Ymchwilwyr Caerdydd yn canfod cysylltiad genetig newydd â sgitsoffrenia : Prifysgol Caerdydd

Dr Elliot Rees

Mae ymchwilwyr Prifysgol Caerdydd wedi canfod mwtaniadau newydd mewn genyn sy’n cynnig mewnwelediad newydd i achosion biolegol sgitsoffrenia.

Bu Dr Elliott Rees yn dadansoddi data geneteg gan 3,444 o deuluoedd wedi’u heffeithio gan sgitsoffrenia, yn yr astudiaeth fwyaf o’i math.

Mae’r canfyddiadau, a gyhoeddwyd yn y cyfnodolyn Nature Neuroscience, yn cynnig mewnwelediad pellach i’r achosion sy’n sail i sgitsoffrenia, cyflwr iechyd meddwl cyson ddifrifol sy’n gallu achosi rhithwelediadau a lledrithiau.

Y nod yn y pen draw yw datblygu therapïau newydd ar gyfer y cyflwr, sy’n effeithio ar tua 1% o boblogaeth y byd – a 600,000 o bobl yn y DU.

Yn ôl Dr Rees, sydd wedi bod yn gweithio ar yr astudiaeth am dair blynedd:

“Mae’r gwaith hwn yn cynyddu ein dealltwriaeth o achosion biolegol y cyflwr, ac rydym yn gobeithio y bydd yn arwain at ddatblygu triniaethau newydd mwy effeithiol, oherwydd mae canfod y prif enynnau yn cynnig targedau moleciwlaidd er mwyn datblygu cyffuriau newydd.”

Darllen rhagor : Prifysgol Caerdydd

Darllen rhagor am sgitsoffrenia ar meddwl.org

image_pdfPDFimage_printArgraffu
Rhannu

Gadael Ymateb