Lansiwyd menter newydd yn ddiweddar i geisio gwella cymhwysedd diwylliannol mewn gwasanaethau iechyd, iechyd meddwl a gofal cymdeithasol.
Lansiwyd y fenter gan yr Ysgrifennydd Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething AC, a dyma’r fenter gyntaf o’i math yn y DU.
Datblygwyd y BME Mental Health Workplace Good Practice Certification Schemegan yr elusen cydraddoldeb Diverse Cymru. Mae wedi ei ddylunio ar gyfer gweithwyr proffesiynol sydd yn gweithio o fewn cymunedau BME yng Nghymru, mewn ymdrech i wella hygyrchedd ac ansawdd gwasanaethau iechyd, iechyd meddwl a gofal cymdeithasol.
Dywedodd Suzanne Duval, Rheolwr Iechyd Meddwl BME yn Diverse Cymru:
“Mae ymchwil wedi dangos fod pobl BME yn llai tebygol o chwilio am gefnogaeth iechyd meddwl yn gynnar yn sgil rhwystrau diwylliannol, mwy o broblemau yn cael mynediad at wasanaethau a’n delio gyda systemau iechyd meddwl, ac felly, maent yn cael mynediad at wasanaethau dipyn hwyrach pan fydd eu problemau yn fwy difrifol.”
Mae pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig (BME) yn cuddio problemau iechyd meddwl oherwydd stigma diwylliannol.
Mae elusennau wedi dweud bod disgwyliadau ar sut y dylid ymddwyn ac anrhydedd teuluol yn atal rhai menywod rhag siarad yn onest.
Mae ffigyrau’n dangos bod pobl Brydeinig gwyn yn cael mwy o gymorth, tra bod menywod BME yn fwy tebygol o gael salwch meddwl.
Dywedodd yr ymgyrchydd Asha Iqbal bod ofnau ynghylch cywilyddio ei theulu a pheidio â bod “y wraig berffaith” wedi gwaethygu ei gorbryder.
Dywedodd Asha Iqbal, a ddechreuodd dioddef o orbryder yn 10 oed, bod tyfu fyny fel menyw Asiaidd wedi dod â disgwyliadau diwylliannol.
“Mae’n rhaid i chi gyflwyno eich hun mewn ffordd benodol er mwyn i chi fod yn addas i rywun eich priodi chi. Dydych chi ddim eisiau agor eich calon rhag ofn y bydd hynny yn difetha eich enw da ar sut ydych chi’n cyflwyno’ch hun – does neb eisiau gwraig ansefydlog.”
Darllen rhagor : BBC(Saesneg yn unig) (Mae’r ffigyrau am yr NHS yn yr erthygl yn cyfeirio at Loegr yn unig)
‘Mae nifer o adroddiadau wedi tynnu sylw at y ffaith bod gor-gynrychiolaeth o bobl ddu a lleiafrifoedd ethnig (BME) mewn gwasanaethau iechyd meddwl, ond bod pobl BME ifanc sy’n mynd at wasanaethau iechyd meddwl wedi’u tangynrychioli.
At hyn, mae pobl BME yn llai tebygol o gael eu cyfeirio gan feddyg teulu i gael cefnogaeth, er bod hyn yn arwain at dderbyn canran uwch i’r ysbyty yn y dyfodol gyda phroblemau iechyd meddwl cronig.
Rhan o genhadaeth Diverse Cymru yw ceisio gwneud gwahaniaeth bositif i’r ystadegau hyn, gan ddefnyddio ein sefyllfa unigryw yng nghymunedau BME Cymru ac ymhlith gweithwyr iechyd meddwl proffesiynol, i godi ymwybyddiaeth o’r materion a’r rhwystrau ychwanegol sy’n wynebu pobl BME o ran cyrchu gwasanaethau iechyd meddwl.
Rydym am i bobl deimlo’n hyderus a chyfforddus wrth gyrchu gwasanaethau, ac i ymarferwyr gofal iechyd deimlo’n fwy gwybodus wrth wynebu cymhlethdodau’r materion sy’n wynebu rhai pobl BME wrth iddyn nhw geisio cymorth.’