Gorbryder, Fi, a Natur
“[…] I have been lucky to be born into such a land.” – Kyffin Williams.
Geiriau doeth gan ddyn doeth iawn. Ydw, dwi’n hynod o lwcus i fwy ‘ma a gallu galw fy hun yn Gymraes.
O fynyddoedd hanesyddol, i’r arfordir eithriadol, mae gan Gymru digonedd o lefydd ysbrydoledig. Ers blynyddoedd, dwi ‘di dwli ar fynd allan yn gynnar a dal y wawr.
Gweld yr haul euraidd yn codi dros y cymoedd, yn dasgau golau ym mhobman, tywynnu’r byd. Fel petai’r haul yn cyfarch y diwrnod newydd sbon.
Natur, cerdded, ffotograffiaeth, ysgrifennu; jyst cwbl o’r pethau sy’n helpu mi i gadw fy meddwl yn iach ac yn glir.
Sbel yn ôl, all y pethau mwyaf bychain cynhyrchu’r teimladau o orbryder i mi; megis, sefyll lan a chyflwyno o flaen dosbarth, cyflwyno fy hunain i grŵp, gwaith grŵp, all y list parhau i fynd!
Dros y blynyddoedd, dwi ‘di dod i’r arfer o fyw gyda phryder. Mae’n rhywbeth sy’ ‘da fi, ac mae gen i ffurfiau o’i rheoli. Dyna pam allech chi ffeindio fi yn y mynyddoedd gyda chamera, neu lan bryn lleol ar ôl diwrnod hir yn waith. Natur a ffotograffiaeth yw fy ffordd i o helpu fy iechyd meddwl.

Wrth anadlu mewn yr awyr iach, teimlo’r haul euraidd ar fy wyneb neu’r awel oer yn troi fy mochau yn goch, s’dim fel y teimlad ‘ma. Fel petai’r byd wedi stopio am funud. Sefyll yn dal ar y bryn a chymryd mewn y golygfeydd syfrdanol o fy amgylch. Dwi wir yn gallu clirio fy mhen o’r holl feddyliau o’r dydd. Yr holl feddyliau negatif a theimladau o orbryder yn cael eu anghofio am funud fach.
Heddiw, dwi’n lot gwell gyda rheoli fy mhryder. Dwi’n gwybod am dechnegau anadlu sy’n helpu, dwi’n myfyrio bron pob dydd, dwi’n ymwybodol o ffurfiau gwahanol o glirio fy meddwl. Mae cerdded, ysgrifennu a ffotograffiaeth jyst yn rhan fach o’r proses, ond yn rhan hanfodol i mi.
Gobeithio gall y post bach ‘ma helpu jyst un person ac yn rhoi syniadau bach am sut i helpu gyda phryder.
Caitlin x x x