Rhannu Profiad
Oes gennych ddiddordeb i rannu eich profiad ar ein gwefan ar ffurf blog, fideo neu waith creadigol?
- Mae modd rhannu eich profiad gan ddefnyddio eich enw neu yn ddienw.
- Does dim ots o gwbl am safon eich Cymraeg.
- Rydym yn hyblyg o ran hyd y blog, ond mae’r rhan fwyaf o flogiau ar ein gwefan rhwng 600 a 1,000 o eiriau.
- Cewch gyfle i weld y darn ar y wefan a’i addasu cyn iddo gael ei gyhoeddi.
- Cewch wybod pryd yn union fydd y darn yn cael ei gyhoeddi.
- Gwnawn ein gorau i sicrhau bod rhannu eich profiadau yn broses mor hawdd â phosib i chi.
- Gallwch ddarllen profiadau eraill yma ac mae gwaith creadigol ar gael yma.
- Anfonwch y blog ar Word at gwefanmeddwl@meddwl.org, neu anfonwch e-bost am ragor o wybodaeth.
Edrychwn ymlaen at glywed oddi wrthych!