Trafodaeth ar iechyd meddwl yn Eisteddfod yr Urdd
Trafodaeth ar iechyd meddwl
2pm, dydd Gwener, 1 Mehefin
Stondin Cymdeithas yr Iaith yn Eisteddfod yr Urdd
Cynhelir trafodaeth ar iechyd meddwl, ar y cyd rhwng meddwl.org a Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, yn Eisteddfod yr Urdd eleni, ar ddydd Gwener y 1af o Fehefin am 2pm ar stondin y Gymdeithas.
Yr aelodau ar y panel drafod fydd:
– Dr Dai Lloyd AC
– Gwen Goddard o’r elusen Hyfforddiant Mewn Meddwl
– David Williams ar ran meddwl.org
– Siân Howys o Gymdeithas yr Iaith
Ymhlith y pynciau a drafodir fydd iechyd meddwl ymhlith pobl ifanc, a gwasanaethau iechyd meddwl Cymraeg. Yn dilyn y drafodaeth bydd cyfle am sgwrs anffurfiol.