Athrawon

Tra bo ymwybyddiaeth o faterion iechyd meddwl o fewn y system addysg yn gwella, bydd maint y gefnogaeth a roir i athrawon ac i fyfyrwyr fel ei gilydd yn amrywio o ysgol i ysgol. I athrawon, mae lles a buddiannau myfyrwyr yn flaenoriaeth amlwg. O’r herwydd, mae ar athrawon angen teimlo’n ddigon hyderus i gefnogi pobl ifanc sydd â phroblemau iechyd meddwl.

Pecyn ‘Mae gan bawb iechyd meddwl’

Lansiwyd pecyn newydd ‘Mae Gan Bawb Iechyd Meddwl’ ar faes Eisteddfod yr Urdd 2019. Mae’n becyn y gall rhieni, athrawon a swyddogion sy’n gweithio gyda phobl ifanc ei ddefnyddio i drafod ac ystyried iechyd meddwl.

Mae’r pecyn addysgol yn cynnwys animeiddiad, cynlluniau gwers, posteri a thaflenni gwybodaeth ac wedi ei argraffu gyda chymorth grant Ras yr Iaith. Cafodd y pecyn gwreiddiol cyfrwng Saesneg ei ddatblygu gan Ganolfan Genedlaethol Anna Freud, elusen iechyd meddwl plant, er mwyn i bobl ifanc ddeall eu hiechyd meddwl yn well a deall sut i gefnogi eu ffrindiau ac eraill o’u cwmpas. Mae holl adnoddau’r pecyn ar gael yma ac mae modd darllen am y lansiad yma.

Sut mae cefnogi disgyblion sydd â chyflwr iechyd meddwl?

Os daw person ifanc atoch ynglŷn â’i iechyd meddwl, fe all fod yn anodd gwybod beth i’w wneud neu i’w ddweud. Mae’n debyg na fydd y person ifanc yn hollol siŵr o beth i’w ddweud ychwaith. Efallai ei bod hi wedi cymryd dyddiau neu hyd yn oed wythnosau iddynt ddod i siarad â chi – mae gofyn cryn ddewrder i siarad am iechyd meddwl. Mae’n bwysig bod yn barod i wrando heb fynd i banig.

Os bydd arnoch angen dweud wrth rywun arall am yr hyn mae person ifanc wedi ei ddweud wrthych, ceisiwch eu hysbysu am hynny. Os ydynt yn gwybod â phwy mae arnoch chi angen siarad a pham, ni fyddant yn teimlo fel petaech wedi eu bradychu.

Yn y dosbarth

Mae dosbarthiadau yn gallu esgor ar gryn orbryder. Os ydym yn isel ein hysbryd, fe all ein hymennydd arafu. Bydd hi’n anodd canolbwyntio a gall darllen ac ysgrifennu fod yn her. Os bydd person ifanc yn datgelu i chi eu bod yn ei chael hi’n anodd, siaradwch â nhw. Trafodwch eu symptomau, sut mae’r rheiny’n effeithio ar eu hastudiaethau a sut y gallwch chi helpu.

Gall pethau bychain wneud llawer o wahaniaeth. Gall eistedd ym mlaen yr ystafell a chymryd pum munud allan o’r dosbarth fod o fudd i’r myfyriwr os oes arnynt angen hoe. Fel arall, gall fod yn well ganddynt eistedd yn y cefn oherwydd ymdeimlad o ddiogelwch. Gallech hefyd drafod sut mae eu salwch yn effeithio eu gallu i gyflawni gwaith cartref a gwaith cwrs a gweithio gyda nhw er mwyn cael hyd i ddulliau i ymdrin â hynny.

[darllen rhagor]

Cefnogi lles staff mewn ysgolion

Mae dysgu yn swydd anodd. Gall fod yn werth chweil ond gall flino rhywun yn gorfforol ac emosiynol hefyd. Os ydyn ni eisiau i’n staff wneud yr hyn sy’n ddisgwyliedig ganddynt, rhaid i ni sicrhau bod digon o adnoddau er mwyn cynnal eu hiechyd meddwl a’u llesiant.

Mae’r llyfryn hwn yn cynnig arweiniad ymarferol am yr hyn all staff a’r uwch-dîm rheoli mewn ysgolion wneud er mwyn cefnogi llesiant eu cydweithwyr.

Datblygwyd y llyfryn hwn gydag arbenigwyr iechyd meddwl Canolfan Anna Freud, ac mae’n anelu i roi arweiniad syml ac enghreifftiau ymarferol i staff o arferion da mewn ysgolion eraill wrth roi strategaeth llesiant ar waith. Mae’n rhoi sylw i faterion fel: “Beth mae lles staff yn ei olygu?”, “Sut beth yw goruchwyliaeth mewn ysgolion?” a “Gofalu am eich lles eich hun”.

Gallwch lawrlwytho’r pecyn Cymraeg yn ei gyfanrwydd am ddim yma.

Dolenni ac adnoddau allanol