Blogiau Cymraeg Eraill
Dyma restr o flogiau Cymraeg sydd ar wefannau allanol. Gallwch ddarllen blogiau sydd ar meddwl.org ar y dudalen hon, ac mae pob croeso i chi gysylltu â ni os hoffech chi gyfrannu blog.
“Darllenwch y blogiau diweddaraf a’r straeon personol gan Amser i Newid Cymru, ein cefnogwyr a’r blogwyr gwadd, a gwnewch sylwadau. Neu chwiliwch drwy’r blogiau am bynciau a straeon sydd o ddiddordeb i chi.”
“Y bwriad ydi ‘sgwennu am amryw o bethau – ond un pwnc dwi’n teimlo’n angerddol iawn yn ei gylch ydi iechyd meddwl. Dyma un o’r prif rhesymau dwi wedi dechrau blog yn y lle cyntaf. Drwy fod yn agored am fy mhrofiadau personol i, a’r rhwystrau dwi ‘di dod ar eu traws, fy ngobaith ydi bod pobl eraill yn teimlo’n fwy abl i siarad am y peth hefyd – rhywbeth dwi’n meddwl sy’n allweddol os ‘dan ni am gael gwared o’r stigma sydd dal i fodoli.”
“Croeso i fy mlog! Dyma le fydda i’n sôn am fy mhrofiad o fyw gyda Bipolar. Dwi’n 24 mlwydd oed ac yn fenyw ifanc o Sir Gaerfyrddin. Cefais fy niagnosis o Bipolar ar y 7fed o Ebrill 2016 ond rwyf wedi dangos symptomau ers bod yn yr ysgol uwchradd. Dyma le fydda i’n sôn am fy mhrofiadau personol i.”
“Nai neidio sdret mewn – arol meddwl gymaint am y pwnc, ac y ffaith bod dio’m yn rhywbeth sydd wedi’w cael i’w drafod llawer tan rwan, oni’n meddwl swni’n ysgrifennu blog am iselder ag maint mae’n medru effeithio bywydau unigolion. Allan o brofiad, dwi’n credu mae na llawer o bobl wedi goro delio gyda fo, ag wrth drafod fy mhrofiadau i, efallai buasai’n helpu? Swni hefyd yn lecio codi ymwybyddiaeth drosdo.”
Elen Jones
Jason Morgan
“Dwi’n siŵr y caiff rhai pobl allan yno gysur o wybod jyst achos eich bod chi’n delio â phethau’n dawel, dydi hynny ddim yn golygu eich bod chi’n delio â phethau y ffordd rong.”
“Blog ydi hwn lle fyddai’n trafod byw efo iselder a pryder (neu depression ac anxiety os ‘da chi’n slightly llai posh fatha fi) wrth delio efo petha bob dydd, gwaith, prifysgol, cariad, teulu a ffrindia.”
“Fi yw Marged, fi’n ferch tair-ar-hugain oed o Landeilo ond bellach yn byw yn y brif ddinas. Fi ‘di byw ‘da iselder ers i mi ‘allu cofio, er na gesi’r diagnosis tan Ionawr 2012. Blog yw hwn i fi gal mwydro, yn y gobeth bydd siarad am fyw fel ‘mwdi Marged’ yn helpu rhoi syniad o beth yw delio gyda iselder o ddydd i ddydd a dangos realiti’r cyflwr.”
Meleri
- A yw hi’n bosibl trin iselder gyda phlasebo?
- Pa mor llwyddiannus yw’r defnydd o therapi celf yn y maes salwch meddwl?
- A yw hi’n bosibl atal cyflyrau meddwl rhag datblygu yn gyfan gwbl?
- Beth sy’n achosi anhwylderau bwyta?
- A yw unigrwydd yn effeithio ar iechyd?
- ‘Bod yn fam yn ystod y cyfnod cloi: Sut mae grwpiau mamau yn fy helpu i reoli fy anhwylder deubegwn’ – Julia
- ‘Bod yn feddyg teulu ac ymdopi â fy iechyd meddwl’ – Dr Simon
- ‘Canfod fy hun unwaith eto ar ôl colli gobaith’ – Sam
- ‘Cerddoriaeth a fy iechyd meddwl’ – Laura
- ‘Effaith homoffobia ar fy iechyd meddwl’ – Lowri
- ‘Fy nhaith gydag anhwylder deubegynol’ – Gwen Goddard (darllen rhagor gan Gwen ar meddwl.org)
- ‘Fy nhaith iechyd meddwl a sut rydw i wedi defnyddio fy mhrofiad i helpu eraill’ – Amy
- ‘Fy siwrnai gyda iechyd meddwl’ – Mair Elliot
- ‘Iselder ôl-enedigol a chwedl y fam ‘berffaith’ – Sara Powys
- ‘Mewn breuddwyd: Sut beth yw byw gyda Dadwireddu?’ – Manon Elin
- ‘Pam ddringais i fynydd uchaf Cymru dros Mind’ – Jo
- ‘Pwysigrwydd gofal iechyd meddwl yn Gymraeg’ – Manon Elin (darllen rhagor gan Manon ar meddwl.org)
- ‘Seicosis ôl-enedigol a fi’ – Charlotte Harding
- ‘Straen bywyd bob dydd’ – Stacie Mai
- ‘Sut rwy’n delio gyda fy ngorbryder a fy iselder yn ystod y cyfnod ynysu’ – Chloe
- ‘Sut mae presgripsiynu cymdeithasol wedi fy helpu gyda fy ngorbryder’ – Diana
- ‘Sut mae rhedeg yn fy helpu i ddygymod â’m hiselder’ – Menna
“Mae gen i ‘social anxiety’, wbath ddigon cyffredin erbyn hyn, ond pan ddechreuais i deimlo felma, oni’n teimlo mor unig a ‘gwahanol’. Ond yn ddiweddar dwi wedi gweld lot o bobl o fy nghwmpas yn teimlo y run peth, a dwi isho trio helpu nhw, dwi ddim yn dda efo geiria, felly neshi feddwl ella sa sgwennu petha lawr mewn blog yn syniad gwell. Blog fydd hwn gyda syniada ar sut i leihau pryder, rhannu profiada’ a rwla i bobl helpu ei gilydd.”
“Mae o’n hollol bwysig i fi fy mod i yn agored ac onest. Dysgais bwysigrwydd hyn cyn i mi golli Ned. Cuddiais y ffaith fy mod yn sal am sawl blwyddyn. Trio cario mlaen. Gwneud esgusodion. Ond llusgo fy hun at y doctor bu rhaid yn y diwedd a chyfadde nad oeddwn eisiau byw rhagor. Y doctor wedyn yn gafael yn fy llaw ac yn dweud fod pob dim yn iawn, bo fi’n sal, yn dioddef o iselder clinigol a’i bod hi’n mynd i fod gyda fi bob cam o’r ffordd wrth i mi frwydro’r salwch.”
“Ni yw Ymbarél. Rydym yn grŵp o fyrfyrwyr Prifysgol Abertawe sydd eisiau helpu gydag iechyd meddwl ymysg arddegwyr yn y Gymraeg. Rydym yn cysgodi chi o’r storm!”










