Prosiect archeoleg ar gyfer iechyd meddwl : BBC

aberMae elusen yn defnyddio archeoleg i helpu pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl.

Mae Mind Aberystwyth yn adeiladu ar waith a wnaed gan Mind ac Operation Nightingale i gofnodi manylion cofebion rhyfel yn y dref a’r pentrefi cyfagos er mwyn helpu eu cynnal a’u cadw.

Mae’n gobeithio bydd y prosiect, sy’n cyd-fynd yn fras â chanmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf, yn darparu profiadau da i bobl sydd â phroblemau iechyd meddwl.

Ariennir y prosiect gan grant o £5,500 gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri.

Dywedodd Prif Weithredwr Mind Aberystwyth, Fiona Aldred: “Mae mwy a mwy o dystiolaeth yn dangos bod prosiectau fel hyn yn medru hybu lles a chynorthwyo gydag adferiad, ac rydyn ni’n gobeithio y bydd ein prosiect ni yn ychwanegu at hynny.”

Mae’r prosiect yn dechrau yn hwyrach y mis hwn ac yn parhau tan y 25ain o Fawrth.

 

Stori wreiddiol: BBC (Saesneg)

image_pdfPDFimage_printArgraffu
Rhannu

Gadael Ymateb