Torri tabŵ galar

Yn anffodus, mae ambell noson dw i wedi bod allan yn mwynhau fy hun ac yna’n crio wedi i ddiod alcoholig droi arnaf i – ac yna’r euogrwydd, y cywilydd, ynghyd â’r hyn dw i’n ei feddwl sy’n bwysau cymdeithasol i fod â gwên o glust i glust bob tro y mae rhywun mewn tafarn.

Ambell dro, hefyd, mae tueddiad i rai unigolion (nid fy mod yn rhoi bai arnynt gan fod pawb â’u ffordd eu hunain o ddelio â phethau) yn ceisio fy nghysuro wrth ddweud rhywbeth tebyg i “ty’d ‘wan… anghofia amdana fo a bryna’i ddrinc i chdi”. Does dim ond calon dda y tu ôl i hyn ond mae’n gallu bod yn andros o beth anodd i orfod teimlo’r ffasiwn gywilydd o fod wedi colli deigryn tra bod pawb arall yn morio canu.

Y rheswm ‘mod i’n nodi hyn ydi am fod “ty’d ‘wan… anghofia amdana fo” yn digwydd yn aml – ddim mor aml â ffrindiau’n cysuro ac yn cefnogi ta waeth beth yr amgylchiadau – ond mae’r rheiny sydd yn cysuro a chefnogi yn dueddol o fod yn mynd drwy’r un math o beth, boed yn orbryder, iselder, galar, tor-calon neu unrhywbeth ‘dan haul ac mae’n gwneud i rywun sylweddoli fod angen lleisio teimladau a rhannu profiadau… felly dyma leisio fy nheimladau a phrofiadau i a fydd, gobeithio, yn gymorth lleiaf un i unrhyw un sy’n teimlo’r un fath.

***

Roeddwn i wedi troi’n un ar hugain, wedi graddio, bod ar wyliau a symud i dŷ sdiwdant bach clud ym Mangor i ddechra’ astudio fy MA. O’n i’n codi’n hwyr yn y bore a darllen un o lyfra’ Mihangel Morgan wrth boeni am be’ o’n i am wisgo i fynd i noson Open Mic yn y Glôb a phoeni am y byd a’i broblemau – dyna o’dd fy rwtîn arferol i. Dyna o’dd fy myd bach digon bodlon i; byd o lyfrau, ffrindia a gwin coch.

Ddydd Llun y 13eg o Dachwedd, 2017 – roedd hi’n fore ddigon llwm yn fy myd bach i, o’n i diodda’ fymryn wedi bod allan y noson gynt, ac yn poeni am ‘sgwennu 2,500 o eiria’ am ‘Dirgel Ddyn’, Mihangel Morgan… yna dyma fy ffôn i’n canu. O’n i’n meddwl mai larwm oedd yn canu ar fy ffôn i a dyma fi’n chwerthin wrth feddwl mai ‘di rhoi larwm am amser gwirion yn y p’nawn o’n i ‘cofn mi gysgu’n rhy hir, ond Mam o’na… o’n i’n gwybod yn syth fod rhywbeth o’i le oherwydd fydda Mam fyth yn ffonio os nad oedd hi’n amser chwara’ neu ginio yn yr Ysgol Gynradd oedd hi’n gweithio ynddi.

“Caryl? Gwranda ‘wan, babs. Ma’ Dad yn wael.”

“Be’ sy’, Mam? Deud y gwir wrtha i, be’ sy’?”

“Gwranda, ma’ Gwenda’n dod i dy nôl di ‘wan – ac ewch i ‘sbyty Gwynedd”

Mi o’n i’n gwbod bryd hynny fod Dad ar fin, neu wedi, marw.

