Blog: Teimlo yn Hunanladdol
Rhybudd Cynnwys: Mae’r blog hwn yn trafod meddyliau hunanladdol.
Mis Medi: Mis Atal Hunanladdiad
Dwi ‘di pendroni gymaint dros beth i’w gynnwys yn y blog yma. Pendroni os ddylwn i ei ‘sgwennu o gwbl i ddweud y gwir. Dwi’m yn meddwl y gwneith o atal hunanladdiad. Dwi’m yn meddwl neith o fawr o ddim. Ond, be neith o dwi’n meddwl ydi rhoi ‘chydig o syniad o fywyd rhywun sy’n profi meddyliau hunanladdol; sy’n cwffio yn erbyn y teimlad ‘na o ddim isio bod yma, sy’n trio pob dim i beidio meddwl am hunanladdiad.
Nes i erioed feddwl y buaswn i y person yna. Dwi dal ddim yn meddwl ‘mod i y person yna. Dwi’n edrych ar fy hun a dwi’m yn adnabod fy hun. Dwi’n meddwl am fy hun a nid ‘fi’ yw’r person sy’n dod i fy mhen. Pwy ydw i? Does gennai ddim syniad. A’i fi ydi’r person ydw i wan, y person dwi’n trio bod, neu y person oeddwn i’n arfer bod? Oes ‘na ‘fi’ go iawn? Dwi’m isio bod y ‘fi’ ydw i rwan hyn. Fedra i ddim cario ‘mlaen bod y person yna.
Dwi’n cael meddyliau tywyll iawn. A mae nhw yn fy nharo yn aml. Dwi’m yn meddwl eu bod nhw byth yn mynd i ffwrdd yn gyfan gwbl, dim ond cymryd eu lle, mewn trefn blaenoriaeth yn fy meddwl. Ond ar hyn o bryd, mi ydw i’n teimlo’n hunanladdol ac yn meddwl am hunanladdiad y mwyafrif helaeth o’r amser.
Mi oedd o’n anodd cyfaddef hynna i fy hun ar un adeg. Ond erbyn hyn, mae wedi dod yn haws. Mae wedi dod yn ‘normal’. Ond dwi’m yn ei gyfaddef wrth neb arall. Does ‘na neb arall yn gwybod. Does gan neb arall syniad beth sy’n mynd mlaen yn fy mhen i.
Dwi’m yn byw bywyd. Dwi mond yn bodoli. A dwi’n casau fy hun. Dwi’n casau fy hun am pwy ydw i a dwi’n casau fy hun am pwy tydw i ddim.
Tydi profi meddyliau hunanladdol a meddwl am hunanladdiad ddim mor ddu a gwyn a mae pobl yn feddwl. Mae’n gymhleth iawn. Dwi ar un llaw isio gwario fy mhres i gyd gan ‘mod i’n meddwl na fyddai yma i fod ei angen, ond ar y llaw arall dwi’n poeni am fethu medru fforddio byw ac yn trio cadw pob ceiniog sydd gennai. Dwi’n teimlo fel na welai’r mis nesaf ond eto dwi’n prynu par o drwsus cerdded newydd i fedru cerdded yn y glaw dros y gaeaf. Sut mae hynna yn medru gwneud unrhyw synnwyr?
Tydw i heb gynllunio na pharatoi ond mae hunanladdiad yn gyffredinol yn barhaol yn fy meddwl. Mae gennai syniadau, ond nid cynllun cadarn. Ac oherwydd hynny, yn ôl pobl iechyd meddwl proffesiynol, tydw i ddim yn peri pryder iddyn nhw, ddim yn risg i mi fy hun na chwaith ddim yn cyrraedd y criteria o fod angen mwy o gefnogaeth na chymorth. Does neb o’r bobl iechyd meddwl proffesiynol wedi gofyn i mi ehangu ar y syniadau hunanladdol sydd genai na chwaith wedi gofyn os oes genai unrhyw beth a allai achosi niwed i fy hun.
Dwi’n byw mewn bybyl. A dim ond fi’n hun sydd â mynediad i mewn ac allan o’r bybyl hwnnw. Dwi’m yn gadael neb arall i mewn. Sut fedra i? Sut fyswn i’n dechrau egluro beth sy’n mynd ymlaen yn y bybyl? Dwi’m isio bod yn niwsans, yn fwrn nac yn faich. Dwi’n ddigon o faich negyddol yn barod.
Sut dwi’n ymdopi neu trio cau allan y meddyliau tywyll ‘ma? Dwi’n cerdded. Weithiau na’i gerdded am filltiroedd ac oriau; weithiau am hanner awr yn y glaw. A dwi’n byta, yn ddi-stop. Dwi’n sefyll yn y gegin am dros ddwy awr yn bwyta ac yn bwyta. Wedyn dwi’n teimlo’n afiach ac euog a mae’r cylch yn cylchdroi eto.
Dwi’n gwybod bod y meddyliau dwi’n eu profi a’r ffordd dwi’n byw yn gyffredinol ddim yn iawn o bell ffordd. Dwi’n ymwybodol o hynny. A dim ond hyn a hyn o feddyliau hunanladdol medrith rywun eu profi. Ydyn nhw’n stopio o gwbl? Ydw i’n rhoi mewn iddyn nhw? Gadael iddyn nhw ennill? Fedra i ddim gweld sut y medra i ennill.
A dyna ni, profiad o sut mae un person yn byw efo meddyliau hunanladdol. Dyma, i mi, ydi byw efo meddyliau hunanladdol. Dwi’m yn meddwl y bysa ‘na neb yn medru dweud wrth edrych arna i fy mod i’n teimlo fel ydw i. Felly ar y nodyn yna, dwi am orffen drwy ddweud…peidiwch a barnu. Mae rhai pethau yn anoddach i rai pobl nag ydyn nhw i eraill. Mae rhai pethau yn brifo rhai pobl mwy na mae nhw’n brifo eraill. Mae dangos ‘chydig o empathi yn mynd yn bell ac yn golygu lot fawr.