‘OMG – Dwi mor OCD’

Dyna i chi frawddeg rwy’n ei glywed yn aml, yr un hen frawddeg sy’n cael ei ddefnyddio i ddisgrifio pa mor drefnus ydy person, neu sut bo’ nhw wrth eu bodda yn treulio amser yn sortio’i bocsyrs neu nicyrs i liwiau gwahanol.

Neu, sut bo’ nhw ‘mor OCD’ eu bod yn gorfod cael cyrtens i gyd-fynd â’r ryg neu mi fydd hyd yn oed y pysgodyn aur yn crio am flwyddyn, neu’r clasur; ‘O! Nei di sythu’r ffrâm ‘na – ma’n gyrru OCD fi’n nyts’. Ac. Yn. Y. Blaen. Ella eich bod chi wedi sylwi’n barod bo genai ychydig o broblem hefo’r mathau yma o frawddegau’n cael eu defnyddio mor ddifeddwl? Bron fel eu bod yn blwmonj o eiriau’n cael eu taflu ar hyd y lle…

Iestyn ydw i, ac ydw, ‘dwi mor OCD’. Naci, nid sortio fy mocsyrs neu nicyrs mewn i liwiau gwahanol ydy fy nyleit.  Ers yn 16 mlwydd oed a chyn hynny mae’n debyg, ond mod i heb sylwi ar y pryd, dwi wedi bod yn delio ag OCD.

“…mwya’ rydych yn gwneud hynny (y gweithredoedd), mwya’r ydych yn credu’ch ofnau…”

Mae OCD yn gyflwr hynod gymhleth sy’n cael effaith wahanol o berson i berson, ond serch hynny mae yna un nodwedd sydd yr un peth ymhob un sy’n dioddef ag OCD. Y fformiwla; mae fformiwla OCD yn golygu eich bod yn gorbryderu am feddyliau, sy’n eich gyrru chi i weithredu ac ymddwyn mewn ffordd sy’n lleihau’r gorbryder ond mwya’ rydych yn gwneud hynny, mwya’r ydych yn credu’ch ofnau, sydd o ganlyniad wedyn yn gwneud i chi weithredu mewn ffordd sy’n lleihau’r gorbryder yn amlach… deall? Peidiwch a phoeni, gymrodd o 14 sesiwn therapi i mi ddeall! Ond, o ganlyniad i’r holl weithredoedd yma, cynyddu mae’ch ofnau gan eu bod yn parhau i gael eu bwyso gan feddyliau sydd ddim yn wir. Yn y bôn, mae’n gylch di-ddiwedd o boeni a gweithredu.

Cylch di-ddiwedd o feddwl

Peidiwch a meddwl am eliffant pinc! ‘Be?’, dwi’n eich clywed chi’n dweud. Ond wrth i mi ddweud wrtha chi i beidio a meddwl am rhywbeth, y mwya’r ydych yn debygol o feddwl amdano. Felly, beth yda chi’n ei feddwl amdano nawr? Elliffant pinc? Ond, udish i wrtha chi i beidio meddwl am eliffant pinc…

Dyna sut mae OCD yn gweithio, mwya’ yr ydych yn ceisio peidio meddwl am rhywbeth, mwya’ mae’n ymddangos yn eich meddwl, ac yn eich gyrru i wneud rhywbeth, ac unrhyw beth i gael gwared ohonyn nhw.

Fi ac OCD

Yn fy achos i, ro’n i am flynyddoedd yn obsesiynnu gyda intrusive thoughts, sef meddyliau sy’n dod i mewn i’ch meddwl yn anwirfoddol – hynny yw, heb i chi fwriadu meddwl amdanyn nhw.  Credwch neu beidio, mae canran uchel iawn o’r boblogaeth yn cael rhain, ond mewn achos pan fod person gydag OCD, daw’r meddyliau yma yn obsesiwn. Mae’r math o feddyliau yma yn gallu eich anfon i fannau tywyll iawn. Wrth i chi obsesiynnu am feddyliau gwahanol, maen nhw’n gallu mynd yn waeth ac yn waeth, fel pelen eira’n rowlio lawr bryn; yn mynd yn fwy ac yn fwy y mwya’ o bellter mae’n teithio. A’r unig opsiwn sydd gennych chi yw i wneud rhwybeth amdanyn nhw; gan wirio, ailadrodd, gofyn am gysur – mae’r rhestr o weithredoedd yn un hir, ond dyma’r ffordd o leihau’r anxiety/gorbryderu am gyfnod.

Angen i bethau newid

Mae OCD yn gyflwr sydd yn effeithio 1.2% o’r boblogaeth. Yn ôl OCD-UK, mae 36,000 o bobl yn delio ag OCD a llawer o rheiny yma yng Nghymru yn brwydro ar eu pen eu hunain oherwydd yr ofn o ddatgelu eu hofnau. Mae llawer yn ofni gofyn am gymorth oherwydd y trafod ysgafn sydd yn ymwneud â’r cyflwr, sef bod pawb yn siarad am OCD, ond ddim wastad yn sylweddoli pa mor ddinistriol yw’r cyflwr. Dyma un o’r rhwystrau amlwg sy’n atal pobl rhag gofyn am gymorth. Maent yn cwestiynu mai OCD sydd arnynt gan nad yw eu symptomau hunllefus nhw’n cyd fynd â meddylfryd cymdeithas o beth yw ‘OCD’.

Mae angen i ni fel cymdeithas beidio a bod mor dafodrydd pan yn defnyddio termau fel OCD i ddisgrifio pethau fwy dibwys.

Mae’n syml; mae’r cyflwr yn gallu dinistrio cyfnodau o fywydau pobl, ac yn yr achosion gwaethaf mae’n anfon pobl i fannau tywyll iawn. Mae’r anwybodaeth o pa mor ddifrifol yw OCD yn gallu atal pobl rhag codi eu llaw a dweud ‘dyma fi a dwi angen help’.

Ac mae’n hen bryd i hynny newid.

Iestyn Wyn