Un diwrnod, blynyddoedd o frwydro
Rhybudd cynnwys: hunanladdiad, cam-drin rhywiol
Oni’n arfer bod mor hapus, yn mwynhau bywyd, gyda dipyn o ffrindiau, ac yn ‘joio fy hun. Mae bywyd yn greulon weithiau, ond mae’r rhwystrau yma yna i’ch profi medda’ nhw, ac mae pob cam ti’n gymryd i ddod dros y rhwystrau sy’ o dy flaen, yn dy wneud yn gryfach, yn gryfach nag erioed o’r blaen.
Wrth gwrs, mae problemau iechyd meddwl yn wahanol i bawb, ond mi ydw i’n ysgrifennu’r darn yma er mwyn dangos, er pa mor galed mae bywyd yn gallu bod, mae yna obaith, a ffordd ymlaen. Mi ydw i hefyd eisiau iechyd meddwl gael yr un sylw a phwysigrwydd â iechyd corfforol rhywun, gan ‘mod i’n credu’n gryf dylai neb fod â chywilydd siarad am iechyd meddwl. Dw i’n un dda i siarad mae’n debyg, achos mi gymrodd flynyddoedd i mi siarad amdano yn agored, ond mae’r effeithiau o beidio ei drafod yn agored wedi bod yn sylweddol, ac wrth edrych yn ôl, wedi bod yn gamgymeriad mawr.
Fel mae’r teitl yn ei awgrymu, mi newidiodd fy myd bach i mewn un diwrnod. Ers yr un dydd hunllefus yna, mae blynyddoedd o frwydro hefo problemau iechyd meddwl wedi bod yn boen arnai, ac yn parhau i fod, os dw i’n bod yn onest hefo fy hun. Ond credaf yn gryf iawn y bod gobaith o fy mlaen, a theimlaf yn gryfach person nag erioed o’r blaen.
Cychwynnodd yn ddiwrnod arferol, gyda dau deulu yn mynd allan am daith un-dydd yn y tywydd braf. Ar ôl cyrraedd nôl i’w tŷ nhw, ar ôl y diwrnod allan, fe droiwyd yn hunllef i mi. Y prynhawn hwnnw, cefais fy ngham-drin yn rhywiol, gan fab y teulu arall.
Yn syth ar ôl y ‘digwyddiad’ fel petai, heb sylweddoli ei fod yn digwydd, fe gychwynnodd y problemau iechyd meddwl. I ddechrau, mi es i sgwrio fy hun, er mwyn trio dod yn ‘lân’, gan sgwrio bob man yn drwydl, a’r llefydd yr oedd o wedi’i gyffwrdd. Roeddwn yn gwneud hyn bob tro roeddwn yn cael bath, a sgwrio fy nwylo bob cyfle oni’n gael, a mi ydw i’n gwneud hynny hyd heddiw, sydd yn gallu bod yn niwsans, achos dydi pobl eraill methu glir â deall pam. Heb sylweddoli, mi rois fy hun yn y rôl o or-amddiffyn, neu ‘over-protection mode’, ble oni’n gwthio pawb i ffwrdd, ac hynny, yn fy meddwl i, er mwyn amddiffyn fy hun ac eraill, rhywsut. Mae’n anodd egluro’r teimlad, ond roeddwn yn credu os byddai eraill yn agos ataf, y buasai rhywbeth drwg yn gallu digwydd iddyn nhw, a hyn oedd y peth olaf o’n i eisiau ei ddigwydd. Roedd hyn yn fy mhoeni’n arw.
Wrth reswm, o ganlyniad i wthio pawb i ffwrdd, fe es yn unig iawn, heb ffrindiau pan oni angen rhai fwyaf, ond mae pŵer y corff â’r meddwl yn anhygoel, gyda’r meddyliau yn cychwyn wedyn.
Roedd y meddyliau yn dweud fy mod yn haeddu bod yn unig, a doedd neb yn fy hoffi, nac eisiau bod yn ffrindiau hefo fi. Oni’n ‘damaged goods’, ac roedd yn well i eraill beidio bod yn agos gyda mi. Y peth gwaethaf ydy, mi wnes i gredu’r llais yna, a roedd yn difetha fy mywyd i, dydd i ddydd, o funud i funud, ac eiliad i eiliad, oni methu cael gwared ohono, er mod i’n ateb yn ôl, yn dweud ‘cau dy geg’, a ‘gad lonydd i mi’, doedd o ddim yn mynd i ffwrdd.
