Fy mhrofiad o therapi EMDR

Blog EDMRPetaech chi wedi dweud ‘Eye Movement Desensitization and Reprocessing’ (EMDR) wrtha i ryw flwyddyn yn ôl, ni fyddai gen i unrhyw syniad am beth oeddech chi’n sôn. Ond erbyn hyn, mae’n rhan bwysig o fy mywyd.

Dwi wedi trafod hanes fy salwch, Anhwylder Straen Wedi Trawma (PTSD), ar wefan Meddwl yn y gorffennol, ac wedi crybwyll ‘mod i’n derbyn y math hwn o therapi. Dwi bellach wedi cwblhau tri mis o’r driniaeth, a dwi am drafod fy mhrofiad ohono cyn belled, er mwyn rhoi syniad i bobl eraill all fod yn ei ystyried fel triniaeth.

Parhau i ddarllen

Rhannu

triniaethau

triniaethauMae nifer o driniaethau effeithiol ar gael, ond nid oes un driniaeth sy’n iawn i bawb. Mae’n bwysig eich bod yn trafod gyda gweithiwr iechyd proffesiynol i ddod o hyd i driniaeth sy’n gweithio i chi. Isod ceir rhestr o rai o’r triniaethau mwyaf cyffredin. Yma ceir gwybodaeth am wahanol fathau o driniaethau siarad, meddyginiaeth, ymwybyddiaeth ofalgar, a therapiau eraill.


Triniaethau Siarad

Math o driniaeth yw triniaethau siarad sy’n cynnwys siarad â therapydd am eich meddyliau a’ch teimladau. Diben triniaethau siarad yw eich helpu i ddeall eich teimladau a’ch ymddygiad yn well ac, os ydych yn dymuno, i newid eich ymddygiad neu’r ffordd rydych yn meddwl am bethau.

Mae triniaethau siarad yn gweithio drwy roi cyfle i chi siarad am eich meddyliau, ofnau ac ymddygiad gyda rhywun sydd wedi cael hyfforddiant proffesiynol er mwyn eich helpu i ddeall y pethau hyn yn well, a’ch helpu i ddod o hyd i ffyrdd o newid y pethau rydych am eu newid.

Efallai y byddwch yn teimlo’n orbryderus neu’n ofidus ar y dechrau hefyd. Gall hyn fod am eich bod yn gorfod canolbwyntio ar deimladau anodd y byddai’n well gennych eu hanwybyddu. Efallai y bydd yn ddefnyddiol i chi drafod unrhyw bryderon sydd gennych ynghylch sut rydych yn ymateb i’r therapi – ar unrhyw gam.

Mae llawer o fathau gwahanol o driniaethau siarad, sy’n defnyddio arddulliau a dulliau gwahanol i’ch helpu, ond mae gan bob un ohonynt yr un nod: eich helpu i deimlo y gallwch ymdopi’n well â’ch emosiynau a’r pethau sy’n digwydd yn eich bywyd.

Mae rhagor o wybodaeth i gael ynglŷn â thriniaethau siarad ar wefan Mind.

Parhau i ddarllen

Rhannu