Lansio pecyn ‘Mae gan bawb iechyd meddwl’
Lansiwyd pecyn newydd ‘Mae Gan Bawb Iechyd Meddwl’ ar faes Eisteddfod yr Urdd.
Mae’n becyn y gall rhieni, athrawon a swyddogion sy’n gweithio gyda phobl ifanc ei ddefnyddio i drafod ac ystyried iechyd meddwl.
Mae’r pecyn addysgol yn cynnwys animeiddiad, cynlluniau gwers, posteri a thaflenni gwybodaeth ac wedi ei argraffu gyda chymorth grant Ras yr Iaith. Cafodd y pecyn gwreiddiol cyfrwng Saesneg ei ddatblygu gan Ganolfan Genedlaethol Anna Freud, elusen iechyd meddwl plant, er mwyn i bobl ifanc ddeall eu hiechyd meddwl yn well a deall sut i gefnogi eu ffrindiau ac eraill o’u cwmpas.
Mae tîm o wirfoddolwyr gwefan meddwl.org wedi bod yn gweithio ar addasu’r pecyn i’r Gymraeg, gyda Sophie Ann Hughes yn arwain ar y gwaith. Dywedodd:
“Rydym yn gwybod fod na fwy a mwy o bwysau ar bobl ifanc y dyddiau yma mewn bywyd llawn cyfryngau cymdeithasol, ‘photoshop’ a phwysau academaidd ar ben hynny. Mae’n bosibl hefyd fod rhieni llawer o’r bobl ifanc yma yn dod o genhedlaeth ble na fyddai iechyd meddwl wedi arfer cael ei drafod mor agored, ac felly mae llawer o bwysau ar athrawon i fod o gymorth.”
“Mae’r athrawon hyn mewn sefyllfa anodd, ac angen mwy o arweiniad nac erioed. Felly mi aethom ni ati i gydweithio efo Canolfan Anna Freud i ddatblygu’r pecyn addysgol fyddai’n cynnig yr arweiniad hwnnw. Rydym ni eisiau gweld sefyllfa ble mae plant a phobl ifanc yn cael yr addysg angenrheidiol fel y gallant edrych ar ôl eu hunain a’u ffrindiau. A thra fod adnodd o’r fath ar gael i athrawon cyfrwng Saesneg, roeddem yn gweld fod angen gwirioneddol am adnoddau o safon yn y Gymraeg gan fod trafod yn dy famiaith yn gwneud byd o wahaniaeth.”
Bydd y pecyn yn cael ei ddosbarthu i bob ysgol Gymraeg a dwyieithog yng Nghymru. Bydd hefyd ar gael i’w lawrlwytho am ddim o wefan meddwl.org. Ychwanegodd Sophie:
“Er fod y pecyn wedi ei greu fel adnodd i athrawon, mi ellir ei ddefnyddio yn ehangach hefyd gan unrhyw un sydd yn gweithio gyda phobl ifanc a’u teuluoedd. Mae gan bawb iechyd meddwl, ac er lles ein pobl ifanc ni’n arbennig mae’n hollbwysig ein bod ni’n siarad a thrafod y peth yn fwy agored.”