Blog Mis Atal Hunanladdiad
Rhybudd cynnwys: Mae’r blog hwn yn cyfeirio at hunanladdiad.
Hunanladdiad. Mae’r gair yn dal eich llygaid dydi? Mae’n dal fy llygaid i pob tro. Cefais fy nghamarwain ar hunanladdiad ers pan oeddwn yn blentyn ifanc. Roedd mam yn arfer dweud wrthai bod pobl sydd yn marw o hunanladdiad, neu’n cymryd eu bywyd eu hunain, yn bobl hunanol. Bach oeddwn i, felly yn gwrando ar bopeth oedd mam yn ei ddweud wrthai. Dwi bellach ddim yn fach, na chwaith yn gwrando ar bopeth mae mam yn ei ddweud. Tydi pobl sy’n marw o hunanladdiad na’r rhai sy’n teimlo’n hunanladdol ddim yn hunanol. Roedd fy mam ar fai yn dweud hynny wrthai. Rhoi camargraff ar bwnc nad oedd ganddi unrhyw wybodaeth na phrofiad ohono. Dwi’n flin ei bod wedi gwneud i mi feddwl y fath beth. Ond fel dwi’n dweud, tydw i bellach ddim yn gwrando ar bopeth mae mam yn ei ddweud, a rwyf wedi dod i ddeall nad oes unrhyw beth hunanol am deimlo’n hunanladdol. Ac yn bendant does dim byd hunanol am hunanladdiad.
Ers i mi ddioddef efo iselder, sydd yn gryn dipyn o flynyddoedd bellach, mae unrhyw sôn am hunanladdiad yn dal fy llygaid a fy meddwl. Mae’r mater a’r sefyllfa yn fy nharo fel cyllell finiog a dwi’n teimlo gymaint dros yr unigolyn – os dwi’n ei adnabod neu pheidio. Dwi eisiau gwybod y manylion. Ond tydi’r manylion hynny ddim o bwys i neb.
Dros y misoedd diwethaf mae hunanladdiad wedi dod yn fwy personol i mi gan mod i wedi bod yn teimlo’n hunanladdol. Mae nhw wedi bod y misoedd gwaethaf dwi erioed wedi eu profi. Roeddwn i eisiau marw. Doeddwn i ddim eisiau byw. Dwi’n cofio adeg ble roeddwn yn teimlo nad oedd gennai’r ‘hawl’ i ddweud fy mod yn profi teimladau hunanladdol gan nad oeddwn yn meddwl mod i ddigon drwg neu digon sâl. Ond mae’r diwrnod hwnnw wedi dod – mi ydw i ddigon drwg a mi ydw i ddigon sâl. Gall unrhyw un deimlo’n hunanladdol a gall unrhyw un farw o hunanladdiad. Dyna’r perygl.
Dwi wedi dweud wrth fy ffrind, fy ffrind gorau, am un cyfnod ble bu i mi deimlo’n hunanladdol. Roeddwn i mor agos, mae’n ddychrynllyd. A dwi hefyd wedi estyn allan at berson annwyl a charedig iawn ar gyfnod arall. Bu i’r person yma fy achub, does dim dwywaith am hynny. Dwi wedi dweud wrth fy CPN a’r seiciatrydd am y meddyliau a’r teimladau dwi wedi/yn eu cael ond heb dderbyn fawr o ymateb na chefnogaeth. Dwi hefyd wedi cysylltu sawl tro efo Llinell Gymorth drwy text sydd wedi bod o gymorth mawr yn y fan a’r lle a wedi fy nghael allan o dwll mwy nag unwaith.
Tydw i heb ddweud wrth neb arall, na heb ddweud wrth fy ffrind gorau am y cyfnodau eraill, gan mod i’n teimlo bod gan bobl ddigon ar eu plat heb orfod delio efo hyn hefyd. Yn fy marn i, dwi’n teimlo mod i’n faich negyddol a bod pobl yn well hebdda i.
Mae ‘na stigma o gwmpas y gair ‘hunanladdiad’, wel mae ‘na stigma o gwmpas salwch meddwl yn gyffredinol, ond dwi’n meddwl pan mae pobl yn clywed y gair ‘hunanladdiad’ neu ‘hunanladdol’ mae nhw’n tueddu i gilio i ffwrdd. Tydi’r mater ddim yn derbyn digon o ymwybyddiaeth, cefnogaeth na chwarae teg.
Dwi wedi treulio blynyddoedd, cyn i’r teimladau hunanladdol dwys gicio mewn, yn teimlo fel mod i ddim eisiau deffro yn y bore. Ond yn ôl pobl iechyd proffesiynol, tydi hynny ddim yn cael ei ystyried fel teimlad hunanladdol gan nad oedd gennai gynllun mewn lle. Petawn i wedi derbyn y cymorth a’r gefnogaeth cywir pan nes i gyfaddef bod gennai deimladau hunanladdol cychwynol efallai na fuaswn wedi gwaethygu a cyrraedd pwynt ble mae gennai rhyw fath o gynllun mewn lle. Dwi’n ddyddiol yn ystyried y cynllun hwn. Mae hyn yn deimladau hunanladdol. Mae teimlo fel nad ydych eisiau deffro yn y bore yn deimlad hunanladdol. Mae teimlo fel nad ydych yn medru cario mlaen efo bywyd yn deimlad hunanladdol. Mae teimladau hunanladdol yn medru amrywio, ac mae pob lefel a phob amrywiaeth yn haeddu cymorth, cefnogaeth a thegwch.
Dwi wedi goroesi’r teimladau a meddyliau hunanladdol hyd yn hyn. A hynny yn bennaf heb i fawr o neb wybod. Yn bendant does neb yn gwybod dyfnder y teimladau a’r meddyliau, na chwaith pa mor agos dwi wedi bod ar fwy nag un achlysur.
Dyma fy mhrofiad i o brofi teimladau hunanladdol. Mae’n fwrn dragwyddol arnai mod i’n profi teimladau a meddyliau o’r fath. Ond mae salwch meddwl yn fwrn. Ac mae hunanladdiad yn cipio ar llawer iawn gormod o bobl.