Cymorth i ferched awtistig Cymraeg – o’r diwedd!
“Dwi’n meddwl bo’ fi’n awtistig” neu “Ar ôl ystyried dy asesiad, gallwn gadarnhau dy fod yn cael diagnosis o awtistiaeth” – geiriau sy’n dod yn fwy cyfarwydd i fenywod (a dynion) dros y byd i gyd.
Mae llawer yn fwy o ymwybyddiaeth o niwroamrywiaeth y dyddiau yma ac y mae nifer fawr o fenywod yn dechrau ail-ystyried pwy ydyn nhw oherwydd hyn, gan gynnwys fi.
Cefais ddiagnosis nôl yn Chwefror 2023, ar ôl tua dwy flynedd o ymchwil personol i fewn i awtistiaeth, wedi i mi deimlo fy mod yn debyg iawn i blant fy ffrindiau a oedd wedi cael diagnosis o awtistiaeth yn gynt. Roedd yn gyfnod llawn cwestiynau ond eto, un oedd yn gwneud cymaint o synnwyr. Y mwya’ ro’n i’n dysgu, y mwya’ roedd pethau’n cwympo i le. Adeg y cyfnod ymchwil, tua Chwefror 2022, fe wyliais raglen Christine a Paddy McGuiness am eu plant awtistig, ac erbyn diwedd y rhaglen, cafodd Christine ei hunan ddiagnosis hefyd. Yn dilyn hyn, cefais fy ysbrydoli i fynd at y meddyg i edrych mewn i ddiagnosis personol.
Roeddwn i’n un o’r rhai lwcus. Cefais ddiagnosis o fewn blwyddyn, er nid gwirionedd i bawb yw hyn o bell ffordd. Cefais alwad ffôn yn Chwefror 2023 yn cadarnhau’r diagnosis ar ôl cael asesiad yr un mis, ond yn ôl y person yma, mi fyddai’n 3 mis arall cyn bod yr adroddiad ei hun yn barod. Fe aeth dros 6 mis yn y diwedd, a hynny, achos fy mod i wedi cysylltu i ofyn pryd y byddwn yn ei dderbyn!
Yn anffodus, ar ôl yr alwad ym mis Chwefror, nid oedd yna gefnogaeth o unrhyw fath – cefais fy ngadael i weithio’r camau nesaf allan dros fi’n hunan. Er fy mod yn gwybod pwy oeddwn i nawr, ni wnaeth hyn wneud pethau’n haws o bell ffordd. Os unrhyw beth, roedd yn anoddach. Roeddwn i’n deall pwy oeddwn i, roeddwn i’n derbyn pwy oeddwn i, ond beth nesaf? Dweud wrth bobl? Cynnal sgyrsiau am hyn gyda theulu neu ffrindiau? Chwilio am gymorth? Chwilio am bobl ‘fel fi?’ Gwneud mwy o ymchwil?
Ond cyn hyn i gyd, roedd angen delio gyda’r holl emosiynau a ddaeth gyda chadarnhad y diagnosis – rhyddhad, dicter, tristwch, unigrwydd, rhwystredigaeth, dryswch, hapusrwydd i enwi ond rhai!
Ond sut oeddwn i fod i brosesu’r emosiynau yma pan nad oedd neb wir yn deall beth oeddwn i’n mynd drwyddo? Roedd hi’n gyfod anodd ond gydag amser, fe dderbyniais y diagnosis.
Yn dod lan i flwyddyn yn ddiweddarach, roeddwn wedi cwrdd â llond llaw o fenywod awtistig arall, ond heblaw un, nid oedd dim un ohonynt o gefndir Cymraeg, nag yn siarad yr iaith. Roedd trafod yr heriau, y cryfderau, y gwahaniaethau a’r emosiynau a ddaw gydag awtistiaeth yn helpu llawer wrth brosesu pwy yr oeddwn i, ac er nad yw gwneud hyn yn Saesneg yn broblem am fy mod yn ddwyieithog, fyddai gallu adnabod a thrafod fy mhrofiadau gyda phobl debyg, yn fy mamiaith, yn gallu gwneud byd o les i fi fel unigolyn.
Fe wnes i peth ymchwil, ond doedd dim llawer o gymorth yn Saesneg i fenywod ‘fel fi’, heb sôn am gymorth trwy’r Gymraeg!
Yn ddiweddar, ges i sgwrs gyda gwirfoddolwraig o meddwl.org a buon ni’n trafod nad oes cymorth ar gael yn y Gymraeg i bobl ag awtistiaeth, a soniais faint o les byddai hynny wedi gwneud i fi fel unigolyn. Byddai’n sicr wedi helpu gyda’r ymdeimlad o berthyn i gymuned o bobl tebyg i fi. Yn dilyn y sgwrs, fe wnaeth hi greu grŵp ar Facebook – Merched Awtistig Cymraeg – ac mae’r ddwy ohonom erbyn hyn yn rhedeg y grŵp a sicrhau ei fod yn le diogel lle gall Merched Awtistig Cymraeg rhannu profiadau, gofyn cwestiynau a dod i adnabod menywod arall sydd ‘fel ni’.
Mae’r grŵp yn tyfu yn araf bach yn wythnosol ond nid yw’r grŵp wedi ei greu ar gyfer rhifau mawr – mae e’n syml ar gyfer y bobl sydd ei angen! Mae’r sgyrsiau o fewn y grŵp yn berthnasol, yn codi hyder ac yn gwneud i bobl deimlo bod nhw ddim ar ben eu hunain. Ac mae’n gweithio! Yn barod! Dim ond rhai wythnosau mewn, sy’n wych! Ni’n teimlo’n falch iawn am yr hyn ry’n ni wedi creu!
Mae’r grŵp yn benodol i ferched (gan gynnwys merched/menywod traws, a’r rheini sy’n anneuaidd) sydd yn awtistig – sydd wedi cael diagnosis, sydd yn y broses o gael diagnosis neu sydd wedi gwneud hunan-ddiagnosis. Mae’n rhaid iddynt i allu siarad Cymraeg ond mae croeso i ddysgwyr hefyd wrth gwrs.
Os yw’r grŵp yn swnio fel lle diogel i chi fel unigolyn, yna dewch i ymuno a bydd croeso cynnes i chi.