Awtistiaeth a Iechyd Meddwl

Rhywbryd yn gynnar yn Haf 2021, cefais fy ngalw fewn i ystafell yn syrjeri Hafan Iechyd, Caernarfon, i siarad am broblem meddygol. Yn ei hun, profiad hollol di-nod yr oeddwn wedi gwneud sawl gwaith o’r blaen ac wedi anghofio’n gyfan gwbl amdano, ond roedd y diwrnod yma’n wahanol. Roeddwn yn mynd i weld aelod o staff Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol (Community Mental Health Team/CMHT) ar ôl cael fy nghyfeirio gan ddoctor oherwydd fy mod wedi bod ar feddigyniaeth iselder a gorbryder ers dipyn a roedd yn awyddus i fi drafod efo’r tîm.

Doeddwn i ddim yn siwr beth i’w ddisgwyl dweud y gwir, a doeddwn i ddim yn hollol siwr pam roedd y doctor wedi meddwl bod angen i fi weld y tîm yn y lle gyntaf. Wrth sbio yn ôl arno ar ôl dwy flynedd, dwi’n amau bod o wedi gweld yr un peth a wnaeth y nyrs iechyd meddyliol a wedi defnyddio y meddyginiaeth fel esgus. Ar ôl eistedd ochr arall i ddesg dynes caredig a croesawgar, derbyniais amryw o gwestiynau, y rhan fwyaf ohonynt yn amherthnasol i’r meddyginiaeth ond yn gwestiynau mwy personol – am sut fath o berson ydw i, sut ydw i yn ymateb i’r byd ac i bobl eraill, a pa fath o sialensau yr oeddwn wedi gwynebu mewn bywyd a oedd wedi dod a fi i’r apwyntiad yma. Mae’n anodd cofio yn union be ddywedodd hi – mae’r apwyntiad yna fel dipyn o ‘blur’ yn fy nghof, ond wnaeth hi esbonio ei bod yn gweld sawl arwydd o awtistiaeth ac yn meddwl bysa’n syniad da i fi gael asesiad ffurfiol amdano.

Wrth i mi lenwi’r ffurflen ar gyfer cyfeiriad at y Gwasanaeth Integredig Awtistiaeth, roedd cannoedd o bethau yn mynd trwy fy mhen ar unwaith. Dwi’n cofio gofyn i hi ailadrodd yr arwyddion neu symptomau oedd hi wedi gweld – roedd hi wedi rhestru nhw yn gynharach ond roedd gymaint yn mynd drwy fy mhen nid oeddwn yn cofio. Anhawster efo cyswllt llygaid, ton y llais ddim yn amrywio llawer, a mynegiant y gwyneb ddim yn newid llawer chwaith. Roedd hi hefyd yn tynnu sylw at y ffaith fy mod wedi bod yn delio efo problemau iechyd meddyliol am flynyddoedd, yn cynnwys yn weddol gynar yn fy mywyd, felly mae’n debyg mae awtistiaeth oedd y tu ôl i hyn.

Cyn dechrau ysgrifennu hwn, ron i wedi bod yn syllu ar y sgrin am rhai munudau yn meddwl am y lle priodol o ddechrau dweud stori fy mherthynas i a awtistiaeth. Mae’n rywbeth mor anferthol o arwyddocaol yn fy mywyd i, mae’n amhosib dod o hyd i un digwyddiad neu amser sy’n rhoi y darlun i gyd. Dwi’n hyderus fy mysai yn gallu ysgrifennu dwsin o erthyglau am y pwnc a dim ond crafu gwyneb y peth. I ddechrau, wnes i feddwl mai’r diagnosis ei hyn bysa’r lle amlycaf a hawsaf. Pan ges i’r newyddion yna yn Awst 2021 ar ôl asesiad hir a blinedig, beth bynnag, roedd fy mywyd wedi newid yn aruthrol yn barod.

O’r eiliad wnes i gamu allan o’r apwyntiad yna efo’r nyrs iechyd meddwl, mae fy meddwl wedi bod yn brysur dros ben yn trio gwneud synnwyr o beth wnaeth hi ddweud wrtha i. Mae’n broses sydd dal yn mynd yn ei flaen dwy flynedd yn ddiweddarach a dwi’m yn disgwyl i fo ddod i ben yn fuan. Erbyn y diagnosis, dim ond chydig o fisoedd ar ôl yr apwyntiad gyntaf yna, roedd fy nealltwriaeth o fy mywyd a fy mherthynas i bobl eraill wedi newid yn aruthrol yn barod. Mewn ffordd, roedd y diagnosis yn teimlo fel cydnabod yn ffurfiol beth yr oeddwn wedi dod i adnabod yn barod – fy mod yn awtistaidd wedi’r cyfan. Erbyn hynna, roeddwn wedi hen ddechrau ar y proses o ail-ystyried fy ngorffennol ac i adael fy hun feddwl am bethau nad oeddwn wedi gadael fy hun feddwl am.

