Hafal yn lansio gwasanaeth Cyngor Iechyd Meddwl ac Arian : Iechyd Meddwl Cymru
“Mae Hafal, fel rhan o Mental Health UK, wedi lansio’r gwasanaeth Cyngor Iechyd Meddwl ac Arian yn ddiweddar.
Dyma’r gwasanaeth cyntaf sydd ar gael ar draws y DU sydd yn benodol ar gyfer cefnogi pobl sydd wedi eu heffeithio gan broblemau iechyd meddwl gan gynnwys gofalwyr, teuluoedd, ffrindiau a gweithwyr proffesiynol o fewn yr ardal.
Mae ein gwefan yn daprau gwybodaeth, cymorth a chyngor am ddim ac sy’n wrthrychol i unrhyw un sydd yn dioddef problemau iechyd meddwl ac arian. Mae hyn yn cynnwys cymorth i ffrindiau, teuluoedd, gofalwyr a gweithwyr proffesiynol sydd yn gweithio yn yr ardal.”