Codais o ‘ngwely a ‘nwy goes i’n disgyn o danaf a dyma fi’n sgrechian a chropian i lawr y grisiau, rhag ofn i mi lewygu. Mi wnes i agor y drws a rhedeg am fy modryb, Gwenda, wrth chwdu drosof fy hun a baglu ac eistedd yn y car efo hi a fy ewythr. Dyma ni’n cychwyn ar daith oedd yn teimlo fel taith o fan hyn i ben draw’r byd… dyma ffôn Gwenda’n canu a hwnnw ar loudspeaker dros y car…

“Gwenda? Peidiwch â mynd i ‘Sbyty Gwynedd. Dewch adra”

“Olwen, be sy’?” meddai Gwenda wrth geisio rhoi’r loudspeaker off rhag imi glywed llais crynedig Mam, ond methu.

“Gwenda, mae o wedi mynd” meddai llais Mam dros y car.

Finna’n sgrechian a fy ewythr yn troi a gafael yn fy llaw yn dynn, dynn a dweud “let’’s get you home to your Mum, cariad”.

***

Rŵan, efallai fod y darn nesa’ ‘ma’n mynd i fod yn un na fyddwch chi isho’i ddarllen ond mae marwolaeth yn dal i gael ei drîn fel tabŵ ac mae angen sgwrs agored amdano a dw i’n mynd i adrodd yr union ddigwyddiadau yr es i, a Mam drwyddyn nhw wedi marwolaeth Dad gan obeithio, y gwnaiff o roi hyder i ambell un leisio’u profiadau – a dydw i’m yn dweud hynny’n wag, chwaith… dw i eisiau bod yn glust, yn gymorth ac yn ffrind i unrhyw un sydd angen hynny.

***

Wedi’r daith hir iawn adra, roedd yn rhaid mynd i’r tŷ y buodd Dad farw ynddo…

Saer oedd Dad, ac mi oedd wedi mynd i osod drysau yn nhŷ ffrind iddo ac wedi iddo lenwi’i fol efo bacon baps, mi aeth ati i osod y drysau ac yna, heb rybudd, syrthio i’r llawr. Wedi iddo syrthio gyntaf, bu iddo godi ac eistedd ar sêt y toilet, a rhoi dŵr oer ar ei dalcen… wrth i’w ffrind ruthro i ‘nôl rywun i’w helpu, roedd Dad wedi disgyn ar ei wyneb a marw. Roedd hi’n amhosib i wneud CPR arno ac ynta’ wedi disgyn ar ei wyneb er, mi roddodd Mam bob ymdrech i achub ei gŵr nes i’r paramedics ddod a gwneud popeth o fewn eu gallu i’w achub wrth ddisgwyl am yr Ambiwlans Awyr i ddod i’w nôl ond, yn ôl yr adroddiad, mi fuodd Dad farw pan ddisgynodd i’r llawr a dim gobaith, o gwbl, o’i achub.

Pan gyrhaeddis i, o’n i’n gwrthod derbyn fod Dad, fy nhad i, wedi marw.

Bu imi redeg i fyny’r grisiau mewn tri cham, bron, ac eisiau gafael ynddo. Doedd ei gorff ddim yn oer, eto – ei goesau’n wyn, wyn a’i wyneb yn las a’i lygaid yn goch, goch, goch… dyna nes i sylwi arno, ei lygaid yn goch yn syllu i unfan; cymaint oedd ei ddwy lygaid fawr wedi edrych i fy rhai i wrth fy nghodi pan o’n i’n blentyn, hyd at dri mis ynghynt, yn edrych arna i yn graddio… pob cyfle fydda fo’n gael, mi fyddai’n edrych arna i, ei ferch, ond rŵan, am y tro cynta’ erioed, roedd ei lygaid yn goch, goch, goch yn methu â sbio ar ei ferch a’i wraig. Eisteddais am ambell funud efo corff marw fy nhad a dweud petha’ gwirion, petha’ chwerthinllyd erbyn sbio’n ôl, ond be’ oeddwn i fod i’w wneud? Ro’n i’n ferch un ar hugain yn eistedd wrth ymyl corff marw ei thad, a’i wyneb mor las a’i lygaid yn ddychrynllyd o goch ac yna rhoi fy mhen ar ei ysgwydd a gorwedd efo fo gan wybod mai hwnnw oedd y tro olaf y byddwn i’n teimlo cynhesrwydd corff a chynhesrwydd cariad fy nhad a gafael yn ei law yn dynn, dynn, dynn cyn cael fy llusgo oddi-wrtho, trwy’r plismyn a’r paramedics, yn ôl am rywle oedd yn gartref, un tro.