Cyhyd ag y gallaf gofio, rydw i wedi teimlo yn wahanol, bod na ddau categori o bobl – fi, a pawb arall yn y byd. Mae’r teimlad yma wedi cymryd ffurf positif a negatif ar adegau amrywiol o fy mywyd, ond mae’n saff i ddweud fod yr ochr negatif wedi tueddu i fod yn fwy dylanwadol. Pa bynnag ffurf, mae’n deimlad mor gryf a sydd wedi bod yn ran mor canolog o fy mywyd nes ei bod hi’n anodd rhoi o mewn geiriau. Yn aml, y teimladau mwyaf sicr a cryf yw’r teimladau sy’n gwrthod cael eu troi fewn i eiriau. Sut y fedrwch gyfieithu teimlad fel yna i rhywun arall? Mae’n drasiedi mae geiriau ydi’r prif offeryn sgena ni i fynegi ein hunain, oherwydd mae geiriau mor amherffaith. Mae’r teimlad yma wedi mynd mor ddyfn am mor hir dwi wedi rhoi gorau efo trio ei gyfathrebu yn union, dwi wedi dysgu bod rhaid jyst ymddiried mewn pobl eraill a gobeithio eich bod yn fy nghoelio i.

Yn aml, pan yn tyfu fyny, roedd y teimlad yn fwy na jyst bod o’n wahanol, roedd o’n deimlad bod na rywbeth yn bod efo fi. Does dim syndod fod y syniad yma wedi codi wrth adlewyrchu yn ôl ar fy mywyd. Hyd yn oed fel plentyn, roedd popeth yn ymwneud efo pobl eraill yn teimlo fel wal frics mawr yn fy meddwl. Roedd hi’n bosib clywed pawb arall yn sgwrsio ac yn chwerthin efo’u gilydd tu ôl i’r wal, ond am ba bynnag reswm, roedd hi bron byth yn bosib i fi ddringo neu mynd o gwmpas y wal. Doedd dim dewis arall ond i aros a gwrando, yn dod yn fwy ac yn fwy ymwybodol o’r teimlad o wahaniaeth a rhyfeddod. Yn sicr, mae atgofion cynnes ymysg y rhai oer. Roedd adegau lle doedd y wal ddim yna o gwbl, a felly cefais rhai o’r un profiadau ag unrhyw un yn darllen y blog yma o ran gwneud ffrindiau, ffurfio cysylltiadau efo pobl eraill a teimlo’n rhan o rywbeth mwy.

Ond wrth i’r perthnasau a chysylltiadau yna fynd yn eu blaen, nid oedd y teimlad o wahaniaeth yn diffodd. Hyd yn oed efo ffrindiau yr oeddwn yn ymddiried ynddynt, roedd y teimlad o ddryswch ac anhawster cymdeithasol yn parhau. Roeddwn yn ffeindio yn aml bod fy mhen yn mynd yn hollol wag pan yn trio meddwl am beth i’w ddweud, pan fod sgyrsiau i’w weld yn lot mwy naturiol i bobl eraill. Roedd fel bod fy ffrindiau yn chwarae jazz tra’n sgwrsio – roedd o’n esmwyth, rhydd a byrfyfyr, yn ymateb i deimladau’r gynulleidfa ac yn arwain nhw tuag at fodlondeb a chymuned, ac yn gwbl wahanol idda fi. Ron i’n fwy fel rhywun yn perfformio i sgript – nid oedd cymdeithasu yn gymaint o antur idda fi, ddim yn gem i’w chwarae efo calon ysgafn cyn anghofio amdano tan y tro nesaf, roedd o’n rywbeth dirgel ac anodd, proses a oedd yn galw am ddadansoddiad a pharatoi ac yn meddiannu fy meddwl yn hir ar ôl i’r sgwrs ddod i ben. Roedd rhai pethau hefyd jyst i’w weld yn anodd am ddim rheswm, fel gwneud cyswllt llygaid.

Mae pawb yn gwybod dy fod i ‘fod’ i sbio i lygaid rywun pan yn siarad efo nhw, mae’n anghwrtais i beidio, felly mae’n well i fi wneud hyd yn oed os dwi’n gweld o’n anodd. Y canlyniad o feddwl fel yma, wrth gwrs, ydi fy mod wedi cael y syniad fod rhywbeth yn bod efo fi, fy mod, mewn ryw ffordd, ddim rili yn ‘berson’ fel mae rhywun arall yn ‘berson.’ Dwi yn rywbeth gwahanol, ac yn rywbeth gwaeth. Y peth mwyaf amlwg yn y byd oedd fy mod i efo cyfrifoldeb i newid ffordd naturiol fy hun o fyw a chyfathrebu er mwyn plesio eraill, wrth gwrs nhw oedd yn gwneud yn iawn a doeddwn i jyst ddim yn gallu deall yn iawn sut i ymwneud ag eraill, roedd na jyst rywbeth amdana fi oedd yn rhwystro fi rhag gwneud.

