Calorïau ar fwydlenni: polisi peryglus
Mae’n bosib eich bod chi, y darllenydd, yn dioddef o anhwylder bwyta. Os nad ydych, gallaf addo eich bod ymhlith rhywun sydd wedi.
Mae o leiaf 1.25 miliwn o bobl yn y Deyrnas Unedig yn brwydro anhwylderau bwyta a dim ond cynyddu y mae’r niferoedd yma yn eu gwneud; yn enwedig yn sgil y pandemig. Sbardunir yr anhwylderau hyn gan nifer o bethau, ond un o’r catalyddion mwyaf adnabyddus i’r cyhoedd, efallai, yw obsesiwn gyda chyfri a chyfyngu calorïau.
Ym mis Mai, bues i, a’n ffrindiau i fwyty yng Nghaerdydd. Roedd y noson yn addo i fod yn un llawn hwyl a chymdeithasu, ond newidiodd pethau’n gyflym iawn.
Pan gyrhaeddon ni’r bwyty, siomedig oedd gweld y wybodaeth galorïau mewn print bras wrth ymyl bob eitem o fwyd.
Roedd hi’n amhosib anwybyddu, ond fel merch sydd wastad wedi cael barn gref ar bopeth, doedd gen i ddim awydd i’w anwybyddu beth bynnag…
Felly, es i ati i ofyn a oedd bwydlen wahanol ar gael, heb y rhifau arni ond fe fethwyd i ddarparu un i ni. Rhwystredig yw’r gair i ddefnyddio wrth ddisgrifio sefyllfa fel hon. Rwyf wedi bod yn llygad-dyst i effeithiau hirdymor cyfri calorïau ar sawl achlysur drwy gydol fy mywyd, a ni welais erioed ddiweddglo ffafriol yn y pendraw i’r bobl yna. Dim ond datblygiad o beryglon anrhagweladwy a gwe pry cop o gaethiwed. Mae’n teimlo’n anghywir i beidio cefnogi’r achos felly, mae’n un sydd yn agos iawn at fy nghalon heb os.
Oherwydd hynny, nid yw’n syndod fod y digwyddiad yma gyda’r bwydlenni wedi tanio fflam yn fy mol ac wedi fy ngorfodi i weithredu.
Yna, fe ysgrifennais i ‘tweet’ ar gyfer Trydar (Gyda llaw, mae’r ‘tweets’ grac bob amser yn cael results!). Mynegais fy siom a’n nhristwch ac fe wnes i gysylltu â’r bwyty yn uniongyrchol drwy ei ‘taggio’ fel bod dim opsiwn gyda nhw i beidio ymchwilio ymhellach. O ganlyniad i hynny, dderbyniais i e-bost ac ymddiheuriad wrthynt, yn egluro mai camgymeriad oedd hyn a dylai fod bwydlen wahanol ar gael i bobl oedd yn anghyfforddus gyda’r rhifau. Roedd hyn yn fy ngwylltio a fy nghysuro ar yr un pryd. Teimlad braf oedd gwybod fydd bwydlen wahanol ar gael i’r cwsmer nesaf sydd yn ei hangen, ond doedd dim esboniad digonol ynglŷn â pham y methwyd i ddarparu un i fi ar yr achlysur yma? Mae’n teimlo fel camgymeriad esgeulus gall wedi cael effaith pelen-eira ar gyflwr meddyliol unigolyn.
Ond, nid yw cydymdeimlad y weinyddes neu ymddiheuriad y goruchwyliwr yn newid y profiad annifyr fe ges i’r noson hwnnw. Does dim amheuaeth gen i fod lliaws o bobl yn cael eu dychryn ar ôl gweld y rhifau wrth ymyl y bwyd, fel yr oeddwn i. Rydyn ni wedi cael ein magu mewn cymdeithas sydd yn ein hannog i fod yn llai hyn ac yn llai’r llall, i edrych fel hi neu edrych fel fe.
Mae’r strategaeth calorïau dim ond yn cryfhau’r ysfa anorfod i fonitro ein delwedd corff i raddau afresymol.
Yn fy marn i, does dim lle i’r strategaeth yma o fewn cymdeithas groesawgar, gyfoes a chynnes; y gymdeithas yr ydyn ni gyd yn ceisio’i chreu.
Mae’n gred i mi fod y penderfyniad o weld y wybodaeth galoriffig neu beidio yn benderfyniad i unigolion eu hystyried, wrth feddwl am sut y mae’r wybodaeth yn debygol o effeithio arnynt. Ni ddylai fod yn ddewis a bennwyd o flaen llaw, ar ein rhan ni.
Y rhan gwaethaf o’r profiad hwn oedd y ffaith nid yw’n gyfraith i ychwanegu’r wybodaeth calorïau ar fwydlenni yma yng Nghymru eto, fel y mae yn Lloegr. Mae’n angenrheidiol ein bod ni’n osgoi cyflwyno’r ddeddf yma cyhyd ag y gallwn.
Mae Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar hyn o bryd, ac ni allaf bwysleisio digon pa mor bwysig yw gweithredu yn erbyn y ddeddf galorïau ar fwydlenni yng Nghymru.
Ceir cyfle i ddweud eich dweud a gwneud eich rhan i wrthod y strategaeth ar wefan y Llywodraeth, drwy’r linc yma. Gallwch hefyd anfon neges at y Llywodraeth drwy wefan yr elusen Beat.
Anogaf i chi barhau i ofyn am fwydlen heb galorïau, hyd yn oed os nad yw’n gwneud gwahaniaeth i’ch meddylfryd chi. Mae hyn yn gwneud hi’n haws i’r rhai sydd yn cael trafferth i ofyn, heb deimlo eu bod nhw’n cael eu beirniadu. Yn ychwanegol, mae’n mynnu sylw bwytai at anghenion eu cwsmeriaid ac yn eu hannog nhw i ddarparu bwydlenni heb rifau yn ôl yr angen.
Dyma strategaeth beryglus iawn, a gallaf ragweld fod hwn yn llwybr llithrig i’r rhai sydd yn dechrau ar eu taith gydag anawsterau bwyd a delwedd corff. Mae calorïau yn bwnc sydd yn sensitif i lawer ohonom ac felly credaf ei bod ond yn deg i ystyried hynny wrth greu’r cynlluniau difeddwl yma.
Rhaid brwydro yn erbyn y cynllun hyd at eithaf ein gallu. Nid yn unig er lles y bobl sydd yn dioddef ag anhwylderau bwyta, ond er lles ni gyd. Er mwyn i ni allu mwynhau gyda’n ffrindiau heb feddwl am faint o galorïau sydd yn eich ‘club sandwich’!
(Achos y gwirionedd yw, dyw e ddim o bwys beth bynnag!).