Agor drws fy nghartref wedi bod yn eistedd efo corff marw ‘nhad wedyn, a gweld ei sgidia’ wrth fwrdd y ffôn a’u gwegil wedi’u plygu, yn dal yn gynnes ac yna llewygais – dw i’m yn cofio llawer wedyn nes i’r bobl gyrraedd yn eu cannoedd.

Torf o grio a chwerthin a finna’ heb newid fy nillad isa’ ers y noson gynt na wedi cael cyfle, a heb y nerth chwaith, i roi slempan ar fy ngwyneb a trio pigo ar fara a gwneud paneidia’ i hen ffrindia’ Dad a thrio gwneud sgwrs i lenwi gwacter llethol. Mi aeth bron i wythnos o ffrindia’n golchi fy ngwallt, siarad gwag a fara brith heibio fel tasa hi’n flwyddyn. Un o’r petha’ a dorrodd fy nghalon fwya’ oedd gweld Mam, a’i llygaid yn lasach nag erioed, yn wan; heb eiriau i’w dweud a finna’n gafael yn ei llaw a chwara’ efo’i gwallt er mwyn iddi drio cysgu a throi i edrych ar gynulleidfa o bobl yn beichio crio yn edrych ar y ddwy ohonan ni… a finna’n codi a dweud ryw jôc am ‘mod i’n torri ‘nghalon eu bod nhw’n crio… a’r rhan fwyaf yn chwerthin, wedyn… wedi i Mam gysgu, mi es i ‘fyny i ‘stafell Mam a Dad a gorfod pigo pa ddillad i’r ymgymerwyr roi amdano i fynd i’w arch ac yna gafael yn ei ddillad yn dynn, dynn, dynn a’u ogleuo nhw ac ogla’ Dad arnyn nhw… ac yna sgrechian a llewygu, unwaith yn rhagor.

Yna galwad ffôn, eto fyth, i ddweud, y tro hwn, fod corff Dad… fy nhad i, wedi’i baratoi i fynd i’w weld – roedd hi’n amser i mi, ferch un ar hugain, fynd i weld corff fy nhad a oedd yn holliach wythnos gynt mewn arch…

Roedd o’n smart, er mai yn ei tracksuit oedd o; roedd o’n smart… roedd o’n edrach yn well mewn arch na’r oedd o’r wythnos gynt, roedd ei fochau’n goch, goch, goch a gwên fach ar ei wyneb fel tasa fo’n cysgu’n braf ac yn breuddwydio am rywbeth… ond oedd o’n rhy ifanc i fod mewn arch. Dad oedd o; gymaint o’n i isho dringo i mewn i’r arch ato fo a gorwedd yno efo fo am byth a Dad, Mam a fi efo’n gilydd, am byth. Fedrwn i’m gwneud dim byd ond gafael yn ei law yn dynn, dynn, dynn a honno’n oer, oer, oer a honno ddim yn gafael yn fy llaw i’n ôl… a gweld Mam, yn rhoi cusan ar ei ben a dweud trwy’i dagra’ “dyna chdi, ngwas i” a rhoi llun o’r ddau ar ddiwrnod eu priodas wrth ei ymyl a hynny’n gysur iddi hi ond fi, yn gwybod, a thorri ‘nghalon, fod corff fy nhad, y lluniau a’r atgofion yn mynd i gael eu llosgi’n ddim ond rhif 23 yn crem, Bangor… yna cario Mam adra, a llewygu, unwaith yn rhagor.

