Gwyddonwyr yng Nghaerdydd yn gwneud datblygiad enfawr i ddeall sgitsoffrenia : WalesOnline

Mae gwyddonwyr ym Mhrifysgol Caerdydd wedi gwneud datblygiad sylweddol i ddeall, ac o bosib, i drin, sgitsoffrenia.

Edrychodd yr astudiaeth fwyaf o’i fath ar 100,000 o bobl, gan gynnwys 40,000 oedd â diagnosis o sgitsoffrenia, gan ddarganfod bod rhai ‘ardaloedd’ penodol mewn genynnau yn cynyddu’r risg o ddatblygu’r cyflwr iechyd meddwl.

Darganfu’r ymchwilwyr hefyd bod rhai o’r genynnau a adnabuwyd fel rhai sy’n cynyddu’r risg o sgitsoffrenia eisoes wedi eu cysylltu ag anhwylderau niwroddatblygiadol, gan gynnwys anabledd deallusol ac anhwylderau ar y sbectrwm awtistiaeth.

Darllen rhagor : WalesOnline (Saesneg)


image_pdfPDFimage_printArgraffu
Rhannu

Gadael Ymateb