Bwyty’n ‘fan diogel’ i fachgen â phroblemau iechyd meddwl – BBC Cymru Fyw

Fe wnaeth bachgen â phroblemau iechyd meddwl dreulio chwe awr mewn bwyty McDonalds yng Nghaerfyrddin fel rhywle diogel i aros, yn ôl AC Ceidwadol.

Dywedodd Angela Burns yn ystod gwrandawiad o bwyllgor iechyd y Cynulliad nad oedd “unrhyw le arall” gan y bachgen i fynd.

Fe wnaeth ACau fynegi pryderon i gynrychiolwyr o’r byd iechyd ynglŷn â safon y ddarpariaeth iechyd meddwl ar gyfer plant.

Cyfaddefodd un swyddog fod y sefyllfa’n “fwy heriol” y tu allan i oriau gwaith arferol.

Darllen rhagor: BBC Cymru Fyw

image_pdfPDFimage_printArgraffu
Rhannu

Gadael Ymateb