Does gen i’m owns o gywilydd wrth ddweud ‘mod i wedi bod yn ddewr, yn darllen yn cnebrwng Dad a Mam yn ddewrach fyth yn edrych ar ei merch, un ar hugain oed yn siarad am atgofion o’i thad ac ynta’ mewn arch ddim ond deg cam oddi-wrthi. Dw i wedi bod yn ddewr ac mi ydw i’n dal yn ddewr – dw i wedi colli fy nhad, colli ffrindiau, colli cartref a cholli rhan fawr ohonof fi’n hun mewn cyfnod o bron i flwyddyn a dw i’n dal i wenu a morio canu mewn tafarn efo ffrindia’, ar fin dechra’ gweithio ac astudio MA… ond gwên ffug ydi hi, beryg; un sy’n gwneud i fy ffrindia’ wenu a pheidio poeni amdana i ond ma’n ‘na rai sy’n gwybod be sy’ tu ôl i’r wên… ond dydi hyd yn oed y rheiny agosaf ata i ddim yn gwybod fy mhoen, go iawn. Ydyn nhw’n gwbod fy mod i’n gwneud ati i fynd i’r toiled i roi fy llaw mewn sinc o ddŵr oer, oer, oer er mwyn i fy llaw i deimlo fel oedd hi pan oeddwn i’n gafael yn llaw Dad am y tro olaf pan oedd o yn yr arch un ac yna’n gwisgo fy ngwên a wynebu pawb?

Ydw, dw i’n ddewr… ond caru fy ffrindia’ a fy nheulu mwy na fi fy hun ydw i ac eisiau gwneud yn siŵr eu bod nhw’n gwenu, gwir wenu, ac yn cadw fy mhoen nes pum munud mewn tŷ bach neu sesiwn â chwnselydd ydw i ac mae’n biti fod rhai ag agwedd “brysia o’r toiled, dw i’n byrstio ffor ff**s sêcs” neu “’sdim isho siarad am betha’ dwys ‘wan, ‘dan ni ar night out – ty’d”.

Nid datgan unrhyw beth mewn ffordd ymosodol ydw i, ddim o gwbl… ond fy nôd ydi dweud fod pawb yn cuddio rhywbeth tu ôl i wên felly byddwch yn glên â phawb, pob un unigolyn… a dweud, er fy mod yn unigolyn sy’n ymddangos yn hyderus, efallai, ‘mod i’n unigolyn swil, sy’n ei gweld hi’n anodd gwneud sgwrs â rhywun ond fy mod i, go iawn, isho bod yn ffrind i’r rhai sydd angen ffrind oherwydd dydw i’m yn siŵr iawn sut y baswn i wedi goroesi’r flwyddyn ddiwethaf ‘ma heb fy nheulu a ffrindia’. Dydw i’m yn dweud hyn yn wag, dw i wir yn gobeithio y cewch chi’r hyder i gysylltu efo fi os ydach chi angen sgwrs neu glust i wrando ar brofiadau o brofedigaeth, iselder neu unrhyw beth o gwbl.

***

Wrth ddarllen dros y pwt yma, dw i yn sylweddoli ei fod yn edrych fel fy mod i’n cwyno’n ymosodol ar y rhai sydd â’r agwedd honno dw i wedi ei chrybwyll ond nid dyna fy nod, o gwbl – hynny sydd wedi fy sbarduno i rannu fy mhrofiada’ a gwneud i mi sylweddoli fod rhai sydd heb neb i ymddiried ynddyn nhw a cha’l sgwrs efo nhw; dw i’n lwcus iawn o fod â llond lle o ffrindiau arbennig sydd wir yn gefnogol, yn rhai sy’n cyfaddef nad ydyn nhw’n gwybod be i’w ddeud ac weithia’ yn eistedd efo fi a dim ond edrych arna i’n crio ond mae hynny’n well na chrio ar ben fy hun.

I’r rheiny mae’r diolch gen i ac os y galla’ i, mi fyddwn i’n hynny i chi… rhannwch eich profiadau, sgwrsiwch yn agored am bethau sydd yn dal i gael eu trin fel tabŵ a byddwch yn ffrind i bawb.

Caryl Bryn