Awtistiaeth, iechyd meddwl, a hunanladdiad
Rhybudd cynnwys: Hunanladdiad
Mae bywyd jyst yn anodd weithiau. Mae hyn yn wir i ni i gyd ond mae bod yn awtistig efo ADHD yn dod a sialensau unigryw. Wrth i fi ysgrifennu hwn, rydw i o’r diwedd yn dechrau gwella ar ôl brwydro drwy Covid. Mae’r tri person yn y ty wedi bod efo fo dros cyfnod ‘Dolig, efo fy nhad yn testio yn bositif ar Rhagfyr 24 ac ar ei waethaf ar ddiwrnod ‘Dolig ei hun, a mam yn bositif ar Rhagfyr 26 a ddim ond yn dechrau gwella rwan. Wnes i rywsut lwyddo i’w osgoi tan diwrnod cyntaf y flwyddyn. I ddweud y lleiaf felly, nid ydi’r flwyddyn wedi dechrau ar nodyn hapus iawn. Roedd 2023 wedi bod yn flwyddyn mawr i fi efo lot i brosesu felly bysa wedi bod yn neis i gael Dolig hapus ac iach efo’r teulu, ond nid oedd hyn yn bosib blwyddyn yma.
I ddweud y gwir, rydw i yn sicr wedi bod efo annwyd gwaeth na hyn yn y gorffennol – dim ond ychydig o dagu a dolur gwddw ges i am chydig o ddyddiau. Beth oedd yn anodd go iawn oedd yr her iechyd meddwl o gynnal fy hun drwy salwch tra mae fy rhieni yn mynd trwy’r un profiad. Rhyw 3 neu 4 diwrnod fewn i’r salwch, symudodd y symptomau o rhai annwyd cyffredin i iselder llwyr a theimlad enfawr o flinder, yn ddi-egni ac yn ddi-obaith. Ar ôl gwglo ‘new Covid strain symptoms 2023’ ac yn y blaen, roedd hi’n ymddangos fod y symptomau yma yn weddol gyffredin ymysg pobl sy’n dal y straen mwyaf diweddar.
Mewn amgylchedd lle mae’n rhaid aros yn y ty, a mewn ty efo dau berson arall yn dioddef o Covid ac yn weddol isel ei hunain, roedd hi’n hawdd iawn hel meddyliau a disgyn fewn i or-bryder ac iselder. Roedd hi’n eithiradol o anodd gweld fy rhieni yn dioddef fel y bysai i unrhyw berson arall, ac roedd dod i arfer efo’r syniad yma yn ddigon anodd, yn enwedig gan ei fod yn fy atgoffa bod nhw ddim am fod o gwmpas am byth a ddim mor oll-bwerus a roeddent yn ymddangos pan yr oeddwn yn blentyn.
Mae pobl awtistig fel fi yn tueddu o ddefnyddio lot o egni mewn bywyd bob dydd jyst yn cadw i fynd a phrosesu pethau, yn enwedig pethau synhwyrol a chymdeithasol. Mae’r profiad o addasu ein hunain i fyw mewn bywyd neurotypical hefyd yn cymryd llawer iawn o egni. Mae hyn i gyd yn adio fyny i beth sydd yn cael ei ddisgrifio fel ‘autistic burnout’ weithiau, sef pan mae rhywun awtistig yn hitio wal ac yn hollol wag o egni. Pan mae hyn yn ran o’ch bywyd cyffredin yn barod, mae’r stress ychwanegol o rywbeth annisgwyl ac anodd, fel eich teulu a chi yn dal Covid ac yn gorfod methu Dolig ar ol flwyddyn mawr, yn gallu hitio yn galed, yn enwedig o ystyried y ffaith fy mod i yn un o’r llawer o bobl awtistig sydd yn stryglo efo newidiadau mewn strwythur a routine.
Yn ystod yr wythnos diwethaf pan oedd yr uchod i gyd yn mynd ymlaen, y prif beth dwi wedi bod yn gwneud efo fy amser ydi poeni ac adlewyrchu. Rydw i wedi bod yn adlewyrchu ar pa mor anodd ydi fy mywyd i fel rhywun awtistig efo ADHD a hanes o iselder a gor-bryder, ac yn adlewyrchu ar y syniad o gario ymlaen efo bywyd. Byswn yn anonest os y byswn yn dweud dwi ddim yn cwestiynu os ydw i eisiau cario ymlaen neu ddim, mewn gwirionedd dwi yn gwneud yn weddol aml. Yn objectif, mae 2023 wedi bod yn flwyddyn llwyddiannus i fi –cefais fy ddiagnosis ADHD a dechrau meddyginiaeth sydd wedi helpu, a dechreuais fy swydd gyntaf sydd wedi bod yn lwyddiant mawr, un nad oeddwn yn siwr os y byddwn byth yn gallu cyrraedd.