Byswn yn gallu mynd ymlaen am byth yn trio esbonio fy mhrofiad o fod yn awtistaidd mewn byd sydd ddim. Mewn gwirionedd, dim ond un rhinwedd o’r profiad yna sydd uchod, sef y sialensau cymdeithasol rydw i wedi gwynebu. Dewisais drafod yr ochr cymdeithasol ar ôl disgrifio sut roedd yr apwyntiad efo’r nyrs wedi rhyddhau fy meddwl i ystyried fy ngorffennol yn ffres oherwydd yr adlewyrchion uchod yw rhai o brif ganlyniadau y broses yna o feddwl. I fi yn bersonol, sialensau efo cymdeithasu a cyfathrebu bysa’r her mwyaf o fyw efo awtistiaeth, os y byswn yn gorfod dewis un.

Mae awtistiaeth yn gyflwr niwroddatblygiadol, hynny yw, mae’n ymwneud gyda strwythur yr ymennydd ei hun, a felly mae’n gallu cael effaith eang iawn ar fywyd rhywun. Byswn yn hawdd wedi gallu trafod sawl rhinwedd arall, yn cynnwys y gwahaniaethau synhwyrol, ymddygiadol a datblygiadol, sydd hefyd yn ffurfio rhannau o fy mywyd rydw i wedi ceisio anwybyddu yn y gorffennol. Rydw i eisoes wedi gwneud rhai symudiadau ailadroddus corfforol (‘stimming’ yn Saesneg), heb feddwl a heb roi unrhyw fwriad tu cefn y peth fel arfer – rhai cyffredin, fel tapio bysedd neu chwarae efo beiro wrth eistedd wrth ddesg, ond rhai hefyd y dysgais yn fuan iawn i gadw’n preifat. Mae’r rhain y math o beth, os y bysai rhywun yn gweld nhw, byswn yn meddwl (neu yn dweud, yn uchel) ‘mae na rhywbeth yn bod efo fo,’ ‘mae’r boi na’n anabl’.

Rocio yn ôl ac ymlaen mewn cadair, fflapio dwylo, slapio cefn fy ngwddw neu top fy mhen yn ailadroddus – dydi pobl ‘normal,’ bodau dynol llawn ddim yn gwneud pethau fel yna. Pan on i’n gwneud pethau fel yna, byswn yn syth yn fforsio fy hun i ddim sylwi ac i beidio meddwl amdana fo. Os y byswn i’n gadael fy hun i feddwl, byswn i’n gorfod dod i’r casgliad bod rhywbeth yn bod a fy mod i ddim yn normal – gan bod ysgol a’r bywyd tu allan mor ddryslyd ac anodd yn barod, roedd hi’n haws ymdopi trwy smalio fy mod i’n rhywun arall.

Mae hwn yn esiampl arall o’r effaith enfawr mae bod efo ymennydd gwahanol yn cael ar eich bywyd, a pa mor chwyldroadol ydi o i glywed fel oedolyn bod na ateb i’r cwestiynau yma i gyd – nid ydych yn waeth, dim chi oedd yn methu, roeddech chi wirioneddol yn wahanol ac yn trio eich gorau. Nid oeddwn yn ‘stimio’ oherwydd fy mod yn ryw greadur israddol, dwi wedi dysgu erbyn hyn mai ffordd o reoleiddio straen yn y corff ydi o, ac mae’n gyffredin iawn mewn pobl awtistaidd. Ar yr un modd, doeddwn i ddim wedi gallu cau fy nghriau tan fy mod yn 18 oed oherwydd roeddwn efo cyflwr niwroddatblygiadol o’r enw awtistiaeth sydd yn effeithio ar y rhan o’r ymennydd sy’n gyfrifol am gydsymud, symudiadau main ac am gofio pethau tymor-byr. Yn ddiangen i ddweud, mae bod y math o person sydd ddim yn gallu cau criau tan yn 18 oed yn cael dipyn o effaith ar eich hunaniaeth, eich hyder ac eich gallu i deimlo fel rhan ‘normal’ o’r gymuned, yn enwedig ymysg hogiau yn eu harddegau. Mae gwybod fod rheswm da iawn i bethau fel yma yn gwneud cymaint o wahaniaeth.

Mae’r broses o wirioneddol derbyn hyn i gyd yn parhau, ac efallai ni fydd yn stopio, ond o leiaf rwyf efo’r rhyddid nawr i wynebu fy meddwl fy hun ac i weithio i ddad-wneud y difrod.