Athrawon a Rhieni / Gwarchodwyr

Gwybodaeth i athrawon a rhieni / gwarchodwyr ar gefnogi pobl ifanc

Athrawon

Tra bo ymwybyddiaeth o faterion iechyd meddwl o fewn y system addysg yn gwella, bydd maint y gefnogaeth a roir i athrawon ac i fyfyrwyr fel ei gilydd yn amrywio o ysgol i ysgol. I athrawon, mae lles a buddiannau myfyrwyr yn flaenoriaeth amlwg. O’r herwydd, mae ar athrawon angen teimlo’n ddigon hyderus i gefnogi pobl ifanc sydd â phroblemau iechyd meddwl.

Pecyn ‘Mae gan bawb iechyd meddwl’

Lansiwyd pecyn newydd ‘Mae Gan Bawb Iechyd Meddwl’ ar faes Eisteddfod yr Urdd 2019. Mae’n becyn y gall rhieni, athrawon a swyddogion sy’n gweithio gyda phobl ifanc ei ddefnyddio i drafod ac ystyried iechyd meddwl.

Mae’r pecyn addysgol yn cynnwys animeiddiad, cynlluniau gwers, posteri a thaflenni gwybodaeth ac wedi ei argraffu gyda chymorth grant Ras yr Iaith. Cafodd y pecyn gwreiddiol cyfrwng Saesneg ei ddatblygu gan Ganolfan Genedlaethol Anna Freud, elusen iechyd meddwl plant, er mwyn i bobl ifanc ddeall eu hiechyd meddwl yn well a deall sut i gefnogi eu ffrindiau ac eraill o’u cwmpas. Mae holl adnoddau’r pecyn ar gael yma.


Rhieni / Gwarchodwyr

Gall darganfod bod plentyn yn cael trafferth ymdopi fod yn ofidus i rieni. Mae siarad â’ch plentyn mewn ffordd dderbyniol ac agored yn gam pwysig er mwyn goresgyn y sefyllfa.

Gwrandewch yn ofalus ar yr hyn maent yn ei ddweud
Gofynnwch sut y maent yn teimlo. Os byddwch yn ofalus ac yn ddigynnwrf mae’n iawn i drafod hunan-niweidio neu hunanladdiad.

Ceisiwch fod yn dderbyniol ac yn agored
Hysbyswch eich plentyn eich bod chi yna iddyn nhw, a’ch bod yn eu caru. Sicrhewch eu bod yn gwybod ei bod hi’n iawn i drafod eu gofidiau ac eich bod yn eu cefnogi.

Cynigiwch eu helpu
Gallwch gynnig cysylltu â Samaritans, meddyg teulu neu gwnselydd. Ceisiwch osgoi cymryd rheolaeth – mae nifer o bobl sy’n hunan-niweidio yn ei ddefnyddio fel ffordd o gael rhyw fath o reolaeth dros eu bywyd. (darllen rhagor)