n dioddef o broblem iechyd meddwl yn cael yr help a’r gefnogaeth sydd angen arnynt, pan fo’u hangen arnynt. Rydym yn eiddgar i gael clywed ymateb Llywodraeth Cymru.”

Gallwch ddarllen yr adroddiad yma (pdf)

Darllen rhagor : BBC Cymru Fyw, Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Mind





Mamau’n gorfod teithio hyd at 10 awr am ofal amenedigol : BBC Cymru Fyw

Mae mamau newydd sydd angen gofal seiciatrig yn teithio hyd at 10 awr i’r ysbyty gan nad oes cyfleusterau addas yng Nghymru, yn ôl adroddiad.

Mae cynlluniau ar gyfer uned arbenigol i Gymru yn cael eu hystyried ers Gorffennaf 2017 ond does dim penderfyniad hyd yma.

Caeodd yr unig uned arbenigol yng Nghymru ar gyfer mamau a babanod yng Nghaerdydd yn 2013, ac mae ymgyrchwyr wedi bod yn galw am uned newydd ers hynny.

Darllen rhagor : BBC Cymru Fyw





Dylai iechyd meddwl plant a phobl ifanc fod yn ‘flaenoriaeth genedlaethol’ : Plaid Cymru

Dylai iechyd meddyliol ac emosiynol plant a phobl ifanc fod yn ‘flaenoriaeth genedlaethol’ yn ôl Plaid Cymru.

Wrth ymateb i gyhoeddiad adroddiad y Cynulliad ar gymorth iechyd meddwl emosiynol a meddyliol i blant a phobl ifanc yng Nghymru, meddai Llyr Gruffydd AC, ysgrifennydd cabinet cysgodol Plaid Cymru dros addysg a dysgu gydol oes ac aelod o’r pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg:

“Dyma’r diweddaraf mewn cyfres hir o adroddiadau sy’n tynnu sylw at y ffaith fod diffyg argaeledd gwasanaethau Iechyd Meddwl plant a phobl ifanc. Tynwyd sylw at llawer o’r canfyddiadau hyn mewn adroddiad blaenorol a gyhoeddwyd yn 2014 gan Bwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg diwethaf y Cynulliad.”

“Mae’n annerbyniol fod rhaid i blant a phobl ifanc fod yn ddifrifol wael cyn eu bod yn derbyn mynediad at y gwasanaethau iechyd meddwl priodol. Yn llawer rhy aml mae gormod o blant a phobl ifanc yn cael eu gadael heb y gefnogaeth angenrheidiol fyddai’n atal eu salwch meddwl rhag gwaethygu. Mae’n rhaid sicrhau buddsoddiad sylweddol o ran atal ac ymyrryd yn gynharach yn achos rheiny sy’n dangos arwyddion cynnar o broblemau iechyd meddwl ac emosiynol. I’r plant a’r pobl ifanc hynny sydd yn cwrdd â’r meini prawf i gael mynediad at wasanaethau CAMHS, mae’n annerbyniol eu bod hwythau hefyd yn dod ar draws anawsterau gan gynnwys amseroedd aros hir.

“Cred Plaid Cymru y dylai iechyd a lles emosiynol a meddyliol plant a phobl ifanc fod yn flaenoriaeth genedlaethol. Dyna pam yn ein cynhadledd ddiwethaf, fe wnaethom gyhoeddi y byddem yn darparu adnoddau ychwanegol i fynd i’r afael â’r argyfwng hwn a gosod dirwy i fyrddau iechyd sydd methu â sicrhau bod yr adnoddau ychwanegol hynny yn arwain at well perfformiad.”





Cyhoeddi adroddiad ar iechyd meddwl plant a phobl ifanc

Mae Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Cynulliad wedi cyhoeddi adroddiad – ‘Cadernid Meddwl’ – sy’n edrych ar iechyd emosiynol a iechyd meddyliol plant a phobl ifanc yng Nghymru.

Lluniwyd yr ymchwiliad er mwyn craffu ar y gwasanaethau atal ac ymyrraeth gynnar a gynigir i blant a phobl ifanc. Y casgliad oedd bod angen gwneud yn siŵr bod pobl ifanc yn ddigon gwydn ac yn iach yn feddyliol.

Ymysg yr argymhellion y mae sicrhau:

  • Bod iechyd emosiynol a meddyliol yn rhan o’r cwricwlwm addysg newydd;
  • Bod hyfforddiant priodol yn cael ei roi i bobl sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc;
  • Bod adnoddau i ysgolion ddod yn ganolfannau cymunedol o gefnogaeth ar draws sectorau.

Gallwch ddarllen yr adroddiad yma





Angen taclo problem tlodi yng Nghymru : Samariaid Cymru

Gwyddom fod tlodi’n gysylltiedig â phobl yn lladd eu hunain. Gwyddom hefyd nad yw hunanladdiad yn anochel a bod yna gamau y gallwn eu cymryd fel nad yw adegau anodd yn arwain at farwolaethau pobl.

Erbyn hyn mae yna dystiolaeth ddiymwad o gysylltiad cryf rhwng amddifadedd economaidd gymdeithasol ac ymddygiad hunanladdol. Mae ardaloedd o anfantais economaidd gymdeithasol uwch yn tueddu i fod â chyfraddau hunanladdiad uwch, a pho uchaf yw’r lefel amddifadedd mae unigolyn yn ei phrofi, uchaf yw’r risg ymddygiad hunanladdol.

Mae tlodi’n golygu wynebu ansicrwydd di-baid. Mae ei nodweddion yn cynnwys tai annigonol, iechyd meddwl gwael, cyflawniad addysgol isel, diweithdra, unigedd a symudedd cymdeithasol isel.’

Darllen rhagor : Samariaid Cymru





Adroddiad ar iechyd meddwl amenedigol yng Nghymru

_98341608_gettyimages-645276762Mae Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg Cynulliad Cymru wedi cyhoeddi adroddiad ar iechyd meddwl amenedigol yng Nghymru.

Yn ôl yr adroddiad, mae angen mwy o fuddsoddiad i fynd i’r afael ag amrywiadau mewn gofal a gaiff ei brofi gan fenywod sy’n wynebu salwch meddwl yn ystod beichiogrwydd ac ar ôl rhoi genedigaeth.

Rhybuddiodd y pwyllgor hefyd fod y diffyg gofal arbenigol i gleifion mewnol yng Nghymru, ar gyfer y rheiny sydd â’r symptomau mwyaf difrifol, yn annerbyniol.

Mae’r Aelodau Cynulliad wedi galw am ailagor uned mam a baban (MBU) yn ne Cymru – ers 2013 mae mamau wedi gorfod teithio i Loegr am wasanaeth.

Darllen rhagor : Cynulliad Cymru