CFfI yn rhyddhau sengl i godi ymwybyddiaeth am iechyd meddwl

Rydyn ni’n falch iawn i gyhoeddi bod Clwb Ffermwyr Ifanc Cymru wedi penderfynu recordio sengl elusennol ar gyfer Dydd Miwsig Cymru gyda chyfraniad o’r elw yn mynd i meddwl.org!


Dyma ran o erthygl am y stori o wefan lleol.net:

Mae Clwb Ffermwyr Ifanc Cymru yn rhyddhau sengl a fydd yn fersiwn o’r gân ‘Bydd Wych’ gan Rhys Gwynfor mewn cydnabyddiaeth a Dydd Miwsig Cymru gan hefyd ennyn sylw at elusen iechyd meddwl Cymraeg.

Bydd y gân yn cynnwys aelodau o’r deuddeg ffederasiwn ledled Cymru gan gydweithio a’r gantores a’r gyflwynwraig teledu Lisa Angharad yn ogystal a BBC Radio Cymru. Mae’r prosiect wedi ei ariannu gan adran Gymraeg y Llywodraeth.

Mae CFfI Cymru yn bwriadu rhoi canran o’r arian wrth werthu’r sengl i elusen iechyd meddwl Cymraeg yma yng Nghymru, meddwl.org. Mae’r elusen meddwl wedi’w selio ar wefan ble mae posib dod o hyd gefnogaeth; boed hynny’n darllen am brofiadau eraill, dysgu mwy am iechyd meddwl neu gwybodaeth am ble i gael cymorth. (darllen rhagor : lleol.net)

Gallwch lawrlwytho’r sengl yma