Alcohol a Fi

“Pam ti ddim yn yfed?” Ma unrhyw un sy’n dewis peidio yfed alcohol tra’n mynd ‘out out’ yn siwr o fod wedi clywed y cwestiwn yma. Ti ar antibiotics? Na. Ti’n cael babi? Absolutely not. Ti’n dreifio? Efallai, ond y gwir amdani ydy fy mod yn dewis peidio yfed oherwydd mae pob un elfen sy’n ymwneud ag yfed alcohol yn effeithio arnai mewn rhyw ffordd negyddol a dwi wedi cael llond bol.

Ym mis Rhagfyr 2021 penderfynais i drio neud Dry January. R’on i wedi trio sawl gwaith or blaen i gael brêc bach o’r booze ac wedi methu yn aml ar Ionawr y 1af neu’r 2il! Tro yma o’n i’n benderfynol. Pam? Wel erbyn hynny o’n i’n fam i efeilliaid ac mae plant yn gwylio pob dim tydyn? Doeddwn i ddim yn ddibynol ar alcohol yn yr ystyr, doeddwn i ddim yn yfed pob dydd ond o’n i’n medru yfed i ormodaeth pan o’n i yn yfed, o’n i’n cael hangxiety mwya ofnadwy y bore ar ol yfed ac o’n i wedi cyrraedd pwynt nad oeddwn i isio wastio eiliad o’n amser efo hangofyr – ma penwythnosau yn ddigon prin fel ma nhw efo teulu/ ffrindiau heb gorfod ffactro fewn amser i’r cur pen glirio! Erbyn hyn dwin deall mai gray area drinker ydw i, a tydw i ddim ar ben fy hun.

Aeth y mis cyntaf yn dda. O’n i’n cysgu yn well, doeddwn i ddim yn gorfod prynu unrhyw rennies na paracetamol ac roedd fy ngwallt a nghroen yn teimlo’n fwy iach. Yn wir, roeddwn i’n teimlo’n fwy iach o lawer felly penderfynais i gario mlaen am fis arall.  Waw, dyma pethe rhyfedd yn yn dechre digwydd wedyn. Teimlo fel bo fi’n byw bywyd go iawn, gweld y byd mewn lliwiau llachar; teimlad nad oeddwn i wedi sylweddoli mod i wedi colli o’r blaen achos mae alcohol just yn cripio fyny ar rywun rhywsut ac yn chwalu a dinistrio teimladau, wedi’r cyfan cyffur ydy o ond mae’n gyffur sy’n cael ei normaleiddio gan gymdeithas ac os rhywbeth, ti ydy’r un gwahanol os nad wyt ti’n yfed efo pawb arall!

Wedi rhyw 3 mis doedd na’m troi nol i fi, a dyma pryd ddechreuais y cyfrif Instagram Sobor o dda er mwyn cael rhannu syniadau a phrofiadau efo eraill, fel fi, sy’n ‘chydig o rebels ac yn hoffi mynd yn erbyn cymdeithas sy’n defnyddio alcohol ar gyfer pob dim; dathlu, cydymdeimlo a bob dim in between.

Dwi di cael y fraint o gyfarfod pobl sydd wedi goroesi dibyniaeth ac wedi gweld yr ochr waetha o alcohol, bendant nid yr ochr glam ma cwmniau mawr alcohol eisiau i ni weld. Dwi’n ddiolchgar i bawb sydd wedi cysylltu trwy Sobor o dda , rhannu profiadau a dangos cefnogaeth. Ma bywyd i fi, yn lot fwy llawn heb fymryn o alcohol a baswn i’n crefu ar y rhai ohonoch chi sy’n sober curious i roi gynnig arni.