Adeiladu bywyd ar ôl anorecsia

Mae’r broses o adfywio ar ôl anorecsia bron mor anodd â’r meddyliau. Mae pawb yn gweld chdi yn rhoi pwysau nôl ymlaen ac yn meddwl ‘grêt, mae drosodd’. Ond y gwir yw, does neb yn dod dros anorecsia nag unrhyw anhwylder bwyta. Mae’r meddyliau a’r lleisiau wastad yna.

Gweld hen luniau o dy hunan yn denau, gweld lluniau o bobl arall sydd yn denau yn naturiol a meddwl am fynd nôl, ailwaelu. Yn hollol onest, yr unig ffordd dwi heb fynd nôl eto yw bod gennai amser i fy hunan yn y gampfa, dwi nawr wedi newid fy meddwl at adeiladu cryfder a chyhyrau ond ma’ amser pryd ma’ bywyd yn mynd yn ei flaen, efallai nid oes amser i fynd i’r gampfa, neu nid yw’r gampfa ar agor… Mae’r lleisiau yn dod nôl.

Mae pawb yn rhoi’r argraff fod ennill y frwydr yn erbyn anorecsia yn hawdd.

Ond yr ateb yn iawn yw nac ydy. Mae’n cymryd pob owns o’ch gallu i wneud.

Ffrindiau yw’r peth nesaf. Ar ôl i chi ddechrau gwella, dyna pwy sydd angen fwy na dim arnoch yw’ch ffrindiau a’ch teulu. Ond y broblem go wir yw bod y rhan fwyaf o bobl oeddech chi’n meddwl oedd eich ffrindiau, wedi mynd. O chi ddim yn ffitio i mewn i’w bywyd nhw pryd oeddech chi ddim yn gallu mynd allan i yfed yn dre, neu mynd allan am ginio achos bod y lleisiau yn ormod.

Nawr mond llond llaw o ffrindiau sydd gennych chi. Mae adeiladu cyfeillgarwch yn ôl yn broses anodd, hir. Mae rhaid rhoi dy hunan mas ‘na, y lle chi ‘di bod yn osgoi am mor hir.

Mae’n cymryd beth sydd yn teimlo fel oes i ddechrau fod yn hapus eto.

Ond dwi’n addo, mae’r broses yn un hir, mae’n un anodd, ond mae’n dod.

Dim ond nawr, blwyddyn ar ôl i mi ddechrau rhoi pwysau nol ymlaen dwi’n dechrau teimlo yn hapus, dechrau joio mynd allan eto, a dechrau gwneud ffrindiau eto.

Does neb arall yn mynd i hollol deall eich problemau a’ch lleisiau ond ma’ bod yn onest ac yn agored yn helpu. Fy hobi wnaeth helpu fy i. Dewch o hyd i rywbeth allwch chi wneud hefyd, ar ben eich hun, amser i feddwl; amser i adfyfyrio a thyfu. A mi wneith y broses hir ddechrau gwella.

Nia Owens