Mae’n gallu bod yn anodd cofio hynny i gyd pan mae bywyd dydd i ddydd dal yn gallu bod yn mor anodd pan rydych yn defnyddio gymaint o egni yn prosesu unrhyw beth cymdeithasol a synhwyrol, ac yn un o’r llu o oedolion awtistig sy’n delio efo iselder a/neu gor-bryder. Mae’r byd tu allan yn aml yn ymddangos yn ansensitif, anghroesawgar ac anghyfeillgar i rywun awtistig neu anabl o gwbl, efo gymaint o bobl yn eich gweld fel jôc neu yn edrych lawr arnoch yn agored iawn. Mae temptasiwn felly i fynd yn ôl i’r byd mewnol, ond mae’r byd yma hefyd yn gallu bod yr un mor anghyfeillgar a blinedig, a rydw i yn bersonol yn teimlo yn aml fod fy meddwl fel carchar sydd yn fy nghosbi drwy gymhariaethau amhosib â pobl neurotypical, a drwy boeni yn ddi-baid am sut yr ydwi am gario ymlaen i oroesi mewn byd sydd ddim isio pobl fel fi o gwmpas.
Efallai y byddwch yn teimlo fod y iaith yma yn ddramatig, ond nid ydw i ar ben fy hun o bellfordd yn teimlo fel yma. Bob dydd, mae llawer o bobl awtistig yn cwestiynu, fel fi, os ydi cario ymlaen fel nhw ei hunain yn y byd yma werth o. *Mae adolygiad o Sweden wedi ffeindio mai hunanladdiad ydi’r ‘cause of death’ ail fwyaf ymysg pobl awtistaidd, a wedi ffeindio disgwyliad bywyd o ddim ond 54 mlynedd i bobl awtistaidd. Mae’r elusen Autistica wedi ffeindio fod fynnu at 66% o oedolion awtistig wedi ystyried lladd ei hunain, efo tua 35% wedi trio gwneud hyn, sydd yn gwneud nhw yn tua 7 gwaith mwy debygol o farw yn y dull yma na’r boblogaeth cyffredin. Mae oedolion awtistaidd heb anableddau dysgu yn 9 gwaith mwy tebygol, a merched awtistaidd yn 13 gwaith mwy tebygol o wneud y dewis yma. Yn ol Autistica, mae pobl awtistaidd yn cynrychioli tua 1% o’r boblogaeth ond yn cynrychioli tua 11% o hunanladdiadau.
Nid oes gennyf nodyn positif i gloi y darn yma yn anffodus, na dadl enwedig o benodol i gyfathrebu yn gyffredinol i fod yn onest. Dwi wedi gwerthfawrogi y cyfle i fod yn onest am brofiadau iechyd meddwl a niwrowahaniaeth, a mae bod yn onest yn gorfodi dweud bod gobaith a hapusrwydd yn gallu rhedeg yn wirioneddol brin ar adegau, a weithiau dydi pethau ddim jyst yn gwella drwy amser, a weithiau does na ddim diweddglo hapus. Dwi wedi bod yn adlewyrchu ar y ffaith fod gymaint o bobl talentog, gwerthfawr a chyfeillgar awtistig yn teimlo fod y boen o ymlwybro trwy’r byd yma yn ormod o dasg ac yn dewis ein gadael ni, ac efallai y bydd y darn yma wedi bod o werth os ydi o’n llwyddo i atgoffa chi o’r crisis yma sydd yn cael ei anghofio yn rhy aml. Rydym yn byw mewn byd sydd yn gyfforddus efo lluoedd o bobl awtistig yn lladd eu hunain bob dydd. Efallai bod hi’n werth adlewyrchu ar hyn ac i ni atgoffa ein hunain o’r pwysigrwydd o charedigrwydd a sicrhau fod pawb yn teimlo eu bod o werth.