Y Meddwl
Mae gen i ‘social anxiety’, wbath ddigon cyffredin erbyn hyn, ond pan ddechreuais i deimlo felma, oni’n teimlo mor unig a ‘gwahanol’. Ond yn ddiweddar dwi wedi gweld lot o bobl o fy nghwmpas yn teimlo y run peth, a dwi isho trio helpu nhw, dwi ddim yn dda efo geiria, felly neshi feddwl ella sa sgwennu petha lawr mewn blog yn syniad gwell.
Cwestiwn sy’n cael ei ofyn i mi yn aml, gan ffrindia neu deulu ydi, be ydi anxiety? sud beth ydi o? A’r ateb dwi’n roi bob tro ydi, sgenai’m syniad sut i egluro i chi achos dwi ddim yn hollol siwr fy hun.
Mae o’n anodd egluro i rhywun sydd ddim yn cael yr un teimlada’ be ydi o, ella gan ei fod o yn wahanol ac mor bersonol i bob unigolyn. Un peth dwi’n sicr o ydi mai fy meddwl sydd yn ei reoli.
Ar y funud dwi’n gwneud gradd mewn Seicoleg, ac mewn ffordd mae o wedi dangos i mi faint o bwysig ydi y meddwl, a pha mor bwerus ydi o.
Y meddwl sydd yn rheoli pob dim ‘da ni yn ei wneud ac er ei fod o mor bwysig, mae o’n beth mor anodd i’w hastudio gan fod pawb mor wahanol.
Y broblem gyda fy meddwl i ydi, mod i’n gor-feddwl bob dim. A tydi gor-wneud unrhyw beth byth yn dda. Rhyw noson wsos dwytha pan doeddwn i methu cysgu, ddoishi fyny efo dipyn o syniada’ o sut allwn i egluro be ydi y meddwl, neu sut beth ydi fy meddwl i…”