‘Mae hen greithiau wedi cael eu hagor ond dwi’n gwbo fy mod i ddim ar ben fy hun’
Rhybudd: Mae’r blog hwn yn cyfeirio at aflonyddu rhywiol a threisio.
Mae’r wythnos yma wedi bod yn un rhyfadd ac anodd. O sefyllfa meddyliol bregus Meghan Markle (a’r backlash uffernol gathi) i Sarah Evarard, ac i gyd yn dilyn Diwrnod Rhyngwladol y Merched. Wythnos sy wedi uwcholeuo’r problemau cymdeithasol ma’ pob merch yn ei gwynebu o hyd. Ar ôl ymfalchio mewn merched cryf, yr holl insta posts a’r tweets yn dathlu cryfder, dewrder a pha mor amazing ydi o i fod yn ddynes, dwi’n teimlo mor drist a rhwystredig erbyn heddiw ein bod ni dal yn byw mewn cymdeithas lle mae o’n hollol normal i ama’ a beirniadu unrhyw un sy ddigon cryf i siarad yn gyhoeddus am iechyd meddwl. I feio’r ferch sy’n cael ei cham-drin, ei threisio, neu hyd yn oed ei llofruddio, yn hytrach na phwyntio’r bys ar y broblem go iawn.
Mae stori Sarah Everard wedi effeithio arna i lot yn y dyddiau diwethaf. Alla i ddim stopio meddwl amdani hi na beth ddigwyddodd. Mae gweld yr holl straeon ar Twitter ac Instagram wedi bod mor bwerus, ond allai’m helpu ond teimlo’n waeth ar ôl eu darllen. Y gwir ydi ei fod yn norm i ferched deimlo’n ofnus wrth droedio allan ar eu pen eu hunain. Mae o’n normal i deimlo’n ofn, i banicio, i gael cynllun dianc yn ein pen ‘just rhag ofn’. Mae o mor anodd derbyn fod hyn yn rywbeth sy’n digwydd lot rhy aml, i gormod ohonom ni. Ond mae ‘na rhyw gysur od mewn gwybod fy mod i ddim ar ben fy hun yn teimlo fel’ma. Ac y gwir ydi, mi fysa beth ddigwyddodd i Sarah Everard wedi gallu digwydd i unrhyw ferch, a dyna sy’ rili wedi hitio adra.
“Textia pan ti di cyrradd adra”, “Wti adra yn saff?”, “Paid a cerddad adra dy hun nai ddod i nol chdi”, “Ti ddim am fynd am run heno na? Mai’n twllu’n fuan wan cofia”, “Nai gerddad chdi adra dio ddim problam”. Ambell beth sy wedi dod yn force of habit i ddweud wrth unrhyw ferch sy’n meddwl mentro allan heb gwmni. Petha’ dwi wedi cael fy nysgu a fy nwyn fyny i ddweud gan fy mod i’n ferch. Ma’ harrassment ar y strydoedd yn wbath dwi a lot o fy ffrindia wedi dysgu i ddelio hefo, achos mae o’n digwydd mor aml. “Paid a sbio arna nw”, “Cerdda yn gynt”, “Sbia ar dy ffôn”, “Pen i lawr a power walk heibio”. Coping mechanisms. A ma’r rhan fwyaf o’r rhain wedi digwydd yng ngolau’r dydd.
Oni’n 19 pan ges i fy nhreisio gan rhywun oni’n arfer ei gynnwys fel ffrind. Nes i ddeffro y bore wedyn yn hollol confused, hungover a ddim yn gallu neud sens o be oedd wedi digwydd y noson cynt. Dim llawer o gof o be oedd wedi digwydd, dim ond ambell flashback. Nath o gymryd cwpl o ddiwrnoda i fi allu crybwyll y peth i fy ffrindia, dros decst, gan fy mod i’n teimlo gormod o gywilydd i ddweud wyneb yn wyneb. Am wythnosa oni’n trio perswadio fy hun bo fi wedi cam-ddallt y sefyllfa, mai fi oedd ar fai achos on i wedi meddwi gormod, bod fy sgert i chydig yn rhy fyr ac on i’n gwisgo bach gormod o fake-up. A dyma lle ma’r broblam. Dyma ydi’r naratif sy wedi cael ei fwydo i ni fel cymdeithas ers blynyddoedd. Y cwestiynu, yr amheuaeth a phwyntio bys ar y rhai anghywir. Roedd delio hefo’r trawma yma tra’n fyfyrwraig yn anodd, ac es i i lefydd tywyll iawn ar adegau. Mae o wedi cymryd hyd at wan imi ddod i delerau iawn hefo be ddigwyddodd ac i rili derbyn mai nid fy mai i oedd o. Dw i bellach yn 25.
Mae’r wythnos yma wedi fy ngadael yn teimlo’n hollol deflated. Ella bod hen greithiau wedi cael eu hagor ond dwi’n gwbo fy mod i ddim ar ben fy hun yn teimlo fel’ma. Ma’ harassment a thrais yn erbyn merched yn digwydd lot rhy aml. ‘Nath o fy nghorddi i weld bod #NotAllMen yn trendio ar twitter. Ma’r ffaith ei fod o’n trendio’n uwch na Sarah Everard ei hun yn dangos gymaint o broblem sy’ gennym ni. Yn amlwg dydi pob dyn ddim yn euog, ond yn hytrach na chamu yn ôl a bod yn dawel, ma’ angan sylweddoli fod pob dyn angen cymryd rhyw fath o gyfrifoldeb yma. Ma angen i ddynion fod yn vocal, a chyd-sefyll gyda’r merched. Nes i ffeindio allan ambell flwyddyn yn ôl fod be’ ddigwyddodd imi, fod cael fy nhreisio wedi bod yn ran o ‘lad banter’ rhwng yr hogyn a’i ffrind. Oedd yn uffernol o boenus i’w glywed. Ma’ angen galw ymddygiad fel’ma allan. Dydi o ddim yn joc. Dydi o ddim yn ddoniol. Dim banter ydi o. Wrth ista’n ôl a g’neud dim da chi’n dod yn rhan fawr o’r broblem.
Da ni’n exhausted. Yn ffed yp. Yn rwystredig. Yn drist ac yn flin. Mae gan pob merch yr hawl i deimlo’n saff. I rannu eu brwydrau a’u straeon heb unrhyw feirniadaeth.
Byddwch yn fwy vocal. Galwch nhw allan. Gwrandewch a coeliwch ni yn lle amau neu beirniadu. Mae’n rhaid i betha’ newid.