Fy Ngelyn Pennaf

Pan dwi’n ista lawr ac yn meddwl am ba bwnc i flogio yn ei gylch bob mis, ma’ ’mhen i wastad yn mynd yn wag. Ond, ma’ nhw’n deud wrthach chi sgwennu am yr hyn ’dach chi’n ei w’bod, a dyna’r cyngor dwi ’di gymryd dros y misoedd diwethaf – e.e pan o’dd fy hunan-hyder i lawr, neshi sgwennu ‘Hunan-hyder’ (Teitl creadigol ta be), neu pan oni’n flin efo’r ffordd o’dd pobl o ’nghwmpas i’n trafod salwch meddwl, neshi sgwennu ‘Ieithwedd iechyd meddwl’ ayyb.

Felly, y tro hwn, dwi’n mynd i flogio am rywbeth dwi erioed ‘di siarad amdano’n gyhoeddus o’r blaen. ‘Dio’m am fod yn hawdd, ond fedrai ddim ei osgoi o, gan ei fod o’n chwarae rhan mor fawr yn fy mywyd i – a holl bwynt creu’r blog o’dd i sgwennu’n onast.

Ers oni’n 14 oed, dwi wedi diodda’ o iselder.

Ma’ byw efo iselder fel cael cwmwl du uwch eich pen drwy’r amser, lle mae ‘na wastad risg o law trwm – bob diwrnod.

Er bod y salwch yn cael mwy o gyhoeddusrwydd yn ddiweddar, dwi dal i deimlo fel bod pobl yn cam-ddeall be yn union ydi o, neu’n gwrthod ei gymryd o ddifrif. Ma’ hynny’n beth rhwystredig ofnadwy. Fy ngobaith i drwy sgwennu’r cofnod hwn ydi gwahaniaethu rhwng y ffeithiau a’r camsyniadau sy’n gysylltiedig â’r salwch. (Felly, fatha gêm o ‘Gwir neu Gau’, a pwy sy ddim yn mwynhau rheiny?)

1. Mae unigolion o bob oed yn medru dioddef iselder. – GWIR.

Geshi’r diagnosis cyn hyd yn oed cychwyn cwrs TGAU. Cyn hyn, rhaid cyfadda’, oni’n meddwl mai wbath oedd yn effeithio oedolion yn unig o’dd o. Ond na, yn ôl gwefan ‘YoungMinds’, mae bron i 80,000 o blant a phobl ifanc yn dioddef o iselder difrifol. Mae ystadegau fel hyn mor ddigalon, ond yn anffodus, tydi nhw ddim yn fy synnu i. Mae’r rhestr aros ar gyfer pobl o dan 18 i gael apwyntiad cwnselydd yn anhygoel. Mae’n fater o fisoedd, neu hyd yn oed blynyddoedd mewn rhai achosion.

Does ‘na’m cyfyngiad oedran pan mae’n dod at salwch meddwl.

2. Mae pobl efo iselder wastad yn drist – GAU.

Yndi, mae bod yn drist yn un symptom, ond nid dyna ydi iselder. Yn wahanol i be’ ma’ Google Images a llunia’ stoc y cyfrynga’ yn ei ddangos – nid jyst edrych allan drw’r ffenest pan mae’n bwrw glaw, neu dal ein penna’ yn ein dwylo wrth yml rhyw ddesg ‘dan ni’n ‘neud drwy’r dydd. (Er, dwi yn hoff o edrych allan a smalio bo’ fi mewn ffilm – ond ta waeth am hynny)

A geshwch be? Ma’ pobl efo iselder yn medru gwenu…a hyd yn oed chwerthin os goeliwch chi’r fath beth 😮

3. Dim ond pobl sydd wedi cael bywyd anodd sy’n diodda’ iselder – GAU.

Yn lythrennol, mi fedrith o effeithio unrhyw un. Yndi, ma’ ffactorau fel hanes o gael eich bwlio, profedgiaeth, profiad trawmatig, trafferthion ariannol ayyb yn cynyddu’r siawns, ond nid dyna ydi’r achos bob tro. Mi fysa chi’n gallu dod o gefndir breintiedig, cael teulu a ffrindia’ cefnogol, swydd dda, cariad gorjys ayyb, a dal  profi iselder. Does ‘na ddim wastad rheswm amlwg amdano.

