Ysgrifennu ‘Tami’

“Dwi’n gwbod bo’ Cat yn colli fwy neu lai’r un faint o ysgol
â fi ond dyw e ddim fel tase fe’n boddran hi gymaint.

Mae hi jyst wastad mor hapus a sai’n gwbod shwt mae hi’n neud e.”

Mae hi’n noswaith braf yng Ngheinewydd. Cynnes. Llonydd. A dwi a fy chwaer yn gollwng ein cyrff yn araf bach i mewn i oerni’r môr, o’r diwedd. Mae bod yn y môr yn neud i fi deimlo’n fyw. Ni ‘di nofio mas yn bell y tro ‘ma, fel nad yw ein traed yn gallu cyffwrdd â’r cerrig gwymonllyd oddi tano rhagor.

Alla i ddychmygu sut dwi’n edrych ar hyn o bryd. Yn wyneb bach ofnus ar gynfas glas, yn trio’i orau i beidio â boddi. Dwi’n cicio fy nghoesau mor gyflym â phosib i drio cadw fy mhen uwchben y dŵr. Dwi’n gwylio fy chwaer yn arnofio’n rhwydd fel bwi wrth fy ochr.

“Shwt ti’n neud ‘na?”
“Neud be?”
“Arnofio fel ‘na. Ti’n edrych mor smooth.”
“Cico coese fi.”

Ond dyna be dwi’n neud hefyd. Felly pam dwi’n cael cymaint o drafferth i stopio fy hunan rhag boddi tra bo fy chwaer yn osgeiddig reit? Dwi’n bendant ddim yn edrych fel ‘na.

Neu ydw i?

Ydw i’n edrych fel mod i’n arnofio’n rhwydd heb arwydd mod i’n stryffaglu dan arwyneb y dŵr? Falle mod i’n edrych fel mod i’n gwybod yn iawn be dwi’n neud i bawb arall.

A dyna’n union sut beth yw salwch meddwl. Dyw e ddim bob amser yn weladwy i’r llygad, sdim ots faint mae rhywun yn brwydro yn ei erbyn e dan y wyneb.

Mae gyda ni’r ddawn ‘ma i’w guddio fe er ei fod e’n aros yn sownd wrth ein hochr ble bynnag y byddwn ni’n mynd.

Tasen i’n treulio amser yng nghwmni Tami, fysen i ddim yn meddwl ei bod hi’n brwydro ag iselder. Dim ond drwy dreiddio i’w hymennydd hi y bysen i’n dod i sylweddoli pa fath o feddyliau tywyll mae hi’n gorfod delio â nhw.

Tami yw’r ail nofel yng nghyfres Y Pump, sy’n dilyn criw o ffrindiau ym Mlwyddyn 11 yn Ysgol Gyfun Llwyd. Mae’n gymeriad sy’n ymddangosiadol hyderus, eofn a ffwrdd-â-hi ond, drwy’r naratif person cyntaf, down i ddeall ei gwir deimladau wrth iddi fyw gyda phoen cronig ac effaith hynny ar ei hiechyd meddwl, ei bywyd personol a’i bywyd ysgol.

“Ife’r oerfel sy’n neud i EDS fi fflero lan, sy’n neud i fi golli ysgol,
sy’n neud i fi streso? Neu ife’r streso sy’n neud i EDS fi fflero lan,
sy’n neud i fi golli ysgol, a dyw e’n ddim byd i neud â’r oerfel?
Pa bynnag ffordd, ma mis Tachwedd yn shit.”

Mae cyswllt anorfod rhwng iechyd corfforol ac iechyd meddwl, ac iselder yw un o brif gymhlethdodau salwch cronig.

Mae iechyd meddwl Tami yn dioddef pan fo’i chyflwr yn gwaethygu, ac mae ei chyflwr yn gwaethygu pan fo’i hiechyd meddwl yn dioddef. Mae’n teimlo euogrwydd, blinder, dicter ac anobaith wrth iddi drio cydbwyso’i bywyd personol a’i bywyd ysgol a’i chyflwr, syndrom Ehlers-Danlos. Mae’r ysgol yn her iddi o ganlyniad, yn enwedig straen yr arholiadau, ac ry’n ni’n gweld Tami’n pellhau oddi wrth ei ffrindiau wrth i’r boen a’r iselder afael ynddi. Y trueni yw nad yw hi’n penderfynu agor lan hyd yn oed i’w ffrindiau agosaf, gan nad yw hi isie bod yn fwrn arnyn nhw.

“Mae fy niwrnodau da yn fy ngorfodi i ddewis rhwng gwaith a phethau 
dwi wir yn eu mwynhau achos alla i ddim gwneud y ddau, 
a dwi’n dioddef y diwrnod canlynol sdim ots pa un dwi’n ei ddewis.
Mae’n anodd pan mae pobl yn gwthio disgwyliadau person 
nad yw’n anabl ar berson sydd yn!!”

Er ei bod yn defnyddio cadair olwyn yn yr ysgol, mae Tami yn byw ag anableddau cudd, ac mae hyn yn ychwanegu at y stigma mae hi’n ei wynebu. Mae’n wir yn yr achos ‘ma hefyd – sdim rhaid gweld anabledd er mwyn credu ynddo. Mae’r egni a’r llafur meddyliol sy’n mynd i mewn i drio byw bywyd fel person nad yw’n anabl, mewn cymdeithas â rhwystrau systemig, yn exhausting i Tami.

Er y rhwystrau mae Tami’n eu hwynebu, nofel obeithiol yw hi. Bysen i’n dadlau mai stori gariad yw hi mewn gwirionedd, gan fod Tami fel petai hi ar siwrne i ddod i garu ei hunan. Mae’n dysgu gwerth siarad a bod yn onest am ei theimladau ac i beidio â theimlo’n euog am ddweud ‘Na’ ac i roi cyfle i’w chorff orffwys.

Mae’n deg dweud bod y prosiect wedi bod yn gynhaliaeth i fi yn ystod cyfnod mor heriol yn ein hamser.

Fel rhywun nad o’dd wedi estyn allan am help â fy iechyd meddwl tan eleni, ar ôl bod yn orbryderus a chael meddyliau ymwthiol ac obsesiynol am sawl blwyddyn cyn hynny, dwi wedi teimlo bod gwneud rhywbeth am y peth a pheidio â ffrwyno’r teimladau wedi helpu cymaint.

Sail prosiect Y Pump – y nofelau eu hunain yn ogystal â’r broses o’u creu nhw – yw cariad. Mae am ddeall, mae am gefnogi, mae am gynnal, mae am weld pwysigrwydd mewn cymuned.

Ac yn sgil hyn dwi’n gobeithio y bydd y nofelau yn annog sgyrsiau mwy agored am iechyd meddwl hefyd, ac yn annog pobl i estyn allan am help os oes ei angen arnyn nhw, sef y rheswm pam mae pob nofel yn cynnwys dolenni cymorth ar ei diwedd.

Mae’n bwysig cofio bod gan bawb iechyd meddwl, ac mae pawb yn brwydro yn erbyn rhywbeth, hyd yn oed os nad yw hynny’n amlwg ar yr olwg gynta’.

Mared Roberts


Mae Tami, gan Mared Roberts gyda Ceri-Anne Gatehouse, yn rhan o gyfres Y Pump a gyhoeddir gan y Lolfa.