Un Dydd ar y Tro
Rhybudd cynnwys: hunan-niweidio
Dw i ‘di dechre canolbwyntio arnaf i fy hun yn fwy yn ddiweddar, a dw i’n falch nesi gychwyn gwrando yn iawn i fy hun, ar ôl amser mor hir. Rhywbeth arall dw i ‘di dysgu yw, dyw hi byth yn rhy hwyr i siarad – y peth pwysig yw dy fod ti yn nodi lawr dy deimladau a phryderon, boed mewn ffordd greadigol megis barddoni, neu gelf, neu trwy siarad efo ffrind, aelod o’r teulu, athro neu cwnselydd.
Dw i dal i gofio’r bore mor glir yn fy mhen pan ddwedais wrth un o fy athrawon yn yr ysgol ‘mod i’n strugglo.
Ar y pryd oni’n teimlo fel odd hi’n rhy hwyr, a faswn i erioed yn teimlo fel fi fy hun eto, a do, nath hi gymryd amser hir ar ôl hynny tan imi sylwi fy mod i’n gwella. A dw i’n parhau ar y siwrne ‘na hyd heddiw, ond y tro ‘ma, dw i’n gwbod mae yna obaith, a fy mod i’n ddigon!
O’n i ym mlwyddyn 11 pan ddechreuais anafu fy hun. Dw i’m yn cofio rili y tro cyntaf, neu pam yn union droiais i at anafu, ond cwmpais i mewn i dwll. O’n i’n timlo’n stuck, a nesi adael hi dros ddwy flynedd tan imi ddweud wrth rywun. Edrych yn ôl, odd cadw popeth i mewn yn neud mwy o niwed nag o les. Ac mewn ffordd o’n i’n gwbod hynny, ond odd hi lot haws i jest peidio dweud na siarad yn uchel. Ond odd y boen feddyliol yn gwaethygu, efo rhai diwrnodau yn waeth na lleill, a thry’r meddyliau yna yn boen corfforol, i’r pwynt lle o’n i’n timlo’r angen i anafu, hyd yn oed heb reswm. Cyrhaeddais i bwynt lle o’n i ffili cario mlan ar ben fy hun, ag aeth y sefyllfa yn beryglus ‘da anafu fi, a thry popeth yn arf.
Diwedd blwyddyn 13 a fy mlwyddyn gyntaf o brifysgol odd peak fi, ac odd hi’n anodd oherwydd o’n i’n gaeth, ac o’n i’n gwbod hynny ond nesi anwybyddu’r ffaith o’n i’n gwbod a cheisio cario mlan. Odd o fel petai anafu ‘di dod yn rhan o rwtin, o’n i’n timlo’r angen i neud ac weithiau o’n i’m yn gwbod pam, ond wedyn dath y rhwystredigaeth o beidio gwbod pam, a nesi fo eto. Cylch dieflig! Odd gweld y coch ar fy nghorff yn rhyddhad. Nesi’m meddwl am ddim byd arall wrth anafu, jest canolbwyntio ar yr hyn o’n i’n neud. Fel petai ‘mod i’n anghofio am bopeth odd yn poeni fi, a thawelu ma’r meddwl am gyfnod. Ond dyna’r broblem: ond am gyfnod, tan imi deimlo’r angen i dawelu’r meddwl eto.
Mae pethe wedi gwella, ydw dw i dal yn cael diwrnodau gwael ac isel ond peth arall dw i ‘di dysgu yw bod jest angen cario mlan rili.
Os dw i’n isel, dw i’n dweud wrth fy hun, wel be di’r pethe bach sy’n neud imi’n hapus? Un peth sy’n sicr o fy helpu i yw cerdded mynyddoedd a gwylio’r machlud ar lan y môr, ac os dw i angen bach o amser i fi fy hun, na i stico playlist ymlaen, a lan mynydd yn rhywle neu’n ishte ar draeth fydda i rain or shine. Dw i ‘di datblygu fel person, a ‘di dod i nabod fy hun yn lot gwell, a ‘di derbyn fy hun hefyd yn fwy. A weithie dw i dal yn hard going arnaf fi fy hun, a dw i’m yn deg arnaf fi hun, ond dw i hefyd ‘di dysgu bod hi’n iawn ac yn bwysig i deimlo emosiynau. Dani gyd ond yn human afterall! Ma’n hollol iawn i deimlo’n isel, yn upset, yn rhwystredig, yn genfigennus – oherwydd ma’r teimladau yma ond yn neud ni’n gryfach fel pobl. A ma’n rhaid inni roi amser i ni ein hun i wneud y pethau sy’n neud ni’n hapus boed yn unigol, neu efo ffrindiau.
Cymerwch gwpwl o funudau i nodi lawr yr hyn, a’r bobl, a’r llefydd sy’n codi’ch calon. Ma genna i restr ar fy ffôn o lefydd sy’n agos alla i fynd i gerdded, ffilms i wylio, pobl i gysylltu â i ddweud Helo, a gweithgareddau alla i droi ato os dw i’n timlo’r urge i anafu, neu os dw i’n rhwystredig, neu’n isel. A ma’n iawn os dachi’m yn siŵr be sy’n gweithio ichi – ma llawer o bethe heb weithio imi, a ma hi hefyd ‘di bod yn gyfnod o ddysgu pethe newydd, a darganfod stwff newydd.
Dw i’n meddwl oni’n lot rhy galed ar fy hun weithiau, yn ceisio cyflawni popeth, a chal y marciau gore, a mynd i bopeth a cheisio mynd allan ‘da phawb.
Ond ma neud y gore y galla i yn hen ddigon. Weithiau na i aros yn fy ngwely tan 2 y prynhawn, a meddwl wel be di’r pwynt ma’r diwrnod hanner drosodd – ac mae codi, a chael cawod a neud eich gwely yn ddigon weithiau. Ma’n iawn i gael chill days o wylio ffilms drwy’r dydd efo chwpan o de (jest nid pob dydd falle!) Ma gweithio non stop, mynd allan bron pob nos, mynd i ddarlithoedd a neud gwaith prifysgol, a mynd allan ‘da ffrindiau yn mynd yn ormod weithiau a dw i’n cal adegau lle dw i’n timlo’n mor physically exhausted dw i literally ffili meddwl, dw i mor flinedig, a jest ffili codi o’r gwely.
Dw i ‘di stopio gor-feddwl a mynd yn rhwystredig dros waith prifysgol, ac yn neud y gore y galla i yn lle, a’u torri hi lawr yn ddarnau dealladwy, bach. Dw i’n gwbod fy lefel, ac yn agor asesiadau a thraethodau weithiau a gweld marc fatha 60/100, yn gwenu i fy hun, ac yn dweud you know what, da iawn Kayle!
Sa i’n hoffi dweud ‘na’ wrth bobl chwaith, ac yn ceisio bod yn rhan o bopeth os galla i – ond ma dweud ‘sori, dw i’n brysur’, neu ‘dw i’m yn timlo’n iawn ar hyn o bryd’ yn iawn! Fe ddeith cyfleoedd arall – fi ‘di dysgu ‘na!
Dw i ‘di dysgu lot ma’n glir! Ond yn bwysicaf, dw i ‘di dysgu i gymryd pob dydd ar y tro.