4. Mae pobl sy’ efo iselder yn ddiog. – GAU 

Dwi’n *casau* yr camsyniad yma. Un o brif symptomau iselder ydi eich bo’ chi unai yn cysgu gormod, neu ddim yn cysgu digon. Tydi’r ffaith bod rhywun yn cysgu tan y p’nawn ddim yn eu gwneud nhw’n ddiog nac yn anobeithiol. Pan mae’r diwrnoda’ drwg yn taro, y peth dwytha’ ‘dach chi isho ‘neud ydi codi o’r gwely. Mae’n teimlo fel tasg amhosib ar adegau – nid oherwydd diogrwydd, ond oherwydd bod delio gyda petha’ sy’n ymddangos yn syml i bawb arall, yn ormod o fynydd i’w ddringo ar rai dyddia’. Felly, meddyliwch cyn cychwyn labelu pobl.

5. Does dim cywilydd o gwbl mewn cyfaddef eich bod chi’n dioddef. – GWIR

Na. No. Byth. Nefar. Mae hi mor syml â hynny. ✊🏻

6. Mae gan iselder symptomau corfforol yn ogystal â rhai meddyliol. – GWIR

Does ‘na’m llawer o bobl yn dallt hyn. Yn naturiol, mae’r mwyafrif yn meddwl mai dim ond yn feddyliol mae’r boen, ond mae’r symptomau corfforol cyn waethed â’r rhai meddyliol i fod yn onest. Ma’ nhw’n amrywio o berson i berson, ond rhai o’r problemau corfforol gall rhywun brofi ydi; cur pen, poen yn y frest, blinder llethol, newid mewn chwant bwyd, poen yn y cyhyrau oherwydd tensiwn, neu teimlo’n benysgafn. Yn bersonol, rhai o’r symptomau gwaetha’ dwi’n ‘i gael ydi diffyg canolbwyntiad/colli creadigrwydd – mae o fatha ca’l writer’s block 24/7. Niwsans uffernol yn enwedig gan fy mod i’n hoff o sgwennu’n fflipin’ creadigol..!

7. Ma deud ‘cheer up’ wrth rywun â iselder yr un mor ddefnyddiol a deud wrth rhywun sy’ ‘di torri coes i dynnu’r cast i ffwr’ ac i fynd am jog. – GWIR

Sori, ond mae’n ffycin useless o beth i ddeud. Triwch fod yn sensitif wrth drafod salwch meddwl – yn enwedig wrth wneud gyda dioddefwr. Tydi datganiadau ysgybol fel ‘na ddim am wella unrhyw beth.

P.S Tydi deud ‘snap out of it‘ ddim wedi cael ei brofi i wella’r salwch, chwaith.

8. Mae help ar gael. – GWIR

Er mor hawdd ydi o i ‘neud, y peth gwaetha’ fedrwch chi ‘neud ydi cau eich hun i ffwrdd wrth ddelio gyda salwch o’r fath. Gyda’r person/pobl cywir, siarad am eich anhwylder ydi’r penderfyniad gora’ newchi. Mae cymorth ar gael os ‘dach chi’n chwilio yn y llefydd cywir.

Rhai dolenni defnyddiol:

O.N Fedrai’m pwysleisio fo ddigon pa mor bwysig ydi bod o amgylch ffrindia’ a theulu sy’n eich cefnogi chi ac yn gwthio chi i’r cyfeiriad cywir – peidiwch â rhoi eiliad o’ch amser i’r rhai sy’n mynnu’ch tynnu chi lawr.

9. Mae iselder yn gwneud chi’n berson gwan/yn llai o berson. – GAU

Dwi’n gwybod am dipyn o bobl sy’n dioddef neu wedi dioddef – ac mi fedrai ddeud, yn gwbl onest, mai nhw ydi’r rhai o’r bobl ora’ dwi’n ei ‘nabod. Ac yn *sicr*, tydi nhw ddim yn wan. Mae’n cymryd cryfder uffernol i ymladd â’ch meddwl 24/7, ac i ymddangos fel bod popeth yn iawn pan mae’n teimlo fel bod pwysa’r byd ar eich ysgwydda’. Dwi’n meddwl fedrai siarad ar ran pawb sydd wedi dioddef o iselder pan dwi’n dweud – nid cydymdeimlad ‘dan ni isho, ond empathi. Peidiwch â’n trin ni’n israddol.

Os ‘dach chi’n gwybod am rywun, neu yn amau bod rhywun yn isel ac yn cael trafferth ymdopi – byddwch yno iddyn nhw. Gyrrwch neges, gofynnwch nhw draw am baned, atgoffwch nhw cymaint mae nhw’n ei olygu i chi. A pheidiwch â stopio.

Mae’r pethau bychain wir yn g’neud byd o wahaniaeth. 🌟

Arddun