Lansio ymgyrch i ddynion : Amser i Newid Cymru

Mae Amser i Newid Cymru wedi lansio ymgyrch newydd yn ddiweddar i annog dynion i drafod eu hiechyd meddwl heb ofni cael eu beirniadu.

Nod yr ymgyrch Mae Siarad yn Hollbwysig yw grymuso dynion i drafod eu trafferthion ag iechyd meddwl yn agored.

Dywedodd June Jones, Arweinydd Ymgyrchoedd a Strategaeth yr ymgyrch:

“Mae gwrywdod niweidiol (toxic masculinity) yn broblem fawr sy’n ei gwneud hi’n anodd i ddynion drafod problem iechyd meddwl yn agored: Caiff ymadroddion fel ‘bod yn gryf’, ‘peidio â dangos teimladau’ ac ‘nid yw dynion yn crio’ eu defnyddio mewn ffordd negyddol i feirniadu dynion sy’n cydnabod bod ganddynt iechyd meddwl gwael.”

Darllen rhagor : Amser i Newid Cymru