Matt Johnson yn trafod ei iselder : Golwg360
Y cyflwynydd 34 oed o Gaerffili, Matt Johnson, yw’r diweddaraf i drafod ei iselder yn agored, a hynny mewn rhaglen ddogfen newydd ar S4C nos Fercher (Mai 10).
Mae Matt Johnson yn wyneb cyfarwydd am iddo gyflwyno’r rhaglen gylchgrawn This Morning ar ITV ynghyd â chyfres Hwb i ddysgwyr Cymraeg ar S4C rai blynyddoedd yn ôl.
Ond mae’r rhaglen Matt Johnson: Iselder a Fi yn datgelu ei frwydr bersonol gydag iselder a’r adeg pan oedd bron â chymryd ei fywyd ei hun a sut y cadwodd hynny’n gyfrinach am flynyddoedd.
Mae’r wythnos hon yn Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl, ac mae S4C wedi paratoi cyfres o raglenni’n rhoi sylw i’r maes.
Un o’r rheiny yw rhaglen nos Sadwrn (Mai 13) yn dilyn profiadau Alaw Griffiths, 33 oed, sef golygydd y gyfrol Gyrru drwy Storom gafodd ei chyhoeddi ddwy flynedd yn ôl a’r gyfrol gyntaf yn y Gymraeg i drafod iechyd meddwl.
Mae rhaglen am Stephen Hughes o Ynys Môn sy’n trafod hunanladdiad ei dad a phroblemau iechyd meddwl mewn cymunedau gwledig – Colli dad, siarad am hynna nos Sul (Mai 14).