Galw am fwy o gymorth yn Gymraeg
Ar Ddiwrnod Iechyd Meddwl y byd, mae sefydlwyr a chefnogwyr gwefan iechyd meddwl yn galw am ragor o wasanaethau Cymraeg.
Sefydlwyd gwefan meddwl.org fis Tachwedd 2016 mewn ymgais i fynd i’r afael â’r diffyg cymorth a gwybodaeth sydd ar gael i bobl sy’n byw gyda salwch meddwl. Mae’r wefan yn darparu gofod i bobl drafod, rhannu profiadau a chael gwybodaeth am iechyd meddwl yn Gymraeg.
Dywedodd Hedd Gwynfor, un o sylfaenwyr gwefan meddwl.org:
“Mae’r sefyllfa yn gwbl annigonol. Mae darparu gwasanaethau iechyd meddwl yn Gymraeg yn fater o angen, nid dewis. Rydyn ni’n gobeithio bod y profiadau sy’n cael eu rhannu ar meddwl.org yn dystiolaeth i’r Byrddau Iechyd a llunwyr polisïau pa mor bwysig, ac angenrheidiol, yw derbyn gofal iechyd meddwl yn Gymraeg.”
Yn ôl ffigyrau a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Gymdeithas yr Iaith, mae canran y staff ym maes iechyd meddwl sy’n medru’r Gymraeg yn isel iawn – gyda’r ganran mor isel â 1.9% mewn rhai byrddau iechyd.
Ychwanegodd Manon Elin, sydd hefyd yn un o sylfaenwyr gwefan meddwl.org:
“Mae pobl yn defnyddio’r gwasanaethau iechyd meddwl pan eu bod ar eu mwyaf bregus, felly mae’n bwysig eu bod yn medru cyfathrebu yn yr iaith maen nhw’n teimlo’n fwyaf cyfforddus yn ei siarad, yn enwedig gan fod siarad a chyfathrebu yn rhan mor ganolog o’r driniaeth ac o’r broses i wella.”
Mae Sophie Ann hefyd yn un o dîm meddwl.org, ac wedi gwneud gwaith ymchwil ar y pwnc, sydd wedi dangos bod derbyn gwasanaethau therapi siarad drwy ail iaith yn gallu effeithio ar fynegiant a datgeliad y claf, ar eu perthynas gyda’r ymarferydd ac ar effeithiolrwydd y gwasanaeth ar ei hyd. Roedd y canlyniadau hefyd yn pwysleisio na ddylai’r claf fod yn ysgwyddo’r baich o sicrhau eu bod yn derbyn gwasanaeth Cymraeg.
Bu Sophie yn rhan o drafodaeth a drefnwyd gan Gomisiynydd y Gymraeg yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni. Disgrifiodd y Comisiynydd y sefyllfa yn ‘annerbyniol, eilradd a pheryglus.’ Dywedodd Meri Huws:
“Gan nad yw iechyd meddwl yn rhywbeth y gallwch ei weld, mae’n rhaid siarad i gyfleu a disgrifio’r teimladau a’r meddyliau tywyllaf a mwyaf personol – ac mae gwneud hynny mewn ail iaith yn boen a straen ychwanegol nad yw claf bregus ei angen.”
Aelod arall o’r drafodaeth oedd Alaw Griffiths, golygydd Gyrru Drwy Storom, y gyfrol Gymraeg gyntaf ar iechyd meddwl a gyhoeddwyd yn 2015. Esboniodd Alaw:
“Mi wnes i ddioddef o iselder ar ôl geni a chael cynnig therapi siarad trwy gyfrwng y Saesneg. Ar y pwynt yna, doedd gen i ddim mo’r egni i ofyn am wasanaeth yn y Gymraeg. A dwi’n meddwl fod hynny yn wir am y mwyafrif o gleifion iechyd meddwl – y cyfan maen nhw eisiau ei wneud ydy gwella, beth bynnag fo iaith y driniaeth. Pe byddwn i wedi bod gyda’r egni i fynnu gwasanaeth trwy gyfrwng y Gymraeg, gallai aros yn hir am driniaeth oherwydd diffyg darparwyr fod wedi bod yn beryg bywyd. Dyw dioddefwyr ddim mewn stad feddyliol i ymgyrchu felly mae’n rhaid i bethau newid.