Gorbryder

Mae gorbryder yn aml yn cael ei gamgymryd am nerfusrwydd neu boeni gormod, ond mae’n gyflwr llawer mwy difrifol a chymhleth. 

Ges i’r panic attack cynta’ yn 2007 yn 12 oed, a hyd heddiw mae gorbryder yn rhywbeth sy’n rhan o ‘mywyd i.

Mae’r symptomau corfforol yn ddigon gwael: crynu, crychguriadau, coesau’n teimlo’n wan, teimlo ‘mod i ar fin colli rheolaeth, ma ‘nghalon i’n curo’n gynt a dwi’n ysu i ddianc.

Ond y symptom gwaetha a fwyaf brawychus o gorbryder a phanig i fi yw ‘dadwireddu’ (‘derealisation’). Mae’n deimlad o fod mewn breuddwyd, wedi datgysylltu o ‘nghorff a’r byd o ‘nghwmpas, a bod pethau’n teimlo’n ddieithr ac yn afreal. Hyd yn oed ar ôl bron deng mlynedd, dyw e ddim yn dod yn llai brawychus.

Falle bod y panic attack ei hun dim ond yn para’ am rai munudau, ond ma’n ‘adeiladu lan’ am oriau a gall gymryd dyddiau, os nad wythnosau, i ddod dros pwl gwael.

Datblygodd hynny i fod yn agoraffobia – ofn, neu deimlo pryder, mewn sefyllfaoedd lle byddai’n anodd i ddianc neu i gael cymorth (nid ofn llefydd agored nac ofn gadael y tŷ fel mae’n aml yn cael ei ddisgrifio!) I fi, mae hynny’n golygu ‘mod i o hyd yn meddwl pa mor bell ydw i o adre, a sut fydden i’n dianc neu’n gadael sefyllfa petai angen.

Mae’n amrywio o ddydd i ddydd. Un diwrnod alla’i fynd mas a cherdded yn bell iawn heb fawr o broblem, a’r diwrnod nesa yn teimlo’n sâl wrth feddwl am fynd mas. Ma’ hynny’n golygu bod gwneud trefniadau neu ymrwymo i unrhyw beth yn anodd gan fod y salwch mor anrhagweladwy!

Pan ddigwyddodd e am y tro cynta’ doedd gen i ddim syniad beth oedd yn digwydd. Cymrodd flynyddoedd i fi ddysgu am gorbryder a phyliau o banig. Petai iechyd meddwl yn cael ei drafod yn fwy agored ar y pryd, yn enwedig yn yr ysgol, fyddwn i wedi deall mwy beth oedd yn digwydd.

Mae gwir angen cyflwyno addysg ar iechyd meddwl mewn ysgolion, er mwyn dysgu sut i gadw’n hunain yn iach yn feddyliol, a sut i helpu pobl eraill sy’n dioddef. Gan fod cymaint o bwysau ar ddisgyblion ysgol i lwyddo mewn arholiadau mae’n anochel eu bod nhw’n teimlo dan straen. Byddai gwersi ar iechyd meddwl yn ffordd o addysgu disgyblion sut i ymdopi â’r pwysau gwaith, sut i reoli straen mewn ffyrdd cadarnhaol a sut i ymlacio. Dylai gwersi cymorth cyntaf hefyd ymdrin ag argyfyngau iechyd meddwl. Rydyn ni’n cael ein dysgu sut i helpu person sydd wedi llewygu, ond faint ohonom fyddai’n gwybod sut i helpu rhywun sy’n cael panic attack?

Ma’ gorbryder yn rhywbeth sydd yno drwy’r amser, ac yn effeithio ar bopeth rwy’n gwneud, ond gyda thechnegau CBT, meddyginiaeth, a chefnogaeth teulu a ffrindiau, galla’i ymdopi â’r cyflwr o ddydd i ddydd y rhan fwyaf o’r amser heb iddo fod yn ormod o rwystr.

Manon