Cyngor am iselder yn y Sioe Fawr : BBC Cymru Fyw

Lilwen JoynsonYr wythnos hon yn y Sioe Amaethyddol yn Llanelwedd bydd ffermwraig sydd wedi dioddef o iselder ei hun yn cadeirio trafodaeth ar faterion yn ymwneud ag iechyd meddwl mewn cymunedau gwledig.

Dywedodd Lilwen Joynson:

“Dwi’n gobeithio y bydd nifer yn dod i’r seminar – rhaid cael gwared o’r stigma sydd ‘na am iechyd meddwl yn enwedig yn y byd ffermio.

Does yna ddim cywilydd cyfaddef gwendid – rhaid i ni ddysgu sylwi ar ein gilydd, fel ein bod yn gallu edrych ar ôl ein gilydd yn well.

Dwi wedi wynebu cyfnod tywyll iawn ond mi ddes i allan ohono.

Rhaid peidio cuddio ac esgus fod pethau’n iawn. Does ‘na ddim cywilydd.”

Cynhelir y drafodaeth ar ddydd Iau, 26 Gorffennaf, 11am, Pafiliwn UAC.

Darllen rhagor : BBC Cymru Fyw


image_pdfPDFimage_printArgraffu
Rhannu

Gadael Ymateb