Blog Vicky
‘Ma’ grŵp ohonyn ni’n ‘neud 10k Llanelli fel her ar gyfer pen-blwydd C. Ishe ymuno?!’ – Y peth cynta’ nes i feddwl oedd ‘HAHAHA! Na!’ Fodd bynnag, wedd rhywbeth yng nghefn fy mhen yn dweud wrthai i fynd amdani! Dwi wastad wedi joio her!
Yr 2il o Ionawr o’dd hi ac roedd y ras 10k ar Chwefror y 25ain! Dim cymaint a ‘ny o amser i hyfforddi mewn gwirionedd, yn enwedig o ystyried na bo’ fi ‘di rhedeg o gwbl ers yr haf! Pan dwi’n dweud bo’ fi heb rhedeg ers yr haf, mae honno’n stori ddoniol yn ei hunan!
Nôl a ni i ddiwedd gwanwyn 2023! Penderfynais i i ddechrau’r ‘Couch to 5k’! We’n i wedi rhoi cynnig arni unwaith o’r blaen, tua 5 mlynedd yn ôl! Fe wnes i’n eitha da bryd hynny ac mewn gwirionedd, er bo’ fi’n methu credu bo fi’n dweud hyn, nes i ddechrau mwynhau rhedeg! Wedi dweud ‘ny, fe gafon ni adeg o dywydd twym ofnadwy, ac mi wnes i stopio rhedeg gan ei bod hi’n rhy dwym a doedd dim synnwyr cyffredin gyda fi i fynd yn gynnar (wel, mi oedd e, ond dw i ddim yn ferch sy’n hoffi boreuau! ) ac erbyn nos, wen i ddim eisiau mynd, felly fe stopiodd y rhedeg ar unwaith, er bo’ fi’n joio fe’n fwy na’r disgwyl. Des i ben a rhedeg tua 20 munud cyn stopio yn gyfan gwbl, ac o’dd hyn yn arbennig i fi gan na bo’ fi erioed wedi rhedeg cyn ‘ny, ond na fe! Doedd dim ots ‘da fi bo’ fi’n rhoi’r gorau iddi chwaith!
Felly, pan benderfynais i bo’ fi’n mynd i ddechrau’r ‘Couch to 5k‘ eto llynedd, fe es i mas i redeg un prynhawn ar ôl meddwl amdano am tua 0.01 eiliad! Dyna sut ydw i! Dwi’n cael syniad yn fy mhen a ma’ rhaid i fi fynd i’w wneud e – nawr! Felly bant â fi a dechrau’r app o’r dechrau ‘to! Fe wnes i’n iawn ac fe ddechreuais wrando ar bodlediadau tra roeddwn i’n rhedeg. (Dw i’n dweud rhedeg… roedd tipyn o gerdded ar y dechrau, ond mae’r app yn bendant yn helpu gyda’r cynnydd!) Wen i ddim yn gallu gwrando ar gerddoriaeth fel mae llawer yn ‘neud, achos dwi’n un sy’n gwrando ar beth dwi’n lico ac yn gorfod canu gyda fe fyd, ac roedd hynny’n golygu bo fi’n colli ffocws ar fy anadl wrth redeg! Ond fe weithiodd y podlediadau – wen i’n edrych ‘mlaen at wrando, ac roedd yn golygu fy mod i yn mynd i redeg! Nes i ddim mwynhau rhedeg cymaint y tro hwn, ond fe wnaeth y podlediad gadw fi fynd achos roeddwn i’n joio gwrando arno, ond wen i ddim, a dwi dal ddim, yn gwrando ar bodlediadau ar unrhyw adeg arall! Ar ôl rhai wythnosau o redeg a gweld cynnydd bob tro, roeddwn i’n dechrau teimlo fy nghynnydd yn sefydlogi. Dwi’n un sydd angen gweld cynnydd, cael tlysau bach ar yr ap i gadw diddordeb – tipyn o blentyn mawr a dweud y gwir! Ond, doedd fy amserau i ddim cystal, wen i allan o wynt yn fwy, wedd e’n teimlo’n galetach ar y cyfan, a wen i’n gwbod bo’ fi’n colli diddordeb… yn gloi! Y syniad tu ôl i ‘Couch to 5k‘ yw bod e’n galluogi chi i redeg am 30 munud heb stopio a dylai hynny eich galluogi chi i redeg 5k fwy neu lai. Fe gyrhaeddais i 29 munud. Ac yn dod ben a rhedeg hwnnw heb stopio! Ond yna – diflasu. A stopio. A dim mynd ‘to ac i ddweud y gwir, doedd dim ots ‘da fi o gwbl!
