Gofyn am help

Dydi gofyn am help, dim bwys help am be – boed o’n help i newid bylb, problem efo’r car neu rhywbeth llawer anoddach – ddim yn wendid. Ond mae cyfaddef eich bod angen help gyda’ch iechyd meddwl – gyda’ch ymennydd chi eich hun – yn un o’r pethau anodda.

Er bod ‘na gymaint mwy o gyhoeddusrwydd ynglŷn ag iechyd meddwl rŵan i gymharu efo’r hyn oedd ‘na flynyddoedd yn ôl, dwi’n teimlo fod ‘na dal elfen o gywilydd a bod pobl methu bod yn gwbl onest eu bod yn cael problemau gyda’u iechyd meddwl. Mae’n grêt fod ‘na gyhoeddusrwydd yn y wasg ac ar y cyfryngau cymdeithasol ond dydi pobl sydd heb gael y profiad, unai eu hunain neu drwy rhywun sy’n agos iddyn nhw, ddim yn wirioneddol deall sut beth ydi o.

Y cam cyntaf ydi cyfaddef i chi’ch hun…

Os ydych yn cael problemau gyda’ch iechyd meddwl, y cam cyntaf ydi cyfaddef hynny i chi’ch hun. Mi fydd yn anodd ac yn gam mawr a mi newch chi mwy na thebyg trio twyllo eich hun i feddwl mai mynd drwy “gyfnod isel” yda chi. Ond neith trio twyllo eich hun ddim lles o gwbl ac mi fyddwch chi’n fwy tebygol o ddioddef mwy o ganlyniad i hynny. Felly, eisteddwch eich hun i lawr mewn lle distaw a chyfaddef i’ch hun – efallai y gall dweud y geiriau allan yn uchel fod o gymorth ac yn haws i chi ei dderbyn. Dyna’r cam cyntaf wedi ei wneud a dylwch fod yn falch iawn o’ch hun.

Ond, mi fydd cyfaddef i bobl eraill yn sialens arall i’w oresgyn. Mi fues i am gyfnod go lew o amser yn meddwl mod i’n mynd drwy gyfnod isel ac y byddwn yn medru tynnu fy hun allan ohono a bod pawb yn cael eu off days. Ond ar ôl ‘chydig mi wnes i orfod gwneud i’n hun sylweddoli fod pethau yn waeth na’r oeddwn i’n feddwl a mi nes i’r penderfyniad i fynd i weld y doctor. Roeddwn i’n ei weld yn haws dweud wrth y doctor cyn i mi orfod siarad efo fy nheulu a’n ffrindiau.

Mi yda chi’n gryf ac eisoes wedi gwneud gymaint o gynnydd…

Ar ôl i chi gyfaddef i chi’ch hun a cheisio am gymorth meddygol, pan gyrhaeddith yr amser i chi orfod cyfaddef i bobl eraill byddwch chi mwy na thebyg yn teimlo’n wan ac wedi ymlâdd. Ond dyna mae iselder yn ei wneud i chi. Mae’n chwarae gyda’ch meddwl – dydych chi ddim yn wan, mi yda chi’n gryf ac eisoes wedi gwneud gymaint o gynnydd i geisio gwella eich hun. Ac unwaith y byddwch wedi agor i fyny i bobl ac wedi siarad rhywfaint am sut ydych yn teimlo, mi fyddwch yn teimlo’n well. Mi fydd na faich wedi ei gymryd oddi arnoch. Oce, fydd o ddim yn wyrth ble fyddwch chi’n teimlo gwelliant mawr dros nos, ond mi fyddwch chi’n teimlo’n well.

Mae’n siŵr na fyddwch chi’n medru siarad am bob dim sydd yn mynd ymlaen yn eich pen yn syth bin ond mi wneith hynny gymryd amser. Mae’n rhaid i chi hefyd gofio y bydd yn rhaid i chi barhau i fod yn gryf, er bod ‘na bobl eraill rŵan ar y daith efo chi fel cefnogaeth ac i roi cymorth, mae’n rhaid i chi fod yn gryf yn eich hun.

Mae’r daith yn un anodd – blinedig, hir…

Mae’r daith yn un anodd – blinedig, hir ac un neith efallai neud i chi gwestiynu os oes gwerth cario ‘mlaen a’ch bod eisiau rhoi mewn. Eto, eich meddwl yn chwarae triciau efo chi a’r iselder yn cymryd drosodd ydi hyn – mae ‘na oleuni ar ddiwedd y twnnel ac mae ‘na werth cario ‘mlaen.

Ymladd problemau iechyd meddwl mae pobl sy’n dioddef ohono – ymladd brwydr dydi neb arall yn ei weld a hynny pob eiliad o’r dydd. Meddyliwch faint o gryfder sydd gennych i fod yn ymladd y frwydr yma – does ‘na ddim byd gwan am hynny. Hyd yn oed pan mae tasgau bychan fel cael cawod neu llnau’r tŷ yn teimlo fel gormod i’w gwneud, cofiwch eich bod yn trio gwneud y tasgau yma ar ben ymladd eich brwydr.

Mi newch chi fwy na thebyg feddwl ar adegau nad ydych yn medru dal i fyny efo pobl o’ch cwmpas gan eich bod yn teimlo mor wan a blinedig ond cofiwch eich bod dal yn gryf – mi yda chi’n dal i ymladd a mi yda chi dal ar y daith. Mae gennych gymaint o gryfder – dim ond eich bod ar hyn o bryd methu sylweddoli faint ohono.

Daliwch ati i frwydro, da chi’n gneud yn wych!