Cyrhaeddais bwynt lle oni mor unig, a methu dioddef y llais ‘ma, na’r hunllef yma rhagor, mi ddechreuais wneud cynlluniau i ladd fy hun. Oni wedi cael llond bol go iawn.
Credaf yn gryf mai oni bai am fy nghath, ni fuaswn yma heddiw, a buasai’r un person oedd yn haeddu dioddef am yr hyn ddaru o, ddim wedi cael ei ddyfarnu’n euog mewn Llys.
Ar ôl bod mewn sefyllfa na ddylsai neb fod ynddi, sef teimlo bod dy fywyd ddim gwerth i fyw, a fuasai neb yn dy golli, es i at yr heddlu, a datgan y cyfan iddyn nhw. Cyn hynny, yn ystod hynny, ac ar ôl hynny, roeddwn yn gweld fy meddyg teulu yn gyson, ac ar feddyginiaeth ‘anti-depressant’ er mwyn gallu cysgu. Er nad oedd y profiad yn un hawdd, fe wnaeth ddatgan hyn i’r heddlu ysgafnhau ychydig o faich oddi arnaf, ac ar ôl bob cam o’r siwrne, roeddwn yn teimlo fod baich yn mynd oddi ar fy ysgwyddau, a phan ddaeth y newyddion gan yr heddwas, bod rheithgor wedi’i ddyfarnu’n euog, roeddwn yn teimlo fod pob dim y dywedodd o, e.e ‘ni fuasai neb yn dy gredu’, yn hollol anghywir, oherwydd nid yn unig bod yr heddlu wedi fy nghredu, mi ddaru’r CPS fynd â’r achos yn ei flaen, wrth basio Llys ynadon, mi aeth i Lys y Goron, gyda rheithgor yn fy nghredu.
Roedd hyn yn deimlad anhygoel, ac mae wedi bod yn fan cychwyn i mi ail-gydio yn fy mywyd, a cham wrth gam, magu hyder a gweithio ar ddatblygu fy nghylch ffrindiau.
Tydi bob dim heb wella ers hyn, mi fuasai dweud hynny yn anghywir, ac yn glwydda, ond dw i’n dechrau gweld yn gliriach, yn fwy penderfynol, hefo dipyn mwy o egni ac awydd i fyw bywyd llawn, a pheidio gadael i hyn ddifetha fy mywyd a’r dyfodol.
Tydi o ddim yn hawdd cyfaddef eich bod angen cymorth, ac yn sicr mae’n gallu teimlo’n anodd iawn siarad am bethau, ond mae’r dywediad ‘a problem shared, is a problem halved’, yn rhyfeddol gywir, ac yn gweithio.
Efallai nad ydy’n teimlo fel’na, ond mae siarad hefo rhywun yn helpu, er mewn rhai amgylchiadau ni ellith y person wneud dim ond gwrando, mae o werth o. Mae’n hen bryd i gymdeithas addasu i hyn, gan fod angen i bawb siarad – boed yn ddyn neu’n ddynes, am eu teimladau, yr hyn sy’n eu poeni, ac yn enwedig am iechyd meddwl. Os ydy’n anodd siarad hefo teulu neu ffrindiau agos, mae pobl a/neu mudiadau cyfrinachol ar gael i wrando, 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos- cysylltwch â nhw, peidiwch a dioddef ar ben eich hun.
Er weithiau ar ddiwrnodau gwael, mae’n hawdd meddwl y buasai’n well i bawb os na fyddet yma rhagor, gyda’r meddwl yn chwarae triciau cás arnat, ond tydi hynny ddim yn wir. Ar y diwrnodau isel yna, meddylia am yr holl bethau positif yr wyt ti wedi’u cyflawni, er mor anodd mae hynny yn gallu bod, mae yna fwy o bethau positif na sy’ ‘na o bethau negyddol, er ei fod yn teimlo i’r gwrthwyneb.
Arhosa yn gryf, yr wyt yn gryfach yn fyw nag yn farw.
Mae’n berffaith wir i ddweud ‘mae’n iawn i beidio bod yn iawn’, achos tydi neb yn ‘iawn’ drwy’r dydd, pob dydd, ac mae’n bwysig iti sylweddoli nad wyt yn wan os wyt yn siarad am iechyd meddwl, neu dy bryderon -‘rwyt yn gryfach person, er efallai nad ydy’n teimlo fela ar yr adeg.
Mae pob bywyd yn bwysig, ac mae’n hen bryd i iechyd meddwl gael ei gymryd o ddifrif, a chael ei gyfrif yr un mor bwysig â iechyd corfforol.
Di-enw