Pam fod darparu gwasanaethau lles yn Gymraeg yn bwysig?

Rydym ni’n aml yn clywed mai un o’r ffyrdd gorau i oresgyn neu ymdopi gyda salwch meddwl yw siarad gyda rhywun, i gyfathrebu ein teimladau, emosiynau a’n gofidion. Os ydy unigolyn gyda salwch meddwl yn derbyn cymorth o wasanaeth lles proffesiynol yng Nghymru, gan amlaf, bydd y broses cyfathrebu yma, sydd mor hanfodol i wellhad yr unigolyn, yn digwydd trwy’r Saesneg. Yn sgil hyn, mae’n debygol fod rhwystr ieithyddol yn atal nifer o siaradwyr Cymraeg, yn enwedig siaradwyr iaith gyntaf, rhag manteisio yn llawn ar y gwasanaethau sydd ar gael i ni yma yng Nghymru.

Er enghraifft, un o’r triniaethau mae GIG yn argymell fwyaf aml yw cwnsela, sef therapi siarad lle anogir yr unigolyn i siarad am eu teimladau ac emosiynau gyda therapydd hyfforddedig. Mae’r gallu i gyfathrebu profiadau meddyliol ar lafar yn sail i’r therapi. Gall hyn fod yn her i siaradwyr Cymraeg oherwydd mae gofyn ychwanegol iddyn nhw i gyfieithu eu teimladau ac emosiynau cyn cyfathrebu nhw i’r therapydd. Er mwyn gallu buddio o’r therapi, rhaid canfod y geiriau sy’n gwneud cyfiawnder â’r hyn sy’n digwydd yn y meddwl. Yn reddfol, i nifer o siaradwyr Cymraeg, bydd y meddyliau mewnol yma’n digwydd trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’n bosib felly nad yw’r cyfieithiad Saesneg ar lafar a rhoddir i’r therapydd yn adlewyrchiad teg o’r hyn sy’n digwydd ym mhen yr unigolyn. Heb y mewnwelediad hollbwysig yma i’r wir feddyliau, mae’n anoddach i’r therapydd gynnig cymorth ystyrlon ac effeithiol.

Yn ddelfrydol, dylid cynnal therapi yn yr iaith gyntaf (de Zulueta, 1990) oherwydd gellir tapio mewn i brosesau gwybyddol, emosiwn a’r cof yn haws. Dengys hyn fod diffyg gwasanaethau lles trwy gyfrwng y Gymraeg yn gallu ymyrryd yng ngwellhad salwch meddwl siaradwyr Cymraeg.

Ymhellach, mae triniaethau am gyflyrau megis Anhwylder Straen Wedi Trawma yn gofyn i’r claf adalw atgofion trawmatig. I unigolyn gyda’r cyflwr, a fagwyd mewn cymuned Gymraeg ac sy’n defnyddio’r iaith yn eu bywydau bob dydd, mae’n holl debygol fod y digwyddiad / digwyddiadau trawmatig wedi digwydd trwy’r Gymraeg.

Yn ôl ymchwil ar ddylanwad defnyddio’r iaith frodorol yn ystod therapi amlygiad, daw’r atgofion fwyaf manwl a chywir o’r profiadau personol pan dderbynia’r unigolyn therapi yn yr iaith roedd yr atgof trawmatig wedi amgodio ynddi (Szoke et al. 2020). Felly, gall therapi trwy gyfrwng y Gymraeg arwain at wasanaeth mwy effeithiol a llwyddiannus i siaradwyr Gymraeg.

Yn sgil strategaeth Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru, gweithredir ymdrech cenedlaethol i godi statws y Gymraeg yng Nghymru a chreu cymdeithas fwy dwyieithog. Heb amheuaeth, dylai gwasanaethau lles fod yn flaenoriaeth i’r ymdrech hynny. Mae’r diffyg gwasanaethau Cymraeg sydd ar gael i siaradwyr Cymraeg yn fater o ddiffyg hygyrchedd i gymorth iechyd meddwl. Hynny yw, heb yr opsiwn o dderbyn gwasanaeth yn y famiaith, mae peryg na fydd cymhelliant gan siaradwyr Cymraeg sydd â salwch meddwl ymofyn am gymorth proffesiynol. Golyga hyn gallai’r prinder gwasanaethau Cymraeg arwain at ynysiad carfan o bobl fregus sy’n ceisio ymdopi gyda salwch meddwl heb gymorth proffesiynol.

Mae nifer o’r bobl sy’n dibynnu ar y gwasanaethau iechyd meddwl yn feddyliol fregus, felly gall derbyn cymorth yn y famiaith, yr iaith sy’n dod yn naturiol iddynt, fod yn gysur mawr. Ond mae prinder y gwasanaethau Cymraeg yn golygu fod angen i nifer o siaradwyr Cymraeg sy’n chwilio am wasanaeth therapi siarad ar frys gyfaddawdu eu Cymreictod neu gael eu gosod ar restrau aros hir.

Ar y llaw arall, rhaid cydnabod fod yna wasanaethau lles ar gael i bobl sy’n fwy cyfforddus yn derbyn therapi yn Gymraeg. Mae meddwl.org wedi coladu manylion cyswllt cwnselwyr cymwysedig ar hyd Cymru ar y dudalen ‘Cwnselwyr’, gall gynnig cymorth trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae cyfathrebu ar lafar yn rhan annatod o nifer o wasanaethau lles, felly er mwyn sicrhau bod siaradwyr Cymraeg yn gallu cael mynediad at y gwasanaethau yma, rhaid sicrhau bod yna gyfleoedd i’r cyfathrebu yma i ddigwydd trwy gyfrwng y Gymraeg.

Llun gan Sïan Angharad