Fy mhrofiad o therapi EMDR
[Rhybudd cynnwys: trais]
Petaech chi wedi dweud ‘Eye Movement Desensitization and Reprocessing’ (EMDR) wrtha i ryw flwyddyn yn ôl, ni fyddai gen i unrhyw syniad am beth oeddech chi’n sôn. Ond erbyn hyn, mae’n rhan bwysig o fy mywyd.
Dwi wedi trafod hanes fy salwch, Anhwylder Straen Wedi Trawma (PTSD), ar wefan Meddwl yn y gorffennol, ac wedi crybwyll ‘mod i’n derbyn y math hwn o therapi. Dwi bellach wedi cwblhau tri mis o’r driniaeth, a dwi am drafod fy mhrofiad ohono cyn belled, er mwyn rhoi syniad i bobl eraill all fod yn ei ystyried fel triniaeth.
Mae’n anodd rhoi diffiniad o EMDR mewn geiriau syml, ond dyma beth dwi’n wybod amdano hyd yn hyn. Mae’n ffurf o seicotherapi sy’n defnyddio symudiadau llygaid i helpu bobl brosesu atgofion trawmatig. Y syniad tu ôl i hyn yw pan eich bod yn profi digwyddiad trawmatig, mae’r ymennydd yn cael ei orlwytho ac nid ydych yn prosesu’r hyn sy’n digwydd yn gywir. O ganlyniad i’r atgofion sydd heb gael eu prosesu, mae’r ffordd rydych yn meddwl, teimlo ac ymddwyn yn cael eu heffeithio’n ddirfawr. Yn fy achos i, gan mai trais oedd y trawma, roedd hyn yn amlygu’i hun mewn sawl ffordd; y ffordd roeddwn i’n gweld fy nghorff, fy nheimladau o hunanwerth a hunan-barch a’r ffordd roeddwn i’n ymddwyn yn fy mywyd rhywiol.
Ar ôl derbyn diagnosis o PTSD yn 18 oed, cynigodd y meddyg dabledi gwrth-iselder a sesiynau cwnsela i mi (gan ddefnyddio technegau Therapi Gwybyddol Ymddygiadol (CBT)). Fe weithiodd i ryw raddau, ond roedd y meddyliau o hunan-barch isel a’r symptomau PTSD wedi’u gwreiddio’n ddyfnach. Daeth i’r pwynt lle nad oedd CBT yn helpu mwyach, ac felly es i at therapydd preifat a oedd yn cynnig therapi siarad mwy traddodiadol. Yn anffodus, roedd hi’n amlwg yn eithaf sydyn nad oedd hwn yn fath o therapi oedd yn addas i mi, oherwydd bu’n rhaid i mi drafod y digwyddiad mewn manylder, rhywbeth doeddwn i erioed wedi gwneud o’r blaen. Dwi’n credu y gwnaeth hyn fy ail-drawmateiddio mewn ffordd, ac roeddwn i wastad yn cael ôl-fflachiadau o’r digwyddiad yn ystod y sesiwn, felly roedd hi’n anodd gwneud unrhyw gynnydd. Ar ôl hynny fe wnes i roi’r gorau i therapi. Teimlais fel nad oedd gobaith i mi oresgyn hwn, fel nad oedd unrhyw gymorth arall i mi, fel petai fy mod wedi rhoi cynnig ar bob opsiwn posibl.
Ym mis Chwefror eleni, gwaethygodd y PTSD cymaint nes ‘mod i wedi dechrau cael meddyliau am hunanladdiad. Roeddwn i’n gwybod bod angen cymorth arna i yn syth. Ar ôl sawl ymweliad â’r meddyg, o’r diwedd cefais fy nghyfeirio at EMDR. Dwi’n meddwl i fy nghalon suddo pan glywais fod ‘na rhestr aros, ond dyna fu’n rhaid i mi wneud. 7 mis hir yn ddiweddarach, a llawer o amser yn chwilio am wybodaeth amdano ar Google, cefais fy apwyntiad cyntaf. Roeddwn i’n hynod nerfus, rhywfaint oherwydd nad oeddwn i’n yn siwr beth i’w ddisgwyl (hyd yn oed gyda’r holl amser a dreuliais ar Google), a rhywfaint oherwydd bod y therapi diwethaf wedi bod mor drawmatig.
