80% o ferched yn eu harddegau yn dioddef o salwch meddwl difrifol yn dilyn ymosodiad rhywiol : The Guardian

Mae pedair merch o bob pump sydd wedi profi ymosodiad rhywiol yn dioddef o broblemau iechyd meddwl difrifol fisoedd ar ôl yr ymosodiad arnynt, yn ôl canfyddiadau ymchwil newydd.

Canfuwyd bod goroeswyr ymosodiadau yn dioddef o orbryder, iselder ac anhwylder straen wedi trawma (PTSD) bedwar i bum mis ar ôl ymosodiad arnynt.

Dywedodd arbenigwyr bod y canfyddiadau yn cadarnhau y gall dioddef camdriniaeth yn ystod plentyndod arwain at broblemau iechyd meddwl a all barhau tan eu bod yn oedolion, ac mewn rhai achosion yn medru parhau am byth.

Dywedodd Tom Madders, cyfarwyddwr ymgyrchoedd elusen YoungMinds:

“Mae’r ymchwil pryderus hwn yn dangos yn glir yr effaith ddinistriol y gall ymosodiad rhywiol ei gael ar iechyd meddwl, ac yn dangos pwysigrwydd cefnogaeth iechyd meddwl hirdymor i oroeswyr.” [cyfieithiad]

Cyhoeddwyd canfyddiadau’r astudiaeth yn y cylchgrawn meddygol The Lancet Child and Adolescent Health.

Darllen rhagor : The Guardian (Saesneg)