A fydda i’n rhoi fy iechyd meddwl mewn perygl os ydw i’n cael plentyn?
Dwi wastad wedi meddwl y byddwn i’n cael plant ryw ddydd. Pan ddechreuodd rai o fy ffrindiau gael plant yn eu hugeiniau, nes i gymryd yn ganiataol y byddwn i’n neud yr un peth. Daeth y syniad hyd yn oed yn agosach at realiti pan briodais i ddwy flynedd yn ôl, ac yna pan wnes i droi’n 30 oed y llynedd. Yna ym mis Chwefror eleni, ffindes i mas mod i’n feichiog.
Ar ôl mis, wrth i ni fynd mewn i’r cyfnod clo, fe gollais i’r babi. Anfonodd yr ysbyty fi adre i golli’r babi’n naturiol oherwydd y sefyllfa gyda Covid. Doedd braidd dim cymorth, na syniad o beth i’w ddisgwyl, jyst ‘go home, relax and it’ll happen naturally’. Ond hyd yn oed yn y cyfnod byr iawn hwnnw o fod yn feichiog, gwaethygodd fy iechyd meddwl yn sylweddol. Oni’n cael meddyliau tywyll iawn, yn crio drwy’r amser, ac yn methu codi o’r gwely. Dwi ddim wedi teimlo mor wael â hynny ers degawd.
Mae gen i iselder a gorbryder, a hynny ers fy arddegau. Dwi wedi treulio fy ugeiniau’n dod o hyd i ffyrdd i’w rheoli, ac mae rheiny’n cynnwys meddyginiaeth, ymarfer corff, cadw’n brysur, a therapi. Dwi wedi bod mewn lle da ers blynyddoedd, wel on an even keel, beth bynnag. Felly roedd dychweliad sydyn y teimladau erchyll fel tunnell o frics. Ryw wythnos ar ôl i mi golli’r babi, dechreuais i deimlo’n normal eto, o leiaf yn feddyliol. Wrth gwrs roeddwn i’n drist, ond doeddwn i methu â helpu’r ymdeimlad o ryddhad. Ac yna’r sylweddoliad nad oedd cael babi yn rywbeth oeddwn i’n gyffrous amdano mwyach, ond yn hytrach rhywbeth oedd yn codi ofn arnaf.
Mae’r holl gwestiynau fel cwmwl du dros yr holl beth nawr. A fydda i’n gallu ymdopi â beichiogrwydd eto? A fyddai’n gallu parhau ar fy antidepressants os ydw i’n feichiog? Beth os ydw i’n cael camesgoriad arall? Sut alla i fyw â fy hun petawn i’n pasio ‘mlaen salwch mor ofnadwy i fy mhlentyn? Allai hyd yn oed fod yn fam da os ydw i’n byw â chyflwr iechyd meddwl? Ydw i wir eisiau plentyn? Ac yn 31 oed dwi’n llwyr ymwybodol nad oes llwyth o amser gen i ar ôl i bendroni dros y peth.
Weithiau dwi’n meddwl mod i’n hunanol, dwi’n teimlo mod i’n dwyn y cyfle i fy ngwr fod yn Dad, i fy rhieni gael wyrion. Rydyn ni o hyd yn cael cwestiynau drwy’r amser, gan deulu, ffrindiau, cydweithwyr, “chi wedi bod yn briod ers dwy flynedd nawr, nad yw hi’n amser i chi gal plant?” Dwi jyst ishe sgrechian pryd ma’ hynny’n digwydd. Plis, plis, peidiwch byth â gofyn i rywun pam nad ydyn nhw wedi cael plant eto, ‘dych chi byth yn gwbod beth ma’ nhw wedi bod drwyddi.
Dwi o hyd ddim yn gwybod beth fydd yn digwydd yn y dyfodol, ond dwi’n gobeithio dychwelyd i gwnsela’n fuan i siarad am yr holl beth, y trawma o’r camesgoriad ei hun, a’r penderfyniad enfawr sydd gen i o ‘mlaen.
Di-enw