Codi’r ‘lockdown’ yn codi gorbryder

Dwi’n cofio bod yn falch iawn o fi fy hun dros y cyfnod clo. O’n i’n ymdopi’n iawn gydag aros adref, bod gyda’r gwr a’r plant pob dydd, gweithio ac addysgu 3 o blant ifanc o adref. Da iawn fi.

Caveat enfawr – dwi’n gweithio 2 ddiwrnod yr wythnos a roedd swyddi fi a fy ngwr yn saff – sefyllfa ddelfrydol dros yr adeg yna.

Ta beth, ges i fy synnu’n fawr nad oedd fy ngorbryder tymor hir yn codi neu’n gwaethygu. Efallai bod 20 blynedd o rhagweld crisis ac ymarfer ar ei gyfer wedi gwneud e’n haws i fi na pobl sydd ddim yn dioddef o orbryder, i ymateb? Efallai bod yr ymdrech o ymarfer corff pob dydd, dim yfed alcohol ac ymarfer meddwlgarwch wedi fy ngwarchod fi?

Ond wrth ddod allan o’r cyfnod clo mae’r gorbryder wedi codi a gwaethygu. Dwi wedi gorfod ffonio’r doctor ac ystyried cymryd mwy o feddyginiaeth. A nawr, wrth feddwl am y peth, mae’n amlwg bod y cyfnod clo wedi bod yn amser saff i fi. Ddim gorfod gadael y ty , ddim gorfod rhuthro o un lle i’r llall, a pheidio gorfod teithio i unrhyw le.

A nawr ein bod ni’n cael mynd, a’r gwr a’r plant yn awyddus iawn i ddechrau camu allan eto, dwi’n ofn. Dwi’n poeni. Dwi’n crynu. Mae meddyliau trychinebus yn gwthio i mewn i fy mhen pob dydd. Ac os na fyddai’n delio gyda’r gorbryder, dwi’n gwybod o brofiad fyddai’n cwympo dros y copa o orbryder i iselder.

Di-enw