Cymorth i fyfyrwyr ag alcoholiaeth yn undeb Caerdydd : BBC Cymru Fyw
Mae myfyriwr wedi sôn am ei brwydr ag alcoholiaeth, wrth i sesiynau Alcoholics Anonymous wythnosol gael eu sefydlu yn Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd.
Yn ystod ei chyfnod gwaethaf, roedd Marie – nid ei henw iawn – yn yfed 15 peint o seidr y dydd:
“Ro’n i’n teimlo na allen i fyw gyda’r peth ddim rhagor, ro’n i jest eisiau iddo ddod i ben.
Fe gollais fy ffrindiau, ro’n i’n unig, ac ro’n i’n teimlo nad oeddwn i eisiau parhau fel hyn. Fe gafodd effaith negyddol ar fy iechyd meddwl, gorbryder ac iselder ofnadwy, a meddyliau am orffen fy mywyd.”