Derbyn EMDR
I’m syndod, doedd braidd unrhyw drafodaeth am y trais yn ystod y sesiwn cyntaf. Dechreuodd drwy esbonio EMDR a beth yn union fyddai’n digwydd, ac yna gofynnodd i mi feddwl am fy ‘lle diogel’. Yna, am ryw hanner munud, bu’n rhaid i mi ddychmygu fy mod i yn y lle hwnnw, dilyn ei bys yn ôl ac ymlaen ac roedd hyn yn cael ei ail-adrodd sawl gwaith. Ar ôl pob ‘set’, gofynnwyd sut oeddwn i’n teimlo. Dyna i gyd oedd y sesiwn cyntaf, a dwi’n cofio dod ohono’n teimlo’n ysgafn iawn, yn fy mhen ac yn fy nghorff. Dyma fwy neu lai beth sy’n digwydd ymhob sesiwn, mae’n gofyn i mi feddwl am atgof penodol sydd gen i am y digwyddiad, ac yna mae’r dechneg EMDR yn cael ei ddefnyddio. Roedd hyn yn teimlo’n annaturiol ac yn rhyfedd iawn i ddechrau, ond dwi wedi dod i’r arfer erbyn hyn.
Nid yw hynny i ddweud bod pob sesiwn yn hawdd, fodd bynnag. Mae ‘na adegau lle mae’n rhaid i mi stopio, mae’r prosesu’n gallu teimlo’n ormod a dwi wedi profi pyliau o banig a dadwireddiad yn ystod y sesiynau. Yn y sefyllfaoedd hyn, mae’r therapydd yn sicrhau nad wyf yn teimlo mewn perygl, drwy ddefnyddio technegau daearu/anadlu. Hefyd, dwi’n teimlo’n hynod o flinedig yn syth ar ôl y sesiwn ac yn methu â gwneud unrhyw gynlluniau am weddill y dydd. Mae’n ymrwymiad mawr felly, ac erbyn hyn dwi wedi gorfod ymddiswyddo er mwyn canolbwyntio ar wella’n llwyr. Dwi’n gwybod ‘mod i’n hynod ffodus i allu gwneud hyn, a dwi mor ddiolchgar o gael y cyfle i dderbyn triniaeth mor werthfawr.
Effeithiau therapi EMDR
Ar ôl tri mis o therapi EMDR parhaus, mae’n dda gen i ddweud bod y symptomau PTSD wedi lleihau’n arwyddocaol. Dwi ddim wedi cael ôl-fflachiad am wythnosau, a dwi ddim yn cofio y tro diwetha’ i mi gael hunllef. Dwi o hyd yn profi symptomau o or-bryder, yn bennaf dadwireddiad, ond dwi’n obeithiol y bydd hyn hefyd yn gwella gydag amser. Dwi’n llawn gobaith y bydda i’n gwella’n ddigonol i fynd yn ôl i’r gwaith yn y flwyddyn newydd; dwi hyd yn oed wedi bod yn chwilio am swyddi, ac mae hynny’n gam enfawr. Am y tro cyntaf ers oeddwn i’n bymtheg, dwi’n gallu dychmygu rhyddid, a’r atgof erchyll hwnnw wedi’i storio’n daclus yn fy mhen. Dwi’n gwybod nawr na fydd hyn yn fy nghaethiwo am byth, nac yn rheoli’r ffordd dwi’n byw fy mywyd.
Gwybodaeth bellach: http://www.counselling-directory.org.uk/emdr.html
Chwilio am therapydd cymwysedig:http://emdrassociation.org.uk
Fideos Kati Morton
- EMDR: https://www.youtube.com/watch?v=HhaWIVK6ERI
- Technegau Daearu i’w gwneud yn ystod therapi trawma: https://www.youtube.com/watch?v=1vckMPHaITA&t=309s
Di-enw