Byw heb berfformio
Bu criw meddwl.org yn holi Dylan Cernyw ynghylch yr effaith mae methu perfformio o flaen cynulleidfa byw oherwydd y cyfnodau clo wedi’i gael arno.
- Beth mae perfformio yn meddwl i ti?
Mae’n golygu popeth, dwi’n hapusach ar lwyfan tu ôl i’r delyn fel unawdydd, cyfeilydd neu chwarae fel rhan o grŵp. Dwi’n gallu bod yn fi fy hun a’r teimlad o ryddhad a’r ochr greadigol yn dod allan yn fy ngherddoriaeth.
- Oes yna fuddion i dy les meddyliol o berfformio?
Oes bendant. Dwi’n gallu sortio lot o bethau allan yn fy mhen drwy chwarae’r Delyn neu biano adre ‘ma, dwi’n mynd ar ‘automatic pilot’ weithiau ac yn sortio lot o bethe allan. Dwi wedi treulio lot o amser adref yn ddiweddar fel pawb wrth gwrs. Dwi’n ymgolli yn fy hun ar y piano drwy greu trefniannau neu alawon ayyb.
- Sut mae methu perfformio wedi effeithio arnat?
Dwi’n meddwl mai’r clo diwethaf(rhif 3) ddaru effeithio arnaf fwyaf. Pan ddaru hyn i gyd gychwyn Mawrth 2020 ges i ddim llawer o amser i feddwl yn iawn amdano gan fod ‘na gymaint o bethau yn mynd ymlaen. Gorfod ail edrych ar y dyddiadur, cyngherddau, eisteddfodau, gwyliau, a phriodasau ayyb. Ond erbyn y clo Rhagfyr hyd Fawrth 2021 colli’r cyngherddau Nadolig, y cymdeithasu es i lawr ychydig bach a chau nhyn yn y tŷ. Mae’n rhyfedd sut mae peidio perfformio a chymdeithasu’n effeithio arnat.
- Oes ffyrdd amgen o berfformio wedi bod yn bosib a sut mae’r rhain wedi cymharu â’r profiad arferol?
Dwi wedi bod yn ffodus iawn i gael gwahoddiadau i greu ambell beth. Ddaru fi fod yn rhan o’r criw cynhyrchu Côr Rhithiol Ysgol y Creuddyn gyda chyn disgyblion reit ar y cychwyn, yna ambell beth gyda chorau telyn y gogledd. Wedyn ges i gyngerdd fy hun gyda Chanolfan Gerdd William Mathias ar-lein, ac wedi gwneud ambell beth i’r dudalen Corona I helpu’r criw. Yna Rhagfyr 2020 ges i’r gwahoddiad i greu rhaglen Nadolig gyda’r eisteddfod AmGen “Mas ar y Maes” sef “Mas ym Methlehem” a nes i daflu popeth oedd gennai mewn i hwn gan fy mod yn colli’r elfen trefnu, perfformio byw ayyb, ac ar y pryd oedd posib cwrdd â 2 berson i berfformio dan do yn dilyn y rheolau ayyb. Wedyn Mis Chwefror ddaru’r alwad ddod eto i greu rhywbeth tebyg i fis LGBTQ+ Mas ar y Maes gyda’r Eisteddfod, a dyma’r tro cyntaf i gael creu rhywbeth gyda mwy na 2 berson oedd yn anhygoel a ddaru ddod ar wefr yn ôl. Er mod braf ydi creu pethau amgen ar-lein, does ‘na ddim byd yn cymharu i gynulleidfa byw wrth gwrs.
- Beth wyt ti wedi gwneud i lenwi’r bwlch mae methu perfformio wedi gadael?
Dwi ddim wedi bod fel sawl un arall yn creu gerddi newydd, ail addurno tai ayyb ond er lles fy hun ddaru fi ddechrau cerdded bob dydd. Ddaru hyn helpu fi yn feddyliol ac yn gorfforol.
- Beth fyddai gallu ail-ddechrau perfformio yn meddwl i ti?
Dw’i methu disgwyl i’r cyngerdd gyntaf, neu Eisteddfod gyntaf. Mae ‘na rywbeth am berfformio a bod ar lwyfan fel cyffur. Ti angen o ac unwaith mae o gyda thi – ti eisiau mwy a mwy!
- Wyt ti wedi dysgu rhywbeth o’r cyfnod gorfodol yma o fod heb berfformio?
Dwi wedi dysgu fod ‘na fwy na gwaith yn bwysig mewn bywyd. Er mor braf ydi cael trafeilio’r wlad a dwi wedi bod yn ffodus i gael trafeilio’r byd gyda’r delyn – does ‘na nunlle debyg i fod adre gyda theulu a ffrindiau. Dwi’n meddwl rhaid dysgu dweud Na weithiau hefyd.
- Oes gen ti unrhyw bryderon am fynd nôl i berfformio o flaen gynulleidfa byw?
Mewn un gair oes! Dwi’n poeni byddai’n gallu sefyll o flaen bobl yn hyderus, ac yn fwyaf pwysig cofio’r darnau yn iawn eto. Er fy mod yn ymarfer lot adref i gadw’r darnau yn y cof ar fysedd yn galed, unwaith ti’n cerdded ar lwyfan mae’n wahanol iawn wrth gwrs. Peidio gorfeddwl pethau dwi’n meddwl bydd rhaid i fi wneud ac anadlu mwy. Un peth dwi wedi dysgu dros y ddwy flynedd dwethaf ydi i anadlu yn iawn! Er mor wyrion mae hynny yn swnio i lot fawr o bobl, Pan oni’n gweld fy nghwnselydd 2019 a dechrau 2020 ddaru fo ddangos y gwahanol “apps” ar ffôn i helpu rhywun anadlu yn gywir. Felly os dwi’n gweld fy hun yn mynd lawr, gôr feddwl, panicio ayyb dwi’n mynd at yr ap ac mae’n help mawr, cerdded ac anadlu wrth gwrs.
- Beth ddylai’r Llywodraeth wneud i gefnogi’r Celfyddydau ar hyn o bryd?
Dwi ddiolchgar iawn am bob cefnogaeth dwi wedi cael yn ystod y flwyddyn ddiwethaf wrth gwrs, ond dwi ddim cweit yn deallt sut mae rhai pethau yn gallu agor a rhai ddim. Lot o bethau ddim yn gwneud synnwyr i fi, ond dyna fo.
- Oes gen ti unrhyw gyngor i unrhyw un mewn sefyllfa debyg i ti?
Un peth dwi wedi dysgu dros y blynyddoedd diwethaf ma ydi fod yn bwysig iawn siarad gyda ffrindiau a theulu. Er mor fach neu fawr dwi’n meddwl oedd y broblem yn fy mhen mae rhannu sgwrs yn bwysig. Anadlu yn gywir ydi’r peth arall, dwi’n gweld ei fod yn llonyddu’r meddwl a’r corff. Cerdded mwy a pheidio bod ofn gofyn am help, ac wrth gwrs cymerid un dydd ar y tro!
- Beth fyddet ti’n dweud wrth bobl ifanc sy’n ystyried gyrfa yn y celfyddydau?
Ewch amdani! Ddaru fi dreulio bron iawn i ugain mlynedd yn gweithio mewn swyddfa gyda’r awdurdod Iechyd, dwi’m yn difaru’r amser yna o gwbl, ond mi oedd fy nghalon i wastad eisiau gwneud rhywbeth gwahanol. Ydi mae’n braf gwybod fod ‘na gyflog yn dod bob mis ayyb ond mae’r boddhad o fod ar lwyfan, gallu creu pethau gyda gwahanol bobl yn eithaf sbeshal!
- Sut byddet ti’n cynllunio at gyfnod arall fel hyn yn y dyfodol, lle nad yw’n bosib perfformio?
Creu amser penodol bob dydd i fynd i gerdded, ymarfer, siarad a gweld teulu a ffrindiau. Peidio cau dy hun mewn. Dyna ddaru fi wneud tro cyntaf, a dio ddim help o gwbl. Gwneud amserlen yn y dyddiadur a thrio bod yn greadigol.