Galar

Fis Hydref 2017 mi glywais i’r geiriau ro’n i wedi’u dychmygu eu clywed ers hydoedd… ro’n i am fod yn anti. Ro’n i mor hapus, a nid hapus fel ydach chi wrth gyrraedd adre ar ôl diwrnod caled, ond hapusrwydd go iawn. Ro’n i jyst yn teimlo mor gyffrous a mor falch dros fy mrawd a fy chwaer yng nghyfraith. Ond, o fewn mis, chwalodd popeth. Teimlais i dristwch a galar na theimlais i erioed o’r blaen, a hynny yn rhannol am nad o’n i’n gallu ei rannu gyda neb. Roedd o i gyd yn fy mhen ac yn fy nghalon, ac yno drwy’r amser. Do’n i methu dianc a methu symud y tu hwnt iddo.

Gyda phob carreg filltir a oedd yn dod a mynd roedd y galar yn pigo, yn ddagrau poeth tu ôl i fy llygaid ac yn gwasgu fy nghalon. Erbyn Medi 2018 do’n i jyst ddim yn gallu ymdopi ac felly trois i at y feiro a’r papur a phenderfynu chwydu fy nheimladau ar bapur. Dyma fy llythyr at y nith neu nai na chefais i fyth gyfarfod.


Mae gen i broblem. Alla’ i ddim stopio meddwl amdana’ ti. Rwyt ti yn fy mhen, fy meddyliau, fy nychymyg- bob dydd. Yn hollol bresennol, er dy absenoldeb. A dyna sy’ mor greulon. Rwyt ti yma, er mai’r rheswm rwyt ti yma, yn fy mhen, ydy nad wyt ti yma go iawn. Ti’n gweld, roeddet ti i fod yma erbyn hyn- ers rhai misoedd a deud y gwir. Yma. Yn llenwi fy nghalon â chariad, nid â’r galar a’r hiraeth hwn. A sut alla’ i deimlo’r hiraeth dwfn, poenus hwn pan na fodolaist di mewn gwirionedd? Ond dyna’r creulondeb. Fe wnes di fodoli. Dim ond am wythnosau, ond bodoli oedd o. Yn fy mhen, yn fy meddyliau, yn fy nychymyg. Ac yna mor gyflym ag y dest di i fy myd, dyna ffawd yn greulon wedi dy gipio oddi arna’ i, a ‘ngadael i gyda chalon yn llawn hiraeth am yr hyn allai fod, am yr hyn gallwn fod.

A dyna be sy’n waeth, ti’n gweld. Nid fi biau’r galar hwn. Nid fi ddylai fod yn torri ‘nghalon, ond y nhw. Ond dydyn nhw ddim yn siarad am y peth. Ddim yn gyhoeddus. A dyna eu dewis nhw. Ond nhw biau’r galar hwn, yn fwy na fi. A gyda phob mis sy’n mynd heibio dwi’n gwybod fod eu galar a’u hiraeth nhw’n tyfu. Dwi’n gwybod hynny gan mai dyna mae fy nghalon i’n neud – brifo. Mae’r hiraeth yn pwyso fel gordd am fy nghalon.

Dwi’n derbyn rwan nad wyt ti’n bod. A dwi’n trio peidio meddwl am hynny drwy’r amser. Ond mae o mor anodd. Mor anodd ceisio peidio â theimlo’r dagrau poeth yn pigo cefn fy llygaid wrth feddwl amdana’ ti. Mor anodd peidio â theimlo’n chwerw wrth weld y gweddill. Ond dwi’n meddwl dwi wedi derbyn y sefyllfa. Sy’n anodd. Am fis i fi, roeddet ti’n bod. Ac wrth gwrs, fel dwi wastad yn gneud, gadawais i fy nychymyg ruthro ‘mlaen. Nes i adael i fy hun gyffroi a breuddwydio.

A rwan, dyma fi yn ceisio peidio â meddwl amdana’ ti. Ond wrth gwrs canlyniad hynny ydy mod i’n byw yn meddwl am y tro y clywa’ i’r geiriau yna eto ganddyn nhw. A felly dwi’n meddwl am bob cyfle sy’n pasio, fel pluen yn y gwynt, pob ‘falle yn troi’n fethiant. Pob gobaith yn troi’n alar newydd. A fedra’ i ddim peidio meddwl am y siom a’r rhwystredigaeth a’r tristwch sy’n sicr yn llenwi eu meddyliau nhw.

Ti’n gweld, taset ti wedi bodoli, byddet ti wedi profi’r fath gariad. Dwi’n gwybod hynny. Cariad a gofal a phopeth i lenwi dy fyd bychan. A byddet ti wedi llenwi ein bywydau ni. A dyna sy’n brifo hefyd. Gwybod am y gwagle.  A mae’r gwagle hwnnw’n brifo bob dydd.

A dwi’n dyheu. Yn dyheu am y diwrnod y clywa’ i’r geiriau ganddyn nhw. Y geiriau i gadarnhau fod y gwagle hwnnw am gael ei lenwi, geiriau fydd yn lleddfu’r hiraeth a’r galar sy’n llenwi fy meddylau, fy mhen a fy nychymyg. Ond nes y clywa’ i’r geiriau yna dwi wedi fy ngadael yn meddwl amdana’ ti’n ddyddiol, yn brifo ac yn hiraethu am blentyn na chefais i erioed ei adnabod.

Ond cofia, fyddi di wastad yn bodoli i fi, dy anti.


Yn sydyn ar ôl chwydu popeth ar y papur, ro’n i’n teimlo rhywfaint yn well. A fel bod y niwl yn fy mhen wedi clirio ychydig. Dwi’n rhannu hwn oherwydd dwisio deud- mae pethau yn gwella. Mae’r tristwch yn codi a’r galar yn dod yn haws ei oddef a ddim yn rheoli pob munud o bob diwrnod.

A mae gobaith wastad yn trechu anobaith. A hyd yn oed pan nad ydyn ni’n gallu gweld bod yna oleuni, weithiau mae’n gallu ymddangos yng nghanol y tywyllwch duaf yn annisgwyl. Mis ar ôl ‘sgwennu’r llythyr fe glywais i’r geiriau arbennig yna eto a rwan dwi yn anti!

Di-enw