Adeg y Nadolig efo anhwylder bwyta
Rhybudd cynnwys: bwyd, anorecsia
Ahhhhh adeg y Nadolig: adeg llawn chwerthin, joio a threulio amser efo rheini sydd agosach atoch. Ond hefyd, yn fwy na dim, ma cymaint o bwysau o gwmpas bwyta ac yfed yn llon. I rywun efo anhwylder bwyta ma hwn yn rhywbeth sydd yn gallu achosi cymaint o bryder lle erbyn y diwedd dy’ch chi ddim yn joio’r Nadolig fel dylech chi.
Bydd pawb sy’n dioddef o anhwylder bwyta yn wahanol o ran ymdopi a delio efo’r Nadolig yn dibynnu ar yr anhwylder sydd gennym. Ond efallai gall ambell i ‘tip’ fach sydd ‘da fi, ac sy’n helpu fi, helpu rhywun arall.
I fi yn bersonol, odd Nadolig yn achosi cymaint o bryder: mas o drefn, mas o’n arferion. I fi, yn dioddef o anorecsia, odd routine yn rhan fawr o’r cyflwr; y control yn fwy na dim. O’n i wastad lan yn neud rhywbeth, wastad ar fy nhraed fel bod bwyd ddim yn dod i’r meddwl. Heblaw am y Nadolig: eistedd yn neud dim gyda theulu, a bwyd o gwmpas y lle i gyd.
Rwy’n cofio cynnig gweithio diwrnod Nadolig fel bo’ fi ddim adre trwy’r dydd. Pryd oedd y cyflwr ar ei waethaf, arhoses i yn y gwaith trwy’r dydd. Dim cinio Nadolig, jyst pryd bach o fwyd yn y nos. Edrych ‘nôl nawr, na’i gyd rwy’n meddwl am yw na wnâi byth gael yr amser yna ‘nôl.
Ond erbyn nawr, ma digon o gryfder gen i i wynebu adeg y Nadolig efo cyffro, a chreu atgofion bythgofiadwy.
Ond dyw hi ddim wedi bod yn hawdd cyrraedd hyn. Ma tipyn o flynyddoedd wedi bod ers y gwaethaf i fi gyrraedd blwyddyn lle ma’r Nadolig yn hwyl i gyd.
I rywun sydd yn dioddef yn wael ar hyn o bryd, y peth fwyaf alla’i awgrymu yw trafod gyda phwy bynnag sy’n coginio, neu drefnu bwyd Nadolig fydd yn siwtio chi. Wnes i ofyn i Mam am sawl blwyddyn os byddai hi yn gallu gwneud rywfaint o’r bwyd gyda chynhwysion o’n i wedi prynu, a defnyddio’r rysáit odd gen i achos o’n i yn gyfforddus gyda hwn. Odd sawl peth i fi wedi coginio yn wahanol i bawb arall; o nhw naill mewn powlen fach ar wahân neu ar y plât i fi yn barod. Fel hyn odd dal bach o control gen i dros ginio fi, heb amharu ar neb arall, ond o’n i hefyd yn gallu bwyta cinio o gwmpas y bwrdd efo’r teulu (ac i ni yn fy nhŷ i, dyma’r unig bryd o fwyd le i ni yn eistedd o gwmpas y bwrdd fel teulu i fwyta – bach o big deal!).
Yn y prynhawn adre bydden i byth yn neud dim lot nes amser godro felly odd y prynhawn yn amser bach da i fynd allan am wâc fach. Ddim rhy bell ond jyst digon i setlo’n nerfau a fy meddwl. O’n i wedi neud ‘rhywbeth’ yn y dydd ond hefyd wedi joio heb ormod o euogrwydd.
Hwn odd y drefn i fi ar ddiwrnod Nadolig am ryw ddwy flynedd. Llynedd wnes i adael y cinio Nadolig i fod ac ond bwyta beth o’n i eisiau. Does dim byth pwysau arnoch i fwyta popeth sydd ar y bwrdd – ma’ hwn yn rhywbeth pwysig i gofio, eto yn dibynnu ar y cyflwr, ma’ Nadolig yn dod o gwmpas pob blwyddyn – os nad ydych chi eisiau popeth ‘leni, ma’ wastad flwyddyn nesa. Ond eto, os mai ‘na beth yw Nadolig i chi, a wastad wedi bod ers bod yn blentyn, joiwch!
Erbyn hyn ma popeth yn wahanol i fi eto: bwyta fel rwy’n teimlo, mynd allan am wâc neu fynd nôl at bach o routine os rwy’n teimlo fel ‘ny (annhebygol gan fy mod yn creu atgofion newydd a’n edrych ymlaen at ddigon o gwrw i bara mis!). Rwy wedi gadael i’n hunan joio fwy lan at ddiwrnod Nadolig, a ceisio cymryd mewn y fwyaf o’r adeg a galla’i.
‘Leni yw hyd yn oed y flwyddyn gyntaf ers tua 7 mlynedd i mi gael calendr Adfent – ma hi’n bosib i wella digon fel eich bod chi’n gallu rheoli’r llais yn eich pen digon i joio’r Nadolig yn llawn.
Alla’i byth ddweud wrthoch chi bod y llais ddim yna yn fy mhen i – ma fe, ac mae’n dod allan ambell waith (jyst gofynnwch i fy nghariad, druan!) ond erbyn hyn, rwy’n gwneud pethau i helpu. Fi’n ysgrifennu fy meddyliau a’n pryderon i lawr (help mawr i gael y pwysau off eich ysgwyddau), fi’n mynd allan am dro bach yn gwrando ar podlediad neu jyst yn siarad efo cariad, ffrindiau neu deulu sydd i gyd yn mynd i helpu chi hefyd i ddod dros adeg y Nadolig.
Felly i grynhoi, argymhellion fi am adeg y Nadolig yw’r rhain:
- Ceisiwch gael sgwrs fach efo’r cogydd neu trefnydd y cinio i geisio setlo’r nerfau bach. Efallai trefnu bwyd wedi ei wneud ar wahân yn y ffordd rydych chi’n gyfforddus efo.
- Cerwch allan am bach o awyr iach, wâc fach ar ben eich hun neu efallai cynigwch eich bod yn mynd allan fel teulu am dro bach.
- Ceisiwch gael bach o routine rhyw ffordd dros bythefnos y Nadolig. Gall jyst mynd allan am dro bach o hanner awr bob dydd fod yn ddigon o routine. Jyst i chi cael bach o’r element of control nôl i osgoi ailwaelu ym Mis Ionawr.
- Ysgrifennwch lawr eich teimladau neu siaradwch â rhywun sydd yn agos atoch. Ma hyn yn cymryd cymaint o bwysau o’ch pen a’ch ysgwyddau.
- Ond yn fwy na dim, gwnewch yn siŵr eich bod chi yn bresennol yn yr adeg; cymrwch mewn y cyffro a’r joio.
Cofiwch bois, bydd pawb arall o’ch cwmpas yn bwyta, yfed a joio cymaint ni fydd neb yn sylwi ar faint rydych chi yn bwyta – byddant ond yn hapus eich bod yn ceisio joio a’n gyfforddus ac yn bresennol! Felly joiwch y mwyaf y gallwch chi.
Nadolig Llawen i chi gyd, a Blwyddyn Newydd Dda x
Nia Owens