Roedd defnyddio Facebook yn ‘gwaethygu fy ngorbryder a phyliau o banig’ : BBC

Flwyddyn yn ôl, roedd Paul Allen, sy’n gynhyrchydd cyfryngau digidol yng Nghaerdydd, yn edrych ar bostiadau ar Facebook sawl gwaith y dydd, fel y rhan fwyaf o ddefnyddwyr y cyfryngau cymdeithasol yn y DU.

Ond mae’n dweud bod y fersiwn afreal hyn o fywyd wedi gwaethygu ei orbryder a’i byliau o banig.

Yn hytrach na rhoi’r gorau i ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol, creodd ffilm yn dangos nad ydy pobl wirioneddol fel maent yn ymddangos ar-lein.

Dywedodd Mind Cymru ei fod yn “hanfodol defnyddio cyfryngau cymdeithasol yn ddiogel” gan ei fod yn gallu arwain at hunan-barch isel.

I Paul, sy’n 39 oed, roedd defnyddio Facebook fel bwyta “bwyd parod” gan ei fod yn ei adael yn “teimlo’n rybish” heb iddo wybod pam.

Dywedodd y cynhyrchydd cyfryngau digidol ym Mhrifysgol Caerdydd bod mynd yn “gaeth” i Facebook wedi ei adael yn teimlo’n isel a bregus bob dydd.

“Mae’n anoddach rhoi’r llif cyson hyn o straeon o newyddion da mewn cyd-destun os ydych chi’n fwy agored i niwed. Y gwir yw bod llawer o bobl eraill yn ei chael hi’n anodd hefyd.”

Erbyn hyn mae Mr Allen wedi newid y ffordd mae’n defnyddio Facebook er mwyn diogelu ei iechyd meddwl, ac mae am i eraill sydd â chyflyrau tebyg fod yn ymwybodol o’r technegau hyn hefyd.

Mae 33,000 o bobl wedi gwylio ei ffilm fer ‘All My Happy Friends‘, a recordiwyd o amgylch Caerdydd. Mae’n dangos sut y gall y cyfryngau cymdeithasol “wyrdroi canfyddiadau” pobl.

Mae Facebook, sydd yn ôl ffigyrau o Fedi 2018 ag 1.49 biliwn o ddefnyddwyr dyddiol gweithredol, wedi cydnabod y gall cyfryngau cymdeithasol fod yn wael i iechyd meddwl defnyddwyr.

Mae defnyddio’r safle trwy “amlyncu gwybodaeth yn oddefol” yn gallu gadael pobl yn “teimlo’n waeth”, ond mae “rhyngweithio â phobl sy’n bwysig i chi” yn fuddiol, yn ôl eu blog yn 2017.

Ond dywedodd Mr Allen ei fod yn ddefnyddiwr rhyngweithiol:

“Roeddwn yn edrych ar, ac yn postio, lluniau o fy mywyd fy hun nad oedd gyda fi gysylltiad enfawr iddynt, a ddim yn teimlo’n dda iawn wrth edrych ar y lluniau hynny.”

Dywedodd Simon Jones o Mind Cymru fod cyfryngau cymdeithasol yn gallu bod yn dda i iechyd meddwl pobl, ond ei fod ynghlwm ag ambell risg:

“Gall chwarae rôl ddefnyddiol yn ein rhwydweithiau cefnogaeth ehangach a helpu pobl deimlo’n llai ynysig. Ond yn yr oes sydd ohoni o gael mynediad parhaus i’r rhyngrwyd, mae’n gyffredin i ni fod mewn cysylltiad â llawer o bobl, lawer o’r amser.”

Ychwanegodd Mr Jones fod pobl yn aml yn cymharu eu hunain heb ystyried y “darlun cyfan”, sy’n gallu arwain at hunan-barch isel:

“Gallai hunan-barch isel yn ei dro gyfrannu at iselder neu broblemau iechyd meddwl eraill felly mae’n hanfodol defnyddio cyfryngau cymdeithasol yn ddiogel.

Os ydych yn teimlo fel eich bod yn cael problemau gyda’ch iechyd meddwl, rydym yn argymell eich bod yn siarad â rhywun, boed hynny’n ffrind, yn aelod o’r teulu neu’n feddyg teulu.”

Daw’r wybodaeth uchod o erthygl ar wefan y BBC