Nôl i fis Ionawr ‘leni. Am na bo’ fi ‘di cael llawer o amser i feddwl am y peth, fe gofrestrais i i’r 10k yn y fan a’r lle, ac achos bo’ fi wedi talu am fy lle ac roedd yn her i griw ohonom ni, roeddwn i’n barod i ddechrau rhedeg! ‘To! Felly, y diwrnod wedyn, fe ddihunais i, gwisgo fy nghit rhedeg (achos yn amlwg, dwi’n gymaint o ‘pro’, mae popeth ‘da fi!) ac i ffwrdd a fi! Beth ‘nes i ddim ystyried o’dd, mae dim ond rhedeg mewn tywydd sych o’n i ‘di neud o’r blan! Ionawr oedd hwn. Wedd hi’n oer! Wedd y llawr yn wlyb. Ond drwy lwc, wedd hi ddim yn bwrw glaw y tro ‘ma, ond fe wlychodd fy nhraed i. Wen i ffeili delio â ‘na!! *Nodyn i fi’n hunan – pryna ‘waterproof trainers’ cyn gynted a fyddi di gatre’! (A do, fe wnes i !!!)
Ta beth, dechreuais i’r Couch to 5k ‘to ond rhai wythnosau mewn i’r cynllun, i weld sut fydden i’n ymdopi (yn bennaf achos bod ddim lot o amser cyn y 10k!) ac yn gyffredinol, er bo’ fi mas o wynt, yn goch yn fy ngwyneb ac ar fin ‘colapso!’, fe ddes i ben ai’n iawn! Yr wythnos ganlynol, cofrestrais i gyda Parkrun a rhedeg fy 5k cyntaf erioed gyda nhw! Aeth pedwar ohonom ni gyda’n gilydd, fi we’r ola’ o’r pedwar ohonom ni… ond fe wnes i fe!
Wedd hynny’n gynnydd mawr i fi, er fy mod wedi cerdded sawl gwaith yn ystod y peth! A dim fi we’ ddiwetha’!! Iei! (Ond, nid yw’n ras a does neb wir yn dod olaf oherwydd mae ganddyn nhw gerddwyr gwirfoddol sy’n aros yn y cefn a bob amser yn gorffen yn olaf!)
Fe wnes i barhau i redeg tua 2-3 gwaith yr wythnos a wen i ddim wir yn gweld cynnydd mawr iawn, ond wen i’n ‘neud e! Dyna beth oedd yn bwysig yndyfe?! Nage. Dim yn fy mhen i ta beth! Wedd ishe i fi weld y gwelliant. Sut wen i’n mynd i orffen ras 10k os bo fi dal ffili ‘neud 5k heb stopio?! Es i i’r ail Parkrun ar ben fy hunan, a wen i’n benderfynol o guro fy amser blaenorol!! Pan wen i ‘na, welais i rhywun wen i’n arfer bod yn yr ysgol gyda ac fe roddodd hynny’r push wedd ishe arnai. Wedd rhaid i fi orffen cyn hi!!! A… ffanffer plis…. Mi wnes i!! A churo fy amser o’r rhediad cyntaf! (Wedes i bo fi’n lico her!)
Ges i gynllun hyfforddi 6 wythnos wrth un o’r merched, ac roedd hwn i fod helpu fi i gyflawni rhedeg 10k. Yn llythrennol, 6 wythnos we’ ‘da fi cyn y rhediad felly benderfynais ddilyn hwn i’r gair. Dilynais y cynllun yn drylwyr a wnes i ddim colli un rhediad. Wedd ambell achlysur pan fydden i’n rhedeg mwy na beth wedd y cynllun yn gofyn am, just er mwyn herio’n hunan. Ond wen i ddim yn cael tlysau ar ap gyda hwn! Wen i’n diflasu ‘to. Methu gweld llawer o gynnydd. Wen i’n cael trafferth gyda’r rhediadau hirach. A wen i’n teimlo’n hunan yn mynd yn eithaf fflat dros y peth. Fe wnes i ddanfon neges at y grŵp Whatsapp yn dweud sut o’n i’n teimlo ac roedd pawb yn dweud wrthai bo’ fi’n ‘neud yn wych a bo’ fi ‘di dod mor bell mewn amser byr ond wen i ddim yn gweld e. A dwi’r teip sydd angen gweld na. Yn ffodus, serch hynny, fe wnes i gario ‘mla’n achos her o’dd hwn wedi’r cyfan! Wedd y 10k yn dod lan yn gloi a we’ rhaid i fi ddal ati. Wedd rhaid i fi redeg a gorffen y ras!!
Cyn y ras, wen i wedi penderfynu ac yn hapus gyda’r ffaith mae fi fydde’n gorffen olaf allan o’r grŵp, ond erbyn hyn wedd meddylfryd cyffredinol fi wedi newid! Fe wnes i gadw atgoffa fy hunan, bo’ fi wedi hyfforddi ar gyfer hwn o ddim byd. Yn gyflym iawn. Wen i just ishe mynd dros y llinell derfyn. Gorffen e. Fydde hynny’n gamp i fi!
Daeth diwrnod y 10K! Wen i’n teimlo’n iawn ond wen i ddim yn siŵr beth i ddisgwyl achos wen i ‘rioed wedi ‘neud y fath hyn o beth o’r blaen! Aethon ni gyd i’r llinell gychwyn, aros ychydig a chyn bo hir, bant a ni! Wen i ‘di penderfynu peidio trio cadw lan ‘da phawb arall, a dim ond rhedeg ras fi’n hunan. Gweithiodd hyn yn dda i fi achos wen i ddim yn teimlo unrhyw bwysau i gadw lan gyda unrhyw un arall. Wedi dweud ‘ny, trwy gydol y ras, wedd gweld bo fi o fla’n rhai o’r merched bob hyn a hyn, wedyn tu ôl, wedyn o fla’n.. yn cadw fi fynd. Sylweddoles i bo fi ddim yn ‘neud mor wael wedi’r cyfan! Fe wnes i stopio a cherdded ychydig o weithiau, nid am gyfnod hir, ond digon i ddal fy anadl ac ail-ffocysu. Ond yr hyn ‘na’th synnu fi, o’dd bod lot o bobl yn stopio i gerdded! Ma’ hyn yn rhywbeth dyw pobl ddim yn sôn amdano mewn gwirionedd! Pan wen i’n hyfforddi ac yn gweld ‘stats’ pawb arall ar Strava, cymerais i’n ganiataol bo’ nhw gyd yn rhedeg heb stopio. Reality check wedd y 10k! We’ nhw ddim! Fi’n shwr bo rhai heb stopio ond mae cymaint o bobl yn! A ma’ hynny’n hollol iawn! Sim ishe poeni am y peth! Dechreuais i feddwl a sylweddoli bo fi’n rhedeg mwy nag y byddwn i wedi ‘neud o’r blaen ac bo’ hynny’n wych! Danfonodd un o’r merched fideo byr i fi ar ôl y neges a anfonais am fy niffyg cynnydd. Dywed y fideo ‘Ti’n meddwl dy fod ti’n rhedwr gwael? Dim ond 6% o boblogaeth y byd sy’n rhedeg. Os llwyddi di i redeg 5km, rwyt ti’n perthyn i’r 10% uchaf. Efallai na’ bo’ ti mor wael a ti’n feddwl!’ Ac fe wnaeth hynny fy nghadw i fynd a sicrhau fy mod yn cyflawni 10k eleni!
Ond, chi shwr o fod wedi dyfalu le ma’r stori yma’n mynd! Stopiais i rhedeg wedyn! Wen i wedi ‘neud yn her! Wen i’n gwybod byddai hyn yn digwydd ‘fyd! Ond… dwi wedi bod mas yn rhedeg cwpwl o weithiau ers y 10k, jyst dim lot! Ond mae’n iawn dechrau a stopio rhedeg. Os byddwch chi’n meddwl am redeg, ewch. Gwnewch ychydig. Gweld sut mae’n mynd. Os byddwch chi’n parhau ag e, gwych. Os na, triwch ‘to pan fyddwch chi’n meddwl am y peth nesaf! D’ych chi byth yn gwybod beth gallech chi gyflawni! Dwi’n brawf o ‘ny!
Maen nhw’n gweud bod ymarfer corff mor bwysig i iechyd – iechyd corfforol a meddyliol – ond mae’n iawn peidio a’i wneud drwy’r amser. Rhowch gynnig arni. Rhowch gynnig arni pan allwch chi, pan fyddwch chi’n teimlo’n barod. Dwi’n enghraifft wych o sut ‘ych chi’n joio fe weithiau, ond weithiau ‘dych chi ddim. Ond cofiwch, pan fyddwch chi’n rhoi cynnig ar ychydig o ymarfer corff, fel dywed yn Saesneg – ‘You’ve got this!’ Amdani!