Cryfhau un cam ar y tro
Mae fe mor od edrych nôl dros y ddwy flynedd diwethaf. Wrth ddod tuag at ddiwedd y flwyddyn, ma’ pawb yn myfyrio ar beth mae nhw wedi gwneud, yn wael, yn dda. Eu llwyddiannau, eu methiannau. Ar y pryd roedd 2019 yn edrych fel blwyddyn wael, ond wrth edrych yn ôl ar y flwyddyn gyfan, dyw e ddim mor wael â beth o ni’n meddwl. Fi ‘ma, fi’n byw, fi’n joio a sa’ i ‘di ailwaelu. Sai wedi mynd nôl i anorecsia yn gyfan gwbl. Sai’n dweud ces i real amser hawdd a oedd pob dydd yn hawdd. Roedd diwrnodau, wythnosau ambell waith lle o ni’n wael, yn mynd nôl at dueddiadau’r cyflwr. Yn ffaelu codi nôl lan, ond wrth amser, cryfder a dyfalbarhad fe ddaeth.
Er bo’ fi’n siarad fel rhywun sydd ar drywydd gwell nag o ni dwy flynedd nol, o ni dal yn cwympo mewn i’r un sefyllfa ag o ni yn ystod y cyflwr. Ond y gwahaniaeth tro ‘ma oedd o ni’n gallu gweld fy hunan yn gwneud. Roedd e fel o ni’n edrych ar rywun arall, dim fel ‘out of body experience’ ond fel o ni’n gallu gweld yn hunan yn dechrau gwneud yr un hen bethau oedd y cyflwr yn achosi fi i wneud. Meddwl am fwyd, ofn bwyta bwyd, gweld fy hunan yn hollol wahanol, tymer gwael, gweiddi flat out. O ni’n gwybod yn syth beth oedd yn digwydd. Ond nawr, roedd genai’r cryfder i weld beth oedd yn digwydd ac i newid y sefyllfa. Gydag amser, des i allan o’r sefyllfa heb unrhyw niwed corfforol.
Dau fis yn ol, sai’n credu byddai wedi gallu gwneud ‘na ar ben fy hun. Mae’r cyfnod o wella mor araf, ac unigryw. Dwi’n nabod pobl sydd wedi dioddef a nawr yn gallu bwyta beth a faint mae nhw eisiau heb feddwl dwywaith. Ond dwi dal ffaelu. Dyw hynny ddim yn meddwl bo fi dal yn dioddef ond mae’n meddwl bod y cyflwr wedi cael effaith arnaf ac yn dal yn y cof yn rhywle. Mae’n golygu bo’ fi dal mewn rhyw ffordd yn gwella.
Amser y Nadolig sydd yn real anodd. Chocolates + cacennau ym mhob man. Nid troi nhw lawr sydd yn anodd, ond i joio yr un faint a phawb arall wrth droi nhw lawr. Gorfeddwl am yr holl sefyllfa. I fi yn bersonol, mae’r sefyllfa ar ddydd Nadolig o golli control yn rhywbeth sy’n poeni fi. S’dim gennai hollol control dros sut mae’r cinio wedi paratoi, neu beth sydd yn y cinio. A ma’ hwnna yn rhoi ofn anferth i fi. Ond, ‘mond diwrnod yw hi, ac na beth fydd yn fy ‘mhen.
Mae rhaid joio, ond mae’n anodd.
Mae rhaid gweud fi siwt cymaint fwy hapus, a fwy hyderus nag o ni ar ddechrau’r flwyddyn, ond mae sefyllfaoedd fel Nadolig dal yn rhoi ofn arnaf. Ma hyn yn hollol normal. Ma’ jyst rhaid cadw yn fy nghof faint ma’ bywyd wedi gwella ers mi wella o’r cyflwr, a dyfalbarhau dros y cyfnod. A siarad. Wedai tro ar ôl tro faint ma siarad â rhywun chi’n trusto yn helpu.
Cymrwch amser i edrych ar faint chi wedi dod dros yn y flwyddyn ddiwethaf. Efallai bydd hi wedi bod yn flwyddyn fwy llwyddiannus nag o chi’n meddwl